Bydd Cymru yn cael ei thynnu allan o’r rhaglen Ewrop Greadigol ym mis Rhagfyr, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i roi terfyn ar berthynas sy’n werth £79 miliwn i’r DU.

Wrth i’r trafodaethau rhwng y DU a’r UE barhau ynglŷn â’u perthynas ôl-Brexit, mae grŵp o fwy na 250 o arweinwyr diwylliannol a chreadigol ar draws Ewrop wedi llofnodi llythyr agored yn galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei phenderfyniad i optio allan o’r rhaglen sy’n werth £79 miliwn i’r DU gyfan, ac sydd wedi ariannu gwerth dros £11 miliwn tuag at brosiectau sydd a partneriaid yma yng Nghymru.
 

O Ddirprwy Faer Rhufain i’r Ganolfan dros Greadigrwydd yng Ngwlad yr Iâ a Bale Cenedlaethol yr Iseldiroedd, mae cannoedd o arweinwyr diwylliannol a chreadigol ar draws y DU ac Ewrop yn ymgyrchu i gadw’r DU yn rhan o'r rhaglen hon sydd nid yn unig yn dod â miliynau o bunnoedd i mewn i’r DU ond yn creu miloedd o swyddi.

Mae Ewrop Greadigol yn cynnig cymorth ariannol i sefydliadau creadigol a diwylliannol ledled Ewrop, ac ym mis Medi 2020 penderfynodd Llywodraeth y DU ddod â chyfranogiad y DU yn y rhaglen i ben, a hynny heb ymgynghori o gwbl â’r cenhedloedd datganoledig, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae hyd at 376 o sefydliadau yn y DU wedi elwa o’r rhaglen Ewrop Greadigol hyd yma, gan gynnwys Hinterland Films, Gŵyl y Gelli, National Theatre Wales , Ffotogallery, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, ac Opera Genedlaethol Cymru. Mae’r rhaglen wedi ariannu cannoedd o brojectau, perfformiadau, arddangosfeydd a gwyliau celfyddydol, yn ogystal â mentrau cymunedol, comisiynau artistiaid a chynyrchiadau clywedol.

Arweinydd yr ymgyrch i alw ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Oliver Dowden, i ailystyried y penderfyniad i dynnu allan o’r rhaglen ydy Clymene Christoforou, Cyfarwyddwraig D6: Culture in Transit, sefydliad o ogledd-ddwyrain Lloegr sy’n gweithio’n rhyngwladol ac sydd wedi cael cyllid o gronfa Ewrop Greadigol ers dros ddegawd.

Mae’n hollol hanfodol i’r DU ein bod yn parhau i fod yn rhan o’r rhaglen Ewrop Greadigol,” meddai Clymene, Mae’r penderfyniad i dynnu allan o’r rhaglen yn fygythiad i ddyfodol creadigrwydd yn Mhrydain, dyfodol sydd eisoes yn fregus, ac mae’n anfon y neges ein bod ni’n ymbellhau oddi wrth ein cymdogion agosaf. Byddwn yn siomi ein hartistiaid a’n cymunedau os nag ailystyriwn.”

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae llawer o wledydd sydd ddim yn rhan o’r UE yn aelodau o Ewrop Greadigol ac felly ni ddylai Brexit effeithio ar y gallu i fanteisio ar y cyllid na’r cyfleoedd, ac maen nhw wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Oliver Dowden, yr wythnos hon i fynegi eu pryderon am hyn. Yn ôl ym mis Mawrth, ysgrifennodd 800 o artistitiad a sefydliadau celfyddydol yn y DU at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant hefyd yn erfyn arno i ailystyried.

“Ar adeg pan mae dyfodol llawer o sefydliadau diwylliannol y DU yn y fantol oherwydd effaith y coronafeirws, mae’n peri penbleth i ni pam y bydden ni’n dewis tynnu allan o ffynhonnell ariannol mor werthfawr,” meddai’r ymgyrchwyr.

Yn ôl adroddiad ym mis Gorffennaf 2020 gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) mae’r llywodraeth wedi methu dro ar ôl tro â chydnabod  maint y “bygythiad dirfodol” sy’n wynebu ein sefydliadau diwylliannol yn y DU yn sgîl y coronafeirws. Mae’r ymgyrchwyr yn gweld hyn fel ergyd arall i sector diwylliannol y DU ac yn mynnu bod Oliver Dowden yn ailystyried.

Yn ôl Luca Bergamo, Dirprwy Faer a Chynghorydd dros Ddatblygiad Diwylliannol Dinas Rhufain, un o gefnogwyr yr ymgyrch, “Mae’n cyfeillion a’n cydweithwyr yn y DU yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at fywyd diwylliannol Ewrop. Mae’r rhaglen Ewrop Greadigol yn agor drws i ni i gydweithio â’r DU. Heb y DU yn rhan o’r rhaglen, mae dyfodol sawl project cydweithredol llwyddiannus yn y fantol, a hynny er anfantais i’r DU a gweddill Ewrop.”

Darllennwch y llythyr agored wedi’i lofnodi gan dros 250 arweinydd diwylliannol Ewropeaidd yma.

 

#SaveTheArts

#Together4CreativeEurope 

#CreativeEurope      #EwropGreadigol

Cafodd D6: Culture in Transit ei sefydlu ym 1991 (fel ISIS Arts) pan ddaeth myfyrwyr oedd newydd raddio yn y celfyddydau at ei gilydd i greu arddangosfa ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Cafodd y sefydliad ei sylfaenu ar eu diddordeb cyffredin yn rôl wleidyddol y celfyddydau a’i gallu i greu cysylltiadau rhwng artistiaid a chymunedau adref a thramor. Bellach, mae D6 wedi llwyddo i gynnal rhaglen ryngwladol o gomisynau, preswyliadau a digwyddiadau ers dros