Croesawai Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, cyhoeddiad o’r strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo ag uchelgeisiau Cymru i fod yn genedl gyfrifol sy’n arloesi diwylliant ac economi lles trwy’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r ddeddf yn fenter ddewr sydd o ddiddordeb mawr yn rhyngwladol.
Mae gennym ddiwylliant yng Nghymru, yng ngeiriau Dewi Sant, i fwynhau gwneud y pethau bychain sy’n helpu eraill a’r blaned. Mae gennym barch at “chwarae teg,” ar y cae rygbi neu ar lwyfan yr Eisteddfod neu yn ein hymrwymiad i fasnach deg ag eraill. Mae ein diwylliant yn rhoi gwerth mawr ar ein cymunedau niferus ac amrywiol. Mae gennym ni ddiwylliant sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n credu mewn cynnig sgiliau creadigol i bobol ifanc i lywio’r byd. Mae gennym ni ddiwylliant sy’n coleddu ei ieithoedd ac yn parchu ei leisiau amrywiol. Ac mae ein diwylliant yn cynnig croeso cynnes i’r rhai sy’n ceisio lloches.
Cyniga’r rhaglen Cenedlaethau’r Dyfodol cwmpawd i bob gwasanaeth cyhoeddus i lywio sut rydym yn gweithio â phartneriaid ar draws y sector a’r llywodraeth i dyfu ac i arddangos Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang gydag “economi a diwylliant lles” ffyniannus.
Fel y genedl gyntaf yn y byd i gyfreithloni’r Nodau Agenda Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, mae Cymru hefyd yn arloesi o ran cyfrifoldeb diwylliannol. Yn ogystal â hynny, Llywodraeth Cymru yw’r cyntaf i wneud diwylliant yn bedwerydd biler yn y cynllun Datblygu Cynaliadwy i Gymru.
Credwn fod gan Gymru ymrwymiad i gyfrifoldeb diwylliannol, ieithyddol a chymdeithasol byd-eang. Dylem rannu ein gwybodaeth mewn ffordd egalitaraidd sy’n caniatáu i ni ddysgu o brofiad ac anghenion mewn mannau eraill. Mae gan Gymru gyfoeth o brofiad sy’n dechrau lledaenu i’r maes datblygu iaith a dwyieithrwydd.
Mae hefyd angen sicrhau bod y Cenedlaethau’r Dyfodol a’r economi lles yn cael ei gyfathrebu, ei ddeall a’i hyrwyddo nid yn unig gan sefydliadau’r DU ond hefyd gan swyddfeydd tramor Cymru a’r rhwydwaith/asedau’r byd ehangach.
Mae diwylliant a’r celfyddydau yn chwarae rhan hanfodol er lles y genedl, o greu ymdeimlad unigryw o le ac ansawdd bywyd i fuddion iechyd ataliol neu dyfu sgiliau a hyder.
Gan weithio gyda phobl ifanc, yng nghyd-destun Cenedlaethau’r Dyfodol, mae cyfleoedd pwysig yn y cwricwlwm newydd i feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb byd-eang a dealltwriaeth ryngwladol. Mae potensial mawr i’r celfyddydau alluogi pobl ifanc i weld y byd mewn ffordd wahanol o brofiad y Dysgu Creadigol arloesol trwy’r rhaglen gelf, sy’n denu cryn ddiddordeb rhyngwladol.
Rydym yn cytuno bod “diwylliant ac iaith Cymru wedi cyfrannu at dwristiaeth ryngwladol ac wedi cynyddu cydnabyddiaeth fel cyrchfan i ymwelwyr”. Gwelwn ni gyfle i’r celfyddydau gefnogi nod y strategaeth i drawsnewid brand Cymru mewn i fudiad.
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau yn edrych ymlaen at lunio’r bennod ddiwylliannol nesaf i Gymru yn rhyngwladol, sy’n cyfoethogi’r strategaeth bwysig hon.
Am fwy o wybodaeth ar waith Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn y maes hwn, mae’r ‘Nodiadau tuag at Bennod Ddiwylliannol’ a gyhoeddwyd yn flaenorol yn amlinellu ei awgrymiadau ar gyfer datblygu gweledigaeth ddiwylliannol yn llawn er mwyn i ddiwylliant Cymru cyflawni ei botensial rhyngwladol.