Heddiw, mae rhaglen Pont Ddiwylliannol wedi cyhoeddi enwi yr 15 partneriaeth rhwng sefydliadau yn y Deyrnas Unedig a’r Almaen, a’r rheini wedi cael arian i ddatblygu prosiectau diwylliannol sy’n edrych ar faterion sy’n wynebu cymunedau yn y ddwy wlad.

Daw’r buddsoddiad gan saith o brif bartneriaid: Fonds Soziokultur, Goethe-Institut London, Arts Council England, Arts Council of Northern Ireland, British Council, Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Pont Ddiwylliannol yw’r prosiect cyntaf sy’n golygu cydweithio rhwng yr holl sefydliadau o fewn yr un gronfa.

Nod rhaglen Pont Ddiwylliannol yw bod yn blatfform i gyfnewid artistig, gan alluogi artistiaid i gryfhau’r broses gyfnewid rhwng y Deyrnas Unedig a’r Almaen a meithrin cydweithio diwylliannol. Mae’n gwneud hyn drwy roi cyllid i bartneriaethau i ddatblygu prosiectau o dan themâu penodol, gan gynnwys: ymwneud â chymunedau mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol; gweithio mewn ardaloedd neu gyda chymunedau sy’n cael llai o gyfleoedd i ymwneud ag ymarfer diwylliannol neu gymunedau y mae mudiadau llawr gwlad wedi’u gweddnewid; a phrosiectau sy’n edrych ar ailddiffinio’r defnydd o ofod cyhoeddus.

Mae’r rhaglen newydd yn dilyn blwyddyn beilot a arweiniodd at ariannu 7 o bartneriaethau newydd rhwng 2021 a 2022. Mae tri o’r prosiectau peilot, sef ENTER, FAILSTONE ac Ode to Earth (Cam 2) wedi cael cyllid i barhau i ddatblygu eu prosiectau drwy raglen Pont Ddiwylliannol yn 2023-24. Mae’r adroddiad gwerthuso sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan Pont Ddiwylliannol heddiw yn rhoi manylion am y gwersi pwysig a ddysgwyd ac am effaith y rhaglen yn ei blwyddyn beilot.

Gwnaeth partneriaethau rhaglen 2023-24 gais drwy alwad agored a ddenodd dros 95 o geisiadau, sy’n dyst i ymrwymiad y sector diwylliannol rhyngwladol i ddatblygu gwaith sy’n arwain at newid cymdeithasol. Cafodd y ceisiadau eu hasesu a’u hadolygu gan banel annibynnol o weithwyr proffesiynol o’r Deyrnas Unedig a’r Almaen.

 

Dyma bartneriaethau 2023-24:

Haen un (partneriaethau newydd sy’n cael cyllid o hyd at £10,000):

  • Illuminate Together - Handmade Parade (Lloegr) a Kapuziner Kreativzentrum (Yr Almaen)
  • Co-creating with young voices - Mahogany Opera Group (Lloegr) a Frequenz_Festival Kiel (Yr Almaen)
  • Bespoke - Make Works Scotland 'Paved with Gold' (Yr Alban) a Kulturzentrum LUISE (Yr Almaen)
  • Going spaces: forming new connections and fostering collaboration - Motorenhalle Dresden (Yr Almaen) a SET studios London (Lloegr)
  • Growing together to facilitate community stories - THE bEAR e.V. (Yr Almaen) ac Open Past (Yr Alban)
  • Our EARTH Hour - MOTTE eV. Stadtteil & Kulturzentrum (Yr Almaen) a Head4Arts (Cymru)
  • Playing with Audio Walks: Storydive meets Produced Moon - Produced Moon (Yr Alban) a Storydive (Yr Almaen)
  • At the Table - The MAC (Metropolitan Arts Centre) (Gogledd Iwerddon) ad coculture e.V. (Yr Almaen)
  • Strictly Scottish and Schottisch - Traditional Dance Forum of Scotland (Yr Alban) a Chymdeithas Dawnsio Gwerin yr Almaen (Yr Almaen)
  • Female Spaces - vier.D (Yr Almaen) ac ACCA / Slung Low (Lloegr)
  • In Each Other’s Company – Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (Cymru) ac Of Curious Nature (Yr Almaen)

Haen dau (partneriaethau sy’n bodoli’n barod sy’n cael cyllid o hyd at £30,000):

  • ENTER - Creative Black Country (Lloegr) a Kuturvilla Nellie (Yr Almaen)
  • FAILSTONE - Folkestone Fringe (Lloegr) a’r Fine Arts Institute Leipzig - FAIL (Yr Almaen)
  • Ode to Earth (Phase 2) - VILLA Leipzig (Yr Almaen), Beyond Skin a DU Dance (Gogledd Iwerddon)
  • Between Moons. Spree~Channelsea Transmissions - Soundcamp CIC (Lloegr) ac Archipel Stations (Yr Almaen)

 

Meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Rydw i wrth fy modd fod Head 4 Arts a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi’u dewis fel rhan o raglen Pont Ddiwylliannol ac y byddan nhw’n gallu achub ar y cyfle hwn i gysylltu â’u sefydliadau partner yn yr Almaen, gan rannu a dysgu o ymarfer cymdeithasol ei gilydd a’u gwaith mewn cymunedau.  Mae ein partneriaeth yn parhau i roi cyfleoedd gwerthfawr i sefydliadau celfyddydol o Gymru i ymwneud ac i weithio yn rhyngwladol, ynghyd â meithrin perthnasau newydd â phartneriaid yn yr Almaen a ledled y Deyrnas Unedig.”

 

Meddai Frank Lange ar ran MOTTE eV. Stadtteil & Kulturzentrum a Head4Arts:

“Dyma gyfle gwych i ddwy ardal sy’n ddiwylliannol wahanol yn Ewrop i ymwneud ag ymarfer creadigol, cyfnewid syniadau a chydweithio ar ddigwyddiad peilot cerddorol a chelfyddydol arloesol sy’n rhoi sylw i’n hôl-troed ecolegol ar ddiwrnod awr y ddaear.”