Ar ail ddiwrnod Showcase Scotland 2022, bydd dirprwyon rhyngwladol yn cymryd rhan mewn diwrnod o drafodaeth, gan archwilio'r heriau cyfredol sy'n wynebu'r diwydiant cerddoriaeth ar draws y byd.

Buom yn sgwrsio am rhai o'r heriau yma gyda'r Cynrychiolydd Gwyliau a Lleoliadau Cymru yn Showcase Scotland, a Phrif Weithredwr Clwb Ifor Bach, Clwb Music a Gŵyl Sŵn - Guto Brychan.

 

 

Beth yw dy hoff wyliau yng Nghymru a pham?

Heblaw wrth gwrs Maes B, lle rwyf wedi bod yn gweithio arni ers bron i 20 mlynedd, a Gwŷl Sŵn rwyf wedi bod yn datblygu hefo Clwb Ifor Bach, nid ydwyf wedi cael llawer o gyfleoedd i fynd a mwynhau’r gwyliau eraill, yn enwedig gan fod Maes B yn ganol haf. Ond mi ydwyf wedi mwynhau mynd i Green Man dros y blynyddoedd diwethaf i weld bandiau. Pan o’n ifancach mi oedd Roc Ystwyth yn wych er mwyn dod i nabod bandiau Cymraeg yn well. Mi fyse hi’n neis gweld mwy ohonynt.

 

 

Mae gennym leoliadau gwych ond efallai diffyg isadeiledd ar gyfer y digwyddiadau ac i gael pobl i fewn, ac mae’n anodd ceisio datblygu’r isadeiledd hynny. Mae yna bendant potensial i weld fwy o wŷliau yma, edrychwch ar beth oedd Brecon Jazz yn medru neud, mi oedd gymaint o bobl leol ac buy-in o’r cymunedau hynny yn ogystal a denu llwyth o bobl i fewn hefo’r actiau oedd yn chwarae ac yn y blaen.

 

 

Beth yw dy hoff leoliadau yng Nghymru a pham?

Heblaw Clwb Ifor Bach yn amlwg, pan o’n i’n tyfu fyny yn Aberystwyth mi oedd gymaint o  gyfleodd i weld bandiau. Cyn dyfodiad yr O2 Academies mi oedd bandiau yn dueddol o deithio o gwmpas y wlad trwy’r undebau y myfyrwyr, felly cefais cyfle i weld bandiau fel Stone Roses yn chwarae yn Aberystwyth, sydd ddim yn bodoli nawr.

 

 

Beth sy'n wahanol am y sîn gerddoriaeth Cymraeg?

Mae’r sîn cerddoriaeth Cymraeg yn datblygu ar ei liwt ei hun. Heb yr isadeiledd mae’n datblygu’n fwy annibynol, yn idiosyncratic hefo naws ar wahan. Mae yna gymaint o greadigrwydd yma, lot o annibyniaeth ond mae gennym sialens i drosglwyddo hynny, darganfod y llwybrau i alluogi’r artistiad yma i barhau i ddatblygu yw’r sialens.

 

 

Sut ydy tirwedd y sîn gerddoriaeth Cymraeg wedi newid neu ddatblygu dros y 2 ddegawd diwethaf?

Mae yna lot llai o hyrwyddwyr, mae e’n gymaint yn fwy anodd nawr i rhoi digwyddiadau ymlaen, byse fe’n neis medru cael circuit i fandiau sy’n teithio, mae yna sialens fawr hefo ni i rhoi perfformiadau byw ymlaen tu fas i’r trefi fawr.

 

 

Pa un gair byset ti’n defnyddio i ddisgrifio’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd?

Annibynol.

 

 

Mae cerddoriaeth Cymraeg yn enill mwy a mwy o gydnabyddiaeth ar gyfryngau darlledu cenedlaethol yn y blynyddoedd diwethaf, gydag enwau fel Huw Stephens a Sian Eleri yn hyrwyddo artistiaid ar orsafoedd cenedlaethol, ydy hwn yn allweddol i ddatblygu ymwybyddiaeth yn fyd-eang?

Ddim o rheidrwydd, yn enwedig gan bod gymaint o gwahanol ffyrdd i ddarganfod cerddoriaeth. Er enghraifft Alffa yn cyrraedd miliwn o ffrydiau hefo cynulleidfa helaeth yn Nhe America, mae’r math o artist yn penderfynu pwy fath o circuits mae angen iddyn nhw fwydo i fewn ynddi. Er enghraifft hefo cerddoriaeth werin maent yn medru chwarae mewn gwŷliau ledled y byd tra i gerddoriaeth  indie neu electronig mae’n fwy o ‘stepping stone’ naturiol i chwarae dros y DU nesaf.

 

 

Mae gwyliau a lleoliadau annibynnol wedi cael pandemic mwy heriol na rhai diwydiannau eraill, oes yna pethau positif i'w gymryd? Siawns i adlewyrchu? Arloesi?

Mi oedd yn gyfle i Clwb Ifor Bach cymryd cam yn ôl a meddwl am beth yn union oedden ni eisiau bod yn gwneud fel sefydliad. Fel lleoliad mi oeddem fwy neu lai ar gau am o mis Mawrth 2020 i Awst 2021. Fuon ni’n ffodus gan bod y cefnogaeth i’r sector greadigol yng Nghymru wedi bod lot yn well nag yn ardaloedd eraill, mae’r dialog ar gael hefo adrannau o’r Llywodraeth wedi bod yn allweddol.

Rydym wedi cael cyfle i ddatblygu Clwb Music, prosiect label/rheolaeth/cyhoeddi ddechreuon ni cyn y pandemig, fel un o’r building blocks o isadeiledd yna sydd angen i gryfhau’r gymuned gerddorol yng Nghymru ac helpu artistiad i ddarganfod llwybrau i mewn i’r diwydiant. Rydym wedi gweld llwyddiant hefyd, hefo trefnu cael Buzzard Buzzard Buzzard i chwarae yn SXSW ac mae Panic Shack ar hyn o bryd ar daith o gwmpas y DU.

 

 

Mae artistiaid byd-eang yn gwneud newidiadau i sut ydynt yn teithio o achos yr argyfwng hinsawdd, sut gallwn gefnogi artistiaid gyda chynulleidfaoedd llai o maent, a’u timau, i ymgysylltu mewn ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio?

Mae riders wedi bod yn rhywbeth fawr rydym wedi gallu newid. Rydym wedi danfon bandiau allan ar daith gyda llai o bethau er mwyn iddynt cael gafael ar bethau’n lleol. Ond hefyd, ar ein lefel ni, maen ol troed yn llawer llai o faing. Mae gennych chi fand yn teithio mewn car neu fan gan fod rhan fwyaf o’r isadeiledd mae’n nhw eu hangen yn barod yn y lleoliad.

 

 

Mae lleoliadau Cymru wedi cael tipyn o sylw am resymau annodd yn y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer ohonynt wedi gorfod cau ar draws y wlad. Mae Clwb Ifor Bach yn un o’r rhai sydd wedi dangos gwytnwch trwy gydol yr anhawsterau, beth allwn wneud er mwyn galluogi lleoliadau annibynnol i oresgyn nawr ac yn y dyfodol?

Un sefydliad sydd wedi bod yn allweddol yn ystod hwn i gyd yw Music Venue Trust. Maent wedi bod ar flaen y gâd, hefo cynllun clir a chydlynol i dargedu adrannau o’r Llywodraeth. Rydym yn lwcus iawn hefo Clwb gan ein bod yn berchen yr adeilad rydym ynddi, mae’n debyg iawn na fyddem dal yma oni bai am hyn. Os ydych yn meddwl am y llefydd sydd wedi cau yng Nghaerdydd fel 10 Feet Tall a Gwdihw, landlordiaid oedd y rhesymau am hynny ac mae Music Venues Trust yn codi arian i greu cronfa  i alluogi lleoliadau i brynu’r adeiladau.

Mae lleoliadau yn creu cysylltiadau hefo’r cymuned ac maent yn llefydd mae pobl wedi dangos ei bod eisiau defnyddio felly mae’n bwysig bod nhw’n medru aros yn y llefydd yma.

 

 

Fel lleoliad, a chwmni rheoli, cyhoeddi a label sydd newydd ei sefydlu, sut gallwn gefnogi artistiaid y tu hwnt i brynu tocynnau i ddigwyddiadau byw, neu brynu eu cerddoriaeth?

Mae angen gwneud yn siŵr bod y blocs adeiladu yna. Pryd bynnag mae cerddoriaeth Cymru wedi mynd trwy cyfnod da, mae e’n cyfateb hefo cwmniau da’n bodoli hefyd i’w cefnogi, mae angen mwy o rheolwyr, mwy o hyrwyddwyr, mwy o cyhoeddwyr. Mae yna gynulleidfa digon da yma ar rhan niferoedd, mae angen ei datblygu fel mae’r diwydiant ffilm a teledu wedi medru datblygu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae angen i’r cyfleoedd o fewn y diwydiant fod yna i bobl fedru cefnogi eu hun a datblygu’n gynaliadwy. Mae cysylltiadau o fewn y diwydiant wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf ac mae pobl yn gweithio mewn ffordd lot llai ynysol nawr.

 

 

Mae Dydd Miwsig Cymru bellach yn ddathliad byd-eang o gerddoriaeth Cymraeg, pam yw e’n bwysig i hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeg yn rhyngwladol, a beth yw e’n ei feddwl i gymunedau celfyddydol Cymru?

Mae Dydd Miwsig Cymru wedi gwneud gwaith dda i gael cerddoriaeth Cymraeg i chwarae mewn llefydd na fyddent yn chwarae’n arferol ac wedi normaleiddio’r peth ac wedi gwneud pobl yn ymwybodol o pa mor gymwys yw e. Mae’n dangos bod y cerddoriaeth Cymraeg sy’n cael ei greu yn adlewyrchu’n hyn sy’n cael ei creu ymhobman arall ac yn dangod ei fod yn iaith fodern ac bod pobl yn byw eu bywydau trwy’r iaith.

 

 

Trawsgrifiad o recordiad sain yw'r testun hwn.