Mae rownd gyntaf y Cyfle wedi ariannu symudedd i artistiaid sy'n dod i'r amlwg. Mae’n cydnabod bod angen cymorth arbennig ar artistiaid felly i ddatblygu eu hymarferion.

Mae’r Cyfle yn cryfhau'r cysylltiadau diwylliannol rhwng y gwledydd Nordig ac Iwerddon a'r DU gan hyrwyddo cyfnewid a chydweithio rhyngddynt. Mae cynghorau celfyddydau Cymru, Iwerddon, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyfuno eu harian ag arian y Gronfa Diwylliant Nordig.

Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus wedi cael arian am brosiectau cyfnewid i symud ar draws yr 8 gwlad Nordig, Iwerddon a'r DU. Y nod yw cydweithio a chwrdd ag artistiaid eraill neu sefydliadau, datblygu sgiliau, creu gwaith, cydweithio, cyfnewid syniadau ac ehangu eu gwaith a'u cyrhaeddiad.

Bydd y 30 prosiect yn digwydd yn 2026.

 

Beth sydd ar y gorwel?

Yn y misoedd nesaf, bydd partneriaid y Cyfle’n gwerthuso'r rhaglen beilot. Ond maent yn disgwyl iddo barhau yn 2026.

"Mae'r 10 gwlad yn rhannu llawer o ran diwylliant a chysylltiadau. Mae’r Cyfle’n datblygu cyfnewid diwylliannol ac ehangu'r posibiliadau i gydweithio. Roedd gweithio'n agos gyda chyrff ariannu celfyddydau’r DU ac yn Iwerddon yn brofiad gwerth chweil. Drwy gysylltiadau ar draws Ewrop a gwahanol gelfyddydau, rydym yn creu cyfleoedd i ddysgu a datblygu."

- Kristin Danielsen, Prif Weithredwr, Cronfa Diwylliant Nordig

"Rydym yn falch o fod yn bartner â chynghorau celfyddydau’r DU ac Iwerddon a'r Gronfa Diwylliant Nordig i roi'r cyfle i artistiaid gysylltu, cydweithio a rhwydweithio â phartneriaid yn y gwledydd Nordig. Nod ein rhaglen a'n harian rhyngwladol yw datblygu creadigrwydd, sgiliau ac arwain drwy ehangu gorwelion a photensial. Mae’r Cyfle’n un ffordd o gefnogi artistiaid. Rydym yn edrych ymlaen at weld cynnydd yr ymgeiswyr llwyddiannus. Llongyfarchiadau twymgalon iddynt."

– Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, y gangen ryngwladol o Gyngor Celfyddydau Cymru

"Mae Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon yn falch o fod yn rhan o gynnig y Cyfle cyntaf gyda'r Gronfa Diwylliant Nordig a'n cydweithwyr eraill. Bydd y grantiau’n creu llwybrau newydd i gydweithio a chyfnewid diwylliannol yn rhyngwladol. Bydd yn lledaenu enw da a chodi statws artistiaid Gogledd Iwerddon. Rydym am greu cyfleoedd i’n hartistiaid a’n sefydliadau ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol. Rydym wrth ein bodd i gefnogi uchelgais drwy’r Cyfle, diolch i arian gan y Loteri Genedlaethol."

– Siobhán Molloy, Swyddog Datblygu'r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon

"Rydym yn hapus i fod yn rhan o'r cyfle rhyngwladol sy'n cysylltu’r gwledydd. Mae’r Cyfle’n agor drysau newydd i artistiaid gyfnewid yn ystyrlon, rhannu safbwyntiau a thyfu'n greadigol drwy gydweithio ar draws ffiniau. Llongyfarchiadau i bob menter sy’n dod o’r Cyfle. Bydd y partneriaethau’n magu cymuned gelfyddydol ryngwladol fywiog."

– Davide Terlingo, Pennaeth y Celfyddydau Rhyngwladol, Cyngor Celfyddydau Iwerddon

"Rydym yn falch o gyhoeddi grantiau cyntaf Cyfle. Maent yn rhoi cyfle i artistiaid gysylltu ag artistiaid eraill yn rhyngwladol. Gobeithio y bydd y 30 partneriaeth yn ffurfio rhwydwaith creadigol newydd ar draws Gogledd Ewrop. Bydd gwaddol parhaol o'n huchelgais i wella cydweithio ar draws ffiniau."

– Simon Mellor, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Lloegr

“Mae’r Cyfle Symudedd cyntaf hwn yng Ngogledd Ewrop yn adeiladu ar ein hanes hir o gydweithio â’n cymdogion Nordig ac yn cynnig cyfle i genhedlaeth newydd o artistiaid greu partneriaethau diwylliannol rhyngwladol pwysig ar adeg hollbwysig yn eu gyrfa. Gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiectau creadigol a ddewiswyd yn dathlu ein treftadaethau diwylliannol amrywiol, gan eu hail-lunio a’u hail-ddylunio i greu gwaith newydd ac arloesol ar gyfer ein hoes. Rydym yn gyffrous i weld yr effaith gadarnhaol y bydd y cysylltiadau newydd hyn yn eu cael ar ddatblygiadau gwaith yn y dyfodol i gynulleidfaoedd yn yr Alban a’r effeithiau tonnog ar sector celf yr Alban.”

– Laura Mackenzie-Stuart, Pennaeth Rhyngwladol, Creative Scotland

Esiamplau o brosiectau

Mae "Talkoot Choral Cycle" yn gywaith diwylliannol rhwng Gogledd Iwerddon a'r Ffindir. Mae’r artist o Gymru ac Iwerddon sy’n byw ym Melffast, Anselm McDonnell, wedi cydweithio â Chôr Siambr Helsinci i greu cylch corawl yn y Ffinneg, y Saesneg ac Albaneg Wlster. Mae'n trafod unigrwydd a chysylltiad yn ein bywyd heddiw. Dyma gomisiwn Ewropeaidd cyntaf Anselm McDonnell.

Nod "Two shores: cyfnewid artistig rhwng Dingle/An Daingean a Reykjavík" yw codi pont a chreu deialog rhwng y ddwy gymuned artistig. Mae'r artist o Wlad yr Iâ, Tara Ingvarsdóttir, yn cydweithio â Sarah Partington, a ddechreuodd An Stiúideo/Tigh Nic Aodhagáin yn Dingle/An Daingean. Mae'r ddwy’n gweithio gyda mentrau dan arweiniad artistiaid sy’n canolbwyntio ar fagu cymuned a chydweithio.