Mae’r alwad am gynigion i arddangos cerddoriaeth bellach ar agor, gyda dau gyfle mawr i berfformio ym Manceinion fel rhan o raglen swyddogol WOMEX ac ar Lwyfan Horizons.
Bydd y broses ymgeisio hefyd yn agor i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant sydd am gyflwyno syniadau ar gyfer pynciau trafod i baneli, fel rhan o’r gynhadledd, a rhaglenni dogfen cerddorol ar gyfer rhaglen ffilmiau WOMEX.
Pam cymryd rhan yn WOMEX 2024?
Yn rhyngwladol ac yn ddiwylliannol, WOMEX yw digwyddiad cerddorol mwyaf amrywiol y byd, a dyma gynhadledd fwyaf y sîn gerddoriaeth fyd-eang. Cynhelir WOMEX mewn dinas Ewropeaidd wahanol bob blwyddyn. Caerdydd oedd yn cynnal y digwyddiad ddeg mlynedd yn ôl, ac A Coruña yn 2023. Yn 2024, bydd yr ŵyl yn dychwelyd am y trydydd tro i’r Deyrnas Unedig a hynny ym Manceinion (rhwng 23 a 27 Hydref), lle bydd yn dathlu ei 30fed gŵyl hefyd.
Mae’r digwyddiad yn gyfle unigryw i artistiaid o Gymru, Lloegr, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a’r Alban berfformio ar garreg eu drws yn arddangosfa swyddogol yr ŵyl, a hynny gerbron gweithwyr o’r diwydiant cerddoriaeth proffesiynol.
Gellir cyflwyno cynigion mewn pedwar categori – ‘Showcase’, ‘Club Summit’, ‘Film’ a ‘Conference’. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion yma.
Cyflwynwch eich cynnig arddangos cerddoriaeth o 25 Ionawr yma.
Y dyddiad cau ar gyfer pob cynnig yw dydd Gwener 01 Mawrth 2024
Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:
“Wrth i ni barhau i deimlo effaith cynnal WOMEX yng Nghaerdydd yn 2013, mae partneriaeth Horizons yn falch tu hwnt o gyhoeddi ein cefnogaeth i Lwyfan Rhanbarthol WOMEX 24 ym Manceinion. Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae partneriaid Horizons wedi ymuno â’i gilydd yn WOMEX i ddathlu’r gerddoriaeth amrywiol sy’n cael ei chreu yng Nghymru, Lloegr, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ac i helpu artistiaid o’r gwledydd hyn i gael cydnabyddiaeth ryngwladol ar lwyfan y byd. Bydd cynnal y Llwyfan Rhanbarthol ym Manceinion yn sicrhau bod rhagor o gyfleoedd i gerddorion o’r gwledydd hyn gael slot perfformio gwerthfawr a pherfformio ar garreg eu drws o flaen y dorf fwyaf sy’n bodoli o weithwyr proffesiynol rhyngwladol o’r diwydiant.”
Meddai Debra King, Cyfarwyddwr Manchester Music City:
“Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar ein bod ni’n cael cymorth partneriaid Horizons wrth gynnal y Llwyfan Rhanbarthol yn WOMEX 24. Gyda disgwyl i dros 2,600 o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant gyrraedd Manceinion ym mis Hydref eleni, bydd y bartneriaeth bwysig hon yn ein helpu i gefnogi to newydd o dalent a sicrhau bod cynnal WOMEX ym Manceinion yn gadael gwaddol a fydd i’w deimlo ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon am flynyddoedd lawer. Mae cynhwysiant ac amrywiaeth yn ganolog i WOMEX 24, ac rydyn ni’n gwir annog artistiaid o bob cefndir a disgyblaeth i gyflwyno cynigion.”
Mae partneriaeth Horizons wedi’i threfnu gan Arts Council England, Arts Council Northern Ireland, Culture Ireland, Creative Scotland, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, British Council a British Underground. Cysylltwch â chynrychiolwyr eich gwlad i gael rhagor o wybodaeth neu ewch i www.horizonsatwomex.com.
