Gŵyl sy’n casglu ynghyd arbenigwyr o fydoedd cerddoriaeth werin, roots, a thraddodiadol, yw WOMEX, ac mae’n un o’r uchafbwyntiau yng nghalendr cerddoriaeth ryngwladol. Mae’r arddangosfa’n cynnwys 7 llwyfan, dros 700 o gwmnïau’n arddangos, 80 o siaradwyr, ffilmiau, cyngerdd agoriadol a seremoni wobrwyo, a’r cyfan yn digwydd ar draws pum niwrnod arbennig. Gan deithio ledled Ewrop, a bellach yn 25 mlwydd oed, bydd WOMEX19 yn cael ei gynnal yn Tampere, Y Ffindir ar 23-27 Hydref, ac yn cynnal rhaglen gynhadledd frodorol am y tro cyntaf erioed.

Y flwyddyn hon, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi darparu pedwar gwobr ariannol i artistiaid a sefydliadau Cymreig fel bod modd ganddyn nhw i ymweld â WOMEX 19. Y ddau sefydliad sy’n derbyn cymorth yw Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, sy'n nodedig am ddenu perfformwyr o bedwar ban y byd, a Neuadd Ogwen. Mae Dilwyn Llwyd o Neuadd Ogwen wedi bod yn arloesi wrth ddod ag artistiaid rhyngwladol i Fethesda, gyda gŵyl Ara Deg ym mis Medi’n un o’i lwyddiannau diweddar. Rydym hefyd yn falch i gefnogi cerddorion a chyfansoddwyr i deithio i WOMEX ac arddangos y gorau o gerddoriaeth werin Gymreig. Y flwyddyn hon, yr artistiaid unigol sydd wedi derbyn cefnogaeth yw Gareth Bonello, enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, a'r cyfansoddwr amryddawn a chynhyrchiol Patrick Rimes (Calan, Pendevig a Vrï). Mae Neal Thompson o Focus Wales hefyd wedi cael cymorth i ymweld drwy bartneriaeth Focus Wales gyda ni. Mae rhai o’r aelodau eraill o Gymru sy’n ymweld â WOMEX yn cynnwys Theatr Mwldan yng Ngheredigion, y cyfansoddwr a’r cynhyrchwr Colin Bass, ynghyd â Trac, cwmni sy’n hen law ar ŵyl WOMEX.

Bydd ein presenoldeb gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yn WOMEX19 o dan faner Cerdd Cymru : Music Wales. Byddwn yn gweithio mewn cydweithrediad gydag aelodau o’r Alban, Lloegr, Iwerddon a Gogledd Iwerddon drwy bartneriaeth Gorwelion. Sefydlwyd Gorwelion yn WOMEX13, ar ôl i’r digwyddiad ymweld â Bae Caerdydd. Mae Gorwelion yn sicrhau bod talent yn gallu cyrraedd marchnadoedd rhyngwladol a newydd drwy rannu adnoddau, gwybodaeth a llwyfannau rhwng gwledydd. Ynghyd â chael stondin a phresenoldeb cryf unigolion a sefydliadau i gynrychioli cerddoriaeth Gymreig, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi paratoi dwy restr chwarae a map o’r gwyliau cerddoriaeth ryngwladol sy’n digwydd yng Nghymru. Ein bwriad wrth wneud hyn yw denu rhagor o ymwelwyr WOMEX i Gymru, ac arddangos yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd i’w canfod yma.

Mae 2019 yn Flwyddyn Ieithoedd Lleiafrifol UNESCO, a bydd WOMEX19 yn cynnal rhaglen gynhadledd frodorol fel rhan ohoni. Bydd pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Eluned Hâf yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar ieithoedd brodorol gyda chynrychiolwyr o Seland Newydd, Colombia a Norwy. Bydd y panel yn trafod defnyddio cerddoriaeth i godi ymwybyddiaeth ar ran siaradwyr ieithoedd brodorol, yn ogystal â grym cerddoriaeth i greu llwybr at werthfawrogi iaith a’i heffaith ar fywyd diwylliannol ein byd. Fel rhan o’r flwyddyn UNESCO, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ac ieithoedd brodorol rhyngwladol.

Bydd cyfarwyddwr Trac, Danny Kilbride hefyd yn cadeirio cyfarfod Rhwydwaith Frodorol yn ystod WOMEX19. Bwriad y cyfarfod yw dod ynghyd er mwyn dysgu ac archwilio cyfleoedd i gydweithio, boed yn bartneriaethau cerddorol, neu gyfnewid ac ymwneud diwylliannol.

Bydd presenoldeb Cymreig WOMEX19 yn parhau gyda dangosiad o’r ffilm a enillodd lu o wobrau BAFTA Cymru yn ddiweddar, sef Anorac. Mae Anorac yn dogfennu pererindod gerddorol Huw Stephens drwy Gymru wrth iddo gyfweld a gwrando ar artistiaid fel Gwenno, Colorama, 9Bach a mwy. Dyma ffilm sy’n archwilio penderfyniad artistiaid o Gymru i ganu’n Gymraeg, a thrwy hynny ymwrthod â threfn arferol Seisnig y diwydiant. Wedi’i gynhyrchu gan Gruffydd Davies, Anorac yw ei ffilm ddogfen lawn gyntaf.

Mae wythnos prysur o'n blaenau!