Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cyflwyno rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol fel rhan o Wythnos Cymru Dulyn 2020 mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Cynlluniwyd yr wythnos i blethu dathliadau Dydd Gŵyl Dewi â Dydd Gŵyl Padrig ac i hyrwyddo Cymru fel cenedl hyderus, sy’n edrych y tu hwnt i’r gorwel a chenedl gyfrifol ar lefel fyd-eang.  Yn cael ei chynnal rhwng 9-13 o Fawrth, canolbwynt Wythnos Cymru Dulyn fydd Cromen Ddigidol Tŷ Cymru yn adeilad y Custom House, sydd hefyd yn gartref i EPIC, Amgueddfa Ymfudo Iwerddon.

Mae digwyddiadau’r wythnos yn canolbwyntio ar feysydd cydweithredu allweddol gan gynnwys busnes; cysylltiadau diwylliannol; academaidd; cenedlaethau’r dyfodol; cyfrifoldeb byd-eang; twristiaeth; treftadaeth; creadigrwydd a iaith yn unol â Strategaeth Ryngwladol newydd Llywodraeth Cymru. Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn bywiogi’r wledd ddiwylliannol fydd ar gael ac yn canolbwyntio ar ddatblygu rhwydweithiau a meithrin cysylltiadau newydd rhwng sectorau celfyddydol a diwylliannol Cymru ac Iwerddon.

Dydd Llun: Amgueddfeydd, Democratiaeth Ddiwylliannol a’r Gair Llafar

I lansio’r rhaglen ddiwylliannol, bydd Amgueddfa Cymru yn cynnal trafodaeth a dathliad o’r bartneriaeth rhwng Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru ac Iwerddon yn dilyn Brexit, partneriaeth sy’n rhoi pwyslais ar gydweithredu rhwng y sefydliadau.

Yna, bydd gweithgareddau Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn dechrau gyda REIC x Y Stamp: Perfformiad Barddoniaeth a’r Gair Llafar, noson amlieithog o farddoniaeth a’r gair llafar i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ac i ddathlu’r cysylltiadau diwylliannol hen a newydd rhwng y ddwy genedl. Gan ddarparu llwyfan i’n hieithoedd cynhenid, bydd y digwyddiad hwn yn arddangos doniau llenyddol Cymreig a Gwyddelig.

Dydd Mercher: Canolbwyntio ar ieuenctid, iaith a Chymry ar wasgar

I nodi’r Ddeddf arloesol yng Nghymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, yn cymryd rhan yn lansiad y bartneriaeth gyffrous rhwng platfform ddigidol iaith leiafrifol Iwerddon, TG Lurgan a sefydliad ieuenctid gwirfoddol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, sy’n darparu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i 55,000 o aelodau.

Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru hefyd yn cynnal trafodaeth panel mewn partneriaeth â gŵyl Lleisiau Eraill, gan archwilio themâu ymfudo a hunaniaeth yng Nghymru ac Iwerddon, dylanwad ein hieithoedd a’n diwylliant ar lwyfan rhyngwladol, a sut rydyn ni’n cysylltu ac ailgysylltu â’n Cymry ar wasgar. Huw Stephens o Radio 1 a 6 fydd yn cadeirio'r drafodaeth, gyda chyfraniadau gan Philip King o Ŵyl Lleisiau Eraill, Bethan Kilfoil o RTÉ, y delynores Wyddelig Laoise Kelly a’r cerddorion Lauren Ní Chasaide a Georgia Ruth. Bu’r ddwy yn rhan o brosiect cydweithredol Mamiaith a gafodd ei drefnu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ddiweddar.

Ers 2001, mae Gŵyl Other Voices wedi dod â cherddorion ac artistiaid o bob cwr o'r byd yn flynyddol i Dingle, Iwerddon i godi eu lleisiau. Yn 2019 lawnsiwyd Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi gyda chefnogaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru ac Rialtas na hÉíreann/ Llywodraeth Iwerddon, a'i chynhyrchu gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Theatr Mwldan a Triongl ac fe’i darlledwyd ar S4C.