Y dyddiad cau ar gyfer cynigion i’r ŵyl arddangos cerddoriaeth (y ‘Music Festival Showcase’) yw dydd Gwener 01 Mawrth 2024.
Mae rhagor o fanylion am gyflwyno cynigion i’r ŵyl arddangos fan hyn: www.womex-apply.com
Yn galw ar holl weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth...
Mae gan Fanceinion hanes cerddorol anhygoel, ac mae WOMEX 24 yn gyfle i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant fod yn rhan o ysbryd creadigol yr ŵyl. Mae’n gyfle i brofi amrywiaeth y gerddoriaeth sy’n cael ei chreu ledled ein gwledydd, i ddarganfod cerddoriaeth newydd ysbrydoledig, i ddechau cydweithio, ac i gysylltu â miloedd o gymheiriaid o bob cwr o’r byd.
Mwy o wybodaeth am fynd i WOMEX fel cynrychiolydd: https://www.womex.com/
Yn galw ar yr holl fentoriaid a’r siaradwyr posibl i’r gynhadledd...
Mae gwahoddiad i siaradwyr arbenigol o bob rhan o’r byd gyflwyno eu pynciau, eu prosiectau a’u diddordebau brwd i gynrychiolwyr WOMEX. Anogir cynigion sy’n rhoi sylw i bob agwedd ar y sîn yn y Deyrnas Unedig.
Yn 2024, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cyflwyno trafodaeth fel rhan o’r rhaglen Gwrando. Y pwnc fydd gwneud digwyddiadau rhyngwladol yn ofodau diogel i gerddoriaeth frodorol, a hynny fel rhan o Rwydwaith Cerddoriaeth Gynhenid y Byd, thema a fydd yn cael ei datblygu yn 2024.
Yng Nghynhadledd 2023, ymddangosodd dros 96 o siaradwyr o 45 o wledydd mewn 18 o sesiynau yn y gynhadledd, yn ogystal ag mewn naw o sesiynau rhwydweithio a chwech o sesiynau mentora. Roedd y pynciau trafod yn cynnwys popeth o Ddeallusrwydd Artiffisial yn y Diwydiant Cerddoriaeth i Archwilio Ieithoedd Brodorol.
Y dyddiad cau ar gyfer pob cynnig ar gyfer y gynhadledd yw dydd Gwener 1 Mawrth 2024.
Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cynigion i’r gynhadledd ar gael fan hyn: www.womex-apply.com
Yn galw ar yr holl wneuthurwyr ffilmiau cerddorol...
Mae gwahoddiad i chi ddangos eich gwaith yn WOMEX – y prif lwyfan ar gyfer cerddoriaeth y byd drwy gyfryngau clyweledol. Bydd y dangosiadau ffilmiau’n cynnwys rhaglenni dogfen rhagorol sy’n rhoi sylw i gerddorion o bob cwr o’r byd, neu’r rheini sy’n canolbwyntio ar bynciau sy’n ymwneud â cherddoriaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer pob cynnig ar gyfer ffilmiau yw dydd Gwener 01 Mawrth 2024.
Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cynigion ar gyfer ffilmiau fan hyn: www.womex-apply.com
WOMEX a Chymru, a rhywfaint o gyd-destun...
Cynhelir WOMEX bob blwyddyn mewn gwahanol ddinas Ewropeaidd. WOMEX Manceinion fydd y trydydd tro i’r digwyddiad gael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig. Cynhaliodd Caerdydd WOMEX 10 mlynedd yn ôl. Mae’r erthygl hon gan Jo Frost – Womex in Wales - 10 years on – yn ceisio rhoi darlun manwl, ond heb fod yn gyflawn mewn unrhyw fodd, o siwrnai Cymru o’r cysyniad cychwynnol, i’r gwaith paratoi, i’r gwaddol y mae WOMEX wedi’i greu.
Yn yr erthygl, mae dwsin o unigolion amlwg o’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn cnoi cil am y paratoadau cyn y digwyddiad yng Nghaerdydd, yn rhannu eu hatgofion o’r digwyddiad a’u barn am ei effaith, ac yn sôn am sut y mae’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru wedi newid dros y degawd diwethaf.