Heddiw, mae’r Bont Ddiwylliannol a chyd-fuddsoddwyr y gronfa –Arts Council England, Arts Council of Northern Ireland, British Council, y Loteri Genedlaethol drwy Creative Scotland, Fonds Soziokultur, Goethe-Institut London a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru – wedi cyhoeddi y bydd yn parhau i roi cyllid i ddatblygu partneriaethau rhwng yr Almaen a’r Deyrnas Unedig, a hynny tan 2027. 

Lansiwyd y rhaglen yn 2021 ac mae hi wedi cefnogi 35 o bartneriaethau newydd a rhai sy’n bodoli’n barod drwy 42 o ddyfarniadau, gan fod o fudd i 73 o sefydliadau a rhoi cyfleoedd i 591 o artistiaid ac ymarferwyr diwylliannol drwy’r Deyrnas Unedig a’r Almaen. 

Hyd yma, mae’r Bont Ddiwylliannol wedi rhoi £662,000 mewn grantiau, a heddiw cadarnhawyd y bydd gan y gronfa ddwy rownd gyllido arall, a’r rheini’n werth cyfanswm o £730,000. 

Drwy alluogi cysylltiadau newydd a rhai sy’n bodoli’n barod, mae’r Bont Ddiwylliannol yn cefnogi rhwydwaith cynyddol o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i rannu arbenigedd a sgiliau, cyfnewid syniadau, a chydweithio ar brosiectau ac ymarfer artistig sy’n trin a thrafod themâu a phroblemau sy’n wynebu cymunedau yn y naill wlad a’r llall. 

Mae’r cyllid yn galluogi sefydliadau i ddatblygu sgiliau ymarferol, technegol a chreadigol sydd wedi ehangu safbwyntiau diwylliannol a chryfhau dealltwriaeth ymhlith cymunedau o’r pethau sy’n debyg ac yn wahanol rhyngddyn nhw.  

Mae’r gronfa’n cefnogi sefydliadau sy’n gweithio ar amryw o themâu ac mewn amryw o ffurfiau celfyddydol, gan gynnwys ym meysydd gwaith ieuenctid, cynhwysiant, iechyd a lles, materion gwleidyddol-gymdeithasol, materion gwledig, a chelfyddydau sydd wedi’u seilio ar yr amgylchedd. Dyma enghreifftiau o bartneriaethau blaenorol a rhai sydd ar y gweill ar hyn o bryd: 

ENTER: Robots exchange, sy’n dwyn ynghyd artistiaid dawns niwroamrywiol a rhai sydd ag anableddau dysgu o Gaerdydd a Bremen i ddatblygu perfformiad theatr stryd ar raddfa fawr; Pontio Cymunedau Gwledig – Pobl, Proses, Llefydd, sy’n edrych ar ffyrdd newydd o gysylltu’r celfyddydau a chymdeithas, gyda’r prif bwyslais ar Meppen yn yr Almaen a Llanrwst; Feminism and Migrant activism, sy’n gwneud gwaith gyda menywod ifanc o Berlin a Fife, a hwnnw’n waith sy’n ymwneud â chymdeithas ac wedi’i gyd-greu; Ode to Earth, a alluogodd bobl ifanc o Belfast a Leipzig i drin a thrafod y newid yn yr hinsawdd drwy ymarfer cerddorol ar y cyd; ac Uncomfortable Dialogues, sy’n ceisio dadorchuddio profiadau pobl Ddu, a’r rheini’n brofiadau sydd ar y cyrion, drwy ddawns, ffilm ac adrodd straeon yn Llundain a Berlin. 

 

“I rai o’r artistiaid niwroamrywiol a’r artistiaid sydd ag anableddau dysgu a fydd yn rhan o’r prosiect hwn, dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw deithio yn rhyngwladol, sy’n gyfle hollbwysig iddyn nhw ddechrau cyflawni eu dyheadau proffesiynol a byw bywydau mwy annibynnol.”

Hijinx Theatre a tanzbar-bremen am ENTER: Robots exchange.

 

“Byddwn ni’n edrych ar ffyrdd newydd o gysylltu’r celfyddydau a chymdeithas, gyda’r prif nod o ddod i adnabod ein gilydd, ein dulliau gweithio a’n ffyrdd o ymarfer, yn ogystal â’n cyd-destun.”

Dyffryn Dyfodol CIC a Syndikat Gefährliche Liebschaften.

 

“Rydyn ni wrth ein boddau’n bod yn rhan o’r cyhoeddiad hwn sy’n cadarnhau dwy flynedd yn rhagor o gyllid gan y Bont Ddiwylliannol a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i gydweithio’n artistig rhwng Cymru, y Deyrnas Unedig a’r Almaen. Mae’r prosiect hwn yn hwyluso ffyrdd cyffrous o gyfnewid gwybodaeth a phrofiadau ym maes ymarfer cymdeithasol a gwaith cymunedol, ac mae’n hynod o gadarnhaol gweld y rhaglen hon yn mynd o nerth i nerth.”

Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

Bydd modd gwneud ceisiadau i rownd gyllido 2025 – 2026 yn yr hydref, pan fydd partneriaethau newydd yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000 a phartneriaethau sydd wedi’u sefydlu’n barod yn gallu gwneud cais am hyd at £30,000. Anogir sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais i ddarllen y canllawiau llawn sydd ar gael nawr yn cultural-bridge.info ac i gofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan mewn sesiwn baru os ydyn nhw’n chwilio am bartneriaeth newydd. 

Ar gyfer ymholiadau’r wasg, cysylltwch â Lorna Palmer, Rheolwr Rhaglen y Bont Ddiwylliannol:  Lorna.Palmer@artscouncil.org.uk