Dydd Iau: Y celfyddydau ac iechyd, dangosiad cyntaf Ewrop o ffilm a rhwydweithio diwylliannol

O fewn y maes Celfyddydau ac Iechyd, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cynnal digwyddiad lle caiff ffilm ysbrydoledig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ‘Reflections’ ei dangos, sy’n seiliedig ar eu rhaglen ‘Dance for Parkinson’s’. Bydd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn sgwrsio â Fearghus Ó Conchúir, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, a bydd cyfle i ymarferwyr a lluniwyr polisi o Gymru ac Iwerddon rwydweithio a sgwrsio mewn cyd-destun creadigol.

Yn ogystal â hynny, a mewn partneriaeth â Culture Ireland, bydd digwyddiad rhwydweithio a thrafodaeth bwrdd crwn yn cael ei chynnal, gan archwilio cysylltiadau presennol a chyfleoedd newydd ar gyfer cydweithredu gan ganolbwyntio ar ddatblygu rhwydweithiau, partneriaethau, cyfleoedd i deithio, cyfnewid sgiliau a datblygu iaith rhwng Cymru, Iwerddon a thu hwnt.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos fydd Gŵyl y Gorwel: noswaith arbennig o gelf, iaith, cerddoriaeth a sgyrsiau. Mi fydd yn roi llwyfan i’r dangosiad cyntaf yn Ewrop o ffilm sain animeiddiedig Rhys a Meinir gan Cian Ciarán (cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd ac un rhan o bump o’r Super Furry Animals) a Bait Studios. Gan gynnwys trac sain wedi’i recordio a’i berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC a barddoniaeth wedi’i hysgrifennu gan Gruffudd Antur a’i hadrodd gan Rhys Ifans (Harry Potter and the Deathly Hallows, The Amazing Adventures of Spiderman ayyb). Mae Rhys a Meinir yn codi ias ac yn cyfleu naws y ddrama yn y stori Gymraeg hynafol hon.

Yn dilyn y dangosiad o Rhys a Meinir, bydd cyfle i’r gwesteion fwynhau perfformiad gan aelod un o fandiau mwyaf blaenllaw Cymru, Yr Ods, sef Griff Lynch a bydd sgwrs gyda’r artist digidol Mark James (Cynhyrchydd ffilm PANG! Gruff Rhys), Huw Stephens ac Eluned Hâf o Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Bydd perfformiadau byw gan gerddorion megis Kizzy Crawford a Georgia Ruth yn ystod yr wythnos hefyd.

Dydd Gwener: Arloesi Digidol

Bydd y cysylltiadau rhwng economïau celfyddydol a chreadigol Iwerddon a Chymru yn cael eu hybu yn nigwyddiad rhwydweithio’r Diwydiannau Creadigol o dan arweiniad Clwstwr, y tîm cronfa arloesi digidol gwerth £1m, ac yn y cyfarfod rhwng Siambr Fasnach Prydain ac Iwerddon.

I gloi’r rhaglen o ddigwyddiadau diwylliannol, bydd dangosiad arbennig o albwm weledol Gruff Rhys, PANG!, ac yna sgwrs gyda Gruff cyn ei berfformiad y noson honno i agor Gŵyl Sain Padrig yn Eglwys Gadeiriol Christ Church, sydd bellach wedi gwerthu allan.

 

Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru:

“Mae gan Gymru ac Iwerddon gymaint o gysylltiadau hyfryd a dwfn ac fe fydd yn bleser cael eu dathlu yn ystod Wythnos Cymru yn Nulyn 2020. Rydyn ni’n ymhyfrydu yn ein cysylltiadau diwylliannol cryf, ond hefyd mae perthynas ein dwy genedl yn cydblethu’n academaidd, mewn busnes ac yn y celfyddydau. Rwy’n hyderus y bydd y berthynas hon yn cryfhau, ac y bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’n ffrindiau yn Iwerddon yn parhau.”

Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Mae’r cysylltiadau diwylliannol a ieithyddol rhwng ein chwaer wledydd Celtaidd yn oesol ac yn gyfoes. Mae artistiaid yn dal i addasu straeon gwerin y Mabinogi ac yn rhoi tro cyfoes ar Lawysgrifau ap Huw, ac maen nhw’n cael eu mwynhau gan gynulleidfaoedd ar y ddwy ochr o Fôr Iwerddon. Rydym yn falch o gydweithio â Llywodraeth Cymru yn Nulyn i hyrwyddo diwylliant Cymraeg gyfoes yn Iwerddon. Heddiw, yn fwy nag erioed, mae’n hynod bwysig fod hunaniaeth diwylliant unigryw Cymru yn cael ei hadnabod yn Iwerddon a thu hwnt. Dyma ein drws ffrynt newydd i’r Undeb Ewropeaidd.”

Bydd pob digwyddiad gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn hyrwyddo ein gwerthoedd cyffredin ac yn cyflwyno sîn gelf gyfoes lewyrchus, sy’n edrych tuag allan ac sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Bydd Wythnos Cymru Dulyn yn dod ag ystod eang o bartneriaethau a gweithgarwch at ei gilydd er mwyn arddangos ein cysylltiadau a’n hymrwymiad i barhau i ddatblygu a chynnal y berthynas gref hon.

Gallwch weld manylion llawn y rhaglen, ynghyd â thocynnau ar gyfer y digwyddiadau cyhoeddus ar wefan Wythnos Cymru Dulyn: https://walesweekdublin.thinkorchard.com/cy/

 

Tá Wales Arts International ag obair ar chlár spleodrach d’imeachtaí ealaíon agus cultúir atá le hóstáil mar chuid de Wales Week Dublin 2020, i gcomhpháirt le Rialtas na Breataine Bige.

Ceapadh an tseachtain leis an sos idir Lá Fhéile Dáibhí agus Lá Fhéile Pádraig a líonadh, agus reáchtálfar Wales Week Dublin ón 9–13 Márta. Óstálfar croílár an chláir ag Cruinneachán Digiteach Tŷ Cymru i bhfoirgneamh Ché Theach an Chustaim, áit a bhfuil EPIC (Músaem Inimirce na hÉireann) i mBaile Átha Cliath lonnaithe freisin.

Díríonn imeachtaí na seachtaine ar phríomhréimsí comhoibrithe amhail gnó; caidrimh chultúrtha; domhan na hacadúlachta; na glúine atá le teacht; an fhreagracht dhomhanda; turasóireacht, oidhreacht, cruthaitheacht agus teanga i gcomhréir le Straitéis Idirnáisiúnta nua Rialtas na Breataine Bige. Cuirfidh Wales Arts International beocht sa tairiscint cultúir agus díreoidh sé ar líonraí a fhorbairt idir earnálacha na n-ealaíon agus an chultúir sa Bhreatain Bheag agus in Éirinn.

Cuirfear tús le clár na n-imeachtaí cultúir le díospóireacht agus ceiliúradh á óstáil ag Músaem Náisiúnta na Breataine Bige ar an gcomhpháirtíocht idir Músaeim Náisiúnta na Breataine Bige agus na hÉireann, a bhfuil comhar ina croílár aici.

Tosóidh gníomhaíocht Wales Arts International ansin le REIC x Y Stampa: Léiriú Focail Labhartha agus Filíochta, oíche filíochta na mban chun ceiliúradh a dhéanamh ar Lá Idirnáisiúnta na mBan agus ar naisc chultúir den am atá caite agus den am i láthair idir an dá náisiún. Cuirfidh an t-imeacht seo ardán ar fáil dár dteangacha dúchais, ag cur daoine óga de chuid na Breataine Bige agus na hÉireann a bhfuil bua na litríochta acu i lár an aonaigh.

Óstálfaidh Wales Art International díospóireacht phainéil i gcomhar le Other Voices, ina bhféachfar ar théamaí na himirce agus na féiniúlachta sa Bhreatain Bheag agus in Éirinn, ar thionchar ár dteangacha agus ár gcultúir ar an stáitse idirnáisiúnta; agus ar an gcaoi a nascaimid agus a n-athnascfaimid lenár ndiaspóra. Déanfaidh Huw Stephens ó Radio 1 agus 6 cathaoirleacht ar an imeacht agus glacfaidh Philip King ó fhéile Other Voices, Bethan Kilfoil ó RTÉ agus na ceoltóirí Lauren Ní Chasaide agus Georgia Ruth, a raibh páirt acu beirt i gcomhthionscadal Mamiaith de chuid Wales Arts International a rinneadh le déanaí, páirt ann.

I réimse na nEalaíon agus na Sláinte, beidh imeacht á óstáil againn ag a léireofar scannán inspioráideach ‘Reflections’ de chuid an Chompántais Náisiúnta Damhsa, An Bhreatain Bheag, atá bunaithe ar a chlár Damhsa do Ghalar Parkinson. Mar chuid den imeacht freisin, beidh Phil George, Cathaoirleach Chomhairle Ealaíon na Breataine Bige, i gcomhrá le Fearghus Ó Conchúir, Stiúrthóir Ealaíne NDCWales, agus cuirfear deiseanna líonraithe agus comhrá chruthaithigh ar fáil do chleachtóirí agus lucht déanta beartas Breatnacha agus Éireannacha i réimsí na n-ealaíon agus na sláinte.

Beimid ag déanamh iniúchadh freisin ar naisc reatha agus ar dheiseanna nua don chomhar le comhrá comhstádais agus imeacht líonraithe a bheidh á óstáil i gcomhpháirt le Cultúr Éireann, agus ag a gcuirfear béim ar líonraí, comhpháirtíochtaí agus deiseanna camchuairte a fhorbairt idir an Bhreatain Bheag, Éire agus áiteanna níos faide i gcéin.

Beidh Gŵyl y Gorwel: oíche speisialta ealaíne, theanga, cheoil agus chomhrá ar cheann de bhuaicphointí na seachtaine. Ag an imeacht sin, déanfar an chéad taibhiú san Eoraip de bheochan thumthach 360 Rhys a Meinir le Cian Ciarán (cumadóir, scríbhneoir amhrán, léiritheoir & aon chúigiú de Super Furry Animals) agus Bait Studio. Agus fuaimrian taifeadta le Ceolfhoireann Náisiúnta BBC na Breataine Bige agus filíocht coimisiúnaithe á haithris ag Rhys Ifans (Harry Potter and the Deadly Hallows, The Amazing Adventures of Spiderman etc.) mar chuid de, músclaíonn Rhys a Meinir briseadh croí agus dráma an scéil ársa seo de chuid na Breataine Bige.

I ndiaidh thaibhiú Rhys a Meinir, bainfidh aíonna taitneamh as léiriú le Georgia Ruth, amhránaí aguss scríbhneoir agus cruitire cáiliúil a bhfuil gradaim bainte aici, agus comhrá leis an ealaíontóir digiteach Mark James (Léiritheoir an scannáin PANG! le Gruff Rhys), le Huw Stephens agus le Eluned Haf ó Wales Arts International.

Agus murar leor sin, beidh tobléirithe leis na ceoltóirí Kizzy Crawford agus Georgia Ruth le linn na seachtaine, agus tiocfaidh deireadh le clár na n-imeachtaí cultúir le taibhiú an albaim amhairc PANG! de chuid Gruff Rhys agus comhrá le Gruff roimh a léiriú um thráthnóna a chuirfidh tús le Féile Naomh Pádraig. 

Creidimid go bhfuil sé riachtanach caidrimh thábhachtacha a fhorbairt leis an gcomharsa is gaire dúinn san Eoraip, anois níos mó ná riamh, agus tuiscint dhearfach ar an mBreatain Bheag agus cultúr na Breataine Bige a chur chun cinn in Éirinn. Cuirfidh gach ceann de na himeachtaí atá beartaithe againn ár luachanna coitianta chun cinn agus cuirfidh siad an Bhreatain Bheag i láthair mar náisiún a bhreathnaíonn amach sa domhan, atá freagrach go domhanda agus ag a bhfuil saol rathúil comhaimseartha ealaíon a chuireann fáilte roimh chomhoibriú agus malartú. Bainimid úsáid as na deiseanna a chuireann Wales Week Dublin ar fáil chun cur le tionchar domhanda ealaíontóirí Breatnacha agus béim a chur ar an bhfáilte chroíúil a chuirfear roimh ealaíontóirí ar cuairt ar an mBreatain Bheag freisin.

Tá sonraí iomláine an chláir, chomh maith le ticéid le haghaidh imeachtaí poiblí, ar fáil ar shuíomh gréasáin Wales Week Dublin 2020: https://walesweekdublin.thinkorchard.com