Eleni, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal Adolygiad Buddsoddi, sef y broses sy'n penderfynu pa sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a gaiff arian aml-flwyddyn. Mae hwn yn ddarn allweddol o waith a bydd sawl aelod o’r staff yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn brysur yn ei gyflawni.

Felly wrth inni ymgymryd â'r gwaith hwn, ni fydd staff ar gael ar gyfer trafodaethau datblygu na chyfarfodydd rhwng dydd Llun 24 Ebrill 2023 a dydd Gwener 9 Mehefin 2023.

Bydd y gostyngiad yn ein gallu i ymateb i bethau eraill hefyd yn golygu na fydd dyddiad cau ym mis Ebrill ar gyfer ceisiadau Camau Creadigol.

Ond bydd ein harian Creu yn parhau fel arfer a byddwch yn gallu siarad â'r tîm Grantiau a Gwybodaeth ynghylch ymgeisio.

Cofiwch y dyddiadau hyn, fel y gallwch gynllunio o’u cwmpas.

 Os oes angen i chi siarad ag aelod o’n staff ar frys yn ystod y cyfnod hwn, gallwch wneud hynny drwy ffonio’r prif switsfwrdd.

Diolchwn ichi am eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.