BreakOut West ydy prif ddigwyddiad arddangos y diwydiant cerddoriaeth, yn cael ei chynnal gan Western Canadian Music Alliance. Yn denu cynrychiolwyr y diwydiant cerddoriaeth o bedwar ban byd, pob blwyddyn mae’r digwyddiad cyffrous hwn yn cael ei gynnal mewn rhanbarth gwahanol yng Ngorllewin Canada yn eu tro. Eleni, cynhaliwyd y digwyddiad yn Whitehorse, Yukon rhwng Hydref 2ail-6ed, 2019. Gwahoddwyd y bandiau o Gymru, Worldcub a Baby Brave, i berfformio yn BreakOut West eleni.

Fel rhan o ddathliadau ‘Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO’, trefnodd FOCUS Wales a BreakOut West daith i’r band Worldcub o Eryri i gyfarfod â cherddorion a ffigyrau amlwg yng nghymuned Carcross/Tagish First Nation yn Yukon am gyfarfyddiad arbennig i ddathlu iaith a cherddoriaeth.

Dyma’r hyn oedd gan Dion o Worldcub i ddweud am y profiad:

Wedi siwrne ben bore trwy eira trwm a chael cip ar eirth brithion, fe’n croesawyd â gweddi gan yr Henadur Geraldine James wrth gyrraedd Carcross, gyda Seremoni Darthu yn dilyn. Gan sefyll mewn cylch, gwahoddwyd paw bi gyflwyno’u hunain. Soniodd yr Henadur am eu brwydr i achub eu treftadaeth a’u hiaith rhag difodiant. Fe gaethon ni gyfle i sôn am hanes yr iaith Gymraeg ac fe sylwodd bawb ar y cymariaethau.

 Roedd hi’n fraint i rannu’r llwyfan i berfformio caneuon a rhannu straeon am ein hieithoedd gyda’r llwyth. Gwych oedd gweld pa mor angerddol o ymroddedig oedden nhw dros y frwydr am eu treftadaeth a’u hiaith. Mae gwerth cannoedd o flynyddoedd o hanes ynghlwm â’r ieithoedd hyn sydd angen eu perchnogi ac maen nhw’n dibynnu ar hyn am eu bodolaeth – dylid eu clywed mewn tafarndai, caffis ac ar y strydoedd. Fe ddysgon ni gryn dipyn o’r diwrnod ac mae llond troll o straeon ganddo ni i’w hadrodd nôl adre. 

Roedden ni mor ffodus i gael ymweld â’r Ganolfan Addysgu yn Carcross, dysgu am hanes y bobl yn y gymuned ac ymuno yn eu traddodiadau – mae ein diolch yn fawr i FOCUS Wales a BreakOut West am drefnu hyn a’n cludo yno... ac yn ôl, yn fyw !

Roedd y daith hon yn rhan o gyfres o gyfleoedd arddangos rhyngwladol a gyflwynir gan FOCUS Wales mewn partneriaeth â Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Am fwy o wybodaeth am waith FOCUS Wales yn ryngwladol, ewch i www.focuswales.com/international. Rhoddir cefnogaeth tuag at ddathlu Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO mewn partneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru.


Mae gŵyl arddangos ryngwladol FOCUS Wales yn cael ei chynnal rhwng Mai 7fed – 9fed, 2020. Mae tocynnau ar gyfer holl ddigwyddiadau FOCUS Wales ar gael erbyn hyn trwy www.focuswales.com/tickets Noddir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru