Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, yn falch o wahodd sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol (orielau, rhai sy’n comisiynu gwaith a sefydliadau cyflwyno) sydd yng Nghymru, er mwyn darganfod rhagor am raglen dwy flynedd sy’n newydd ac unigryw.

Bydd Safbwynt(iau) yn paru sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol ag un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Yn y rhaglen, bydd gweithwyr proffesiynol creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol yn gweithio gydag amgueddfa sy’n bartner a sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol, i greu gwaith ac arddangosiadau newydd.

Bydd y gweithwyr proffesiynol creadigol yn archwilio, cwestiynu a herio’r ffyrdd cyfredol o feddwl yn y sefydliadau. Byddant hefyd yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol i ddarganfod safbwyntiau a straeon newydd, gyda'r nod o sicrhau newid ar lefel unigol, gymunedol a sefydliadol.

Partneriaeth a chydgynhyrchu fydd wrth wraidd y prosiect. Bydd y cyfnod o ddwy flynedd yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus, ymyriadau creadigol, arddangosfeydd ac arddangosiadau ledled Cymru. Y nod yw helpu i adeiladu sector ym maes y celfyddydau gweledol a threftadaeth sy'n decach, yn fwy cyfartal a mwy cynrychioladol.

Bydd grant o £60,000 yn cael ei gynnig i'r saith sefydliad ym maes y celfyddydau am gyfnod o ddwy flynedd o fis Ebrill 2023 ymlaen.

I ddarganfod rhagor am Safbwynt(iau), ymunwch â'r tîm o Gyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru am sesiwn ar-lein am 3pm ddydd Llun 27 Chwefror 2023.

Bydd cyfieithiad o’r Gymraeg i'r Saesneg a chynigiwn gyfieithiad ar y pryd mewn Arwyddeg. Archebwch eich lle drwy glicio ar y ddolen yma i Eventbrite

Bydd ceisiadau'n agor ar 1 Mawrth 2023 ac yn cau am 5pm ar 8 Mawrth 2023.

Mae canllawiau ychwanegol ar gael YMA.

Mae Safbwynt(iau) yn ymateb i'r ymrwymiadau a wnaethom yn y Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru ym mis Chwefror 2022. Mae'n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni nodau Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru.

Manylion Ychwanegol.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru eisiau cefnogi sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol sydd wedi ymrwymo i weithio gyda gweithwyr creadigol ysbrydoledig ac i ymgysylltu â chymunedau amrywiol.

Bydd y partneriad o’r celfyddydau gweledol a’r amgueddfa yn cydweithio i gomisiynu gweithiwr proffesiynol creadigol i greu gwaith newydd a’i gefnogi i fod yn asiant er newid.

Gallai'r gweithwyr proffesiynol creadigol fod yn artistiaid, gwneuthurwyr, curaduron, awduron neu ymarferwyr eraill sy’n gweithio yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru.

Mae prif elfennau o'r rhaglen yn cynnwys:

  • Dewis saith sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol drwy broses o alwad agored
  • Bydd y sefydliadau celfyddydol gweledol yn cael eu paru ag un o saith amgueddfa Amgueddfa Cymru i ffurfio partneriaeth
  • Bydd pob un o'r sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru yn cydgynllunio galwad i gomisiynu gweithiwr proffesiynol creadigol a gaiff ei reoli a'i gontractio gan y sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol
  • Bydd y cyfnod o 2 flynedd yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus, ymyriadau creadigol, arddangosfeydd ac arddangosiadau ar draws y sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol a'r amgueddfeydd
  • Cynhelir pedwar digwyddiad rhwydweithio yn ystod y prosiect sy'n cynnwys y gweithwyr proffesiynol creadigol, y sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol a’r amgueddfeydd a gallai gynnwys grwpiau a rhanddeiliaid eraill
  • Bydd y gwerthusiad yn cael ei arwain gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru drwy gydol y rhaglen a'i nod fydd lledaenu’r gwersi a ddysgir ymhlith y sector i ddyfnhau dealltwriaeth a phrofiad o'r gwaith

Un o amcanion comisiynu'r gweithwyr proffesiynol creadigol yw cefnogi unigolion sy'n ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.

Rydym yn diffinio 'diwylliannol ac ethnig amrywiol' yn:

  • Unrhyw un o'r diaspora Affricanaidd, Asiaidd, Caribïaidd, Sbaenaidd, Latino, Dwyrain Ewrop neu'r Dwyrain Canol yng Nghymru
  • Unrhyw un sy'n dod o grŵp ethnig nad yw'n wyn yn unig
  • Unrhyw un o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Yn ogystal â'r flaenoriaeth yma, rydym yn disgwyl i'r cyfleoedd comisiynu gefnogi ceisiadau gan unigolion o gefndir a allai wynebu rhwystrau oherwydd eu rhywioldeb, eu cefndir cymdeithasol ac economaidd neu’r ffaith eu bod yn Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol.

Sut gallwch ddefnyddio’r grant?

Bydd grant o £60,000 yn cael ei gynnig i'r sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol a fydd yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd o fis Ebrill 2023 ymlaen.

Nod yr arian yma yw cefnogi:

  • Ffi gomisiynu o £25,000 i benodi gweithiwr proffesiynol creadigol am ryw 100 diwrnod dros ddwy flynedd i ymgymryd â gwaith gyda’r sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol ac amgueddfa unigol Amgueddfa Cymru
  • Cyllideb hwyluso o £35,000 ar gyfer gweithgarwch gyda'r sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol i alluogi ymgysylltu, datblygu, cynhyrchu a chyflwyno'r gwaith gyda gweithwyr proffesiynol creadigol

Bydd gan Amgueddfa Cymru gyllideb hwyluso ar wahân ar gyfer digwyddiadau, ymyriadau, arddangosiadau ac arddangosfeydd i gefnogi gwaith gweithwyr proffesiynol creadigol ar safle'r amgueddfa unigol.

Yn ogystal, mae gennym gyllideb ddewisol i fynd i'r afael ag unrhyw ofynion hygyrchedd penodol, gan gynnwys cyfrifoldebau gofalu, i sicrhau bod yr unigolion sy'n arwain a darparu gweithgareddau'n cael eu cefnogi. Bydd y costau hyn yn ychwanegol at gyfanswm y grant. Ni fydd y gyllideb yma’n talu am weithgareddau ymgysylltu â chyfranogwyr.

Pwy all ymgeisio?

Mae Safbwynt(iau) yn agored i sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol yng Nghymru sy'n gweithio yma hefyd.

Dylech chi:

  • bod wedi hen ennill eich plwyf ym maes comisiynu gweithwyr proffesiynol creadigol a chyflwyno gwaith celfyddydol gweledol yng Nghymru gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad yn y maes
  • bod ar adeg yn eich taith greadigol a gaiff fudd sylweddol o'r gwersi a ddysgir ac o’r datblygiad a gynigir gan y cyfle
  • dangos gwir ymrwymiad a digon o allu i gymryd rhan yn y cydweithio
  • cael rhesymeg glir am y rheswm eich bod am gymryd rhan a sut y bydd eich sefydliad o bosibl yn elwa

Gall sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol nad oes ganddynt oriel wneud cais os ydynt yn gymwys ac yn bodloni meini prawf y rhaglen.

I wneud cais nid oes angen ichi amlinellu prosiect penodol yn y cais. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu ar y cyd â'r gweithwyr proffesiynol creadigol yn sgil y cam comisiynu.

Bydd angen i'r cyflwyniad gynnwys eich rhesymeg dros wneud cais, gwybodaeth am eich hanes o gyflawni ac enghreifftiau o waith eich sefydliad a'ch gallu i gymryd rhan.  Nodwch os oes gennych un o’r saith amgueddfa mewn golwg i gydweithio â hi.   Bydd angen ichi hefyd ddarparu cyllideb ddangosol.

Bydd panel sy'n cynnwys aelodau o Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a gwahoddedigion a fydd yn gyfrifol am ddewis y saith sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol.

Cewch wybod am ein penderfyniadau erbyn yr wythnos sy'n dechrau ar 20 Mawrth 2023.

I gael gwybod rhagor ewch i'r Cyflwyniad am 3pm ar 27 Chwefror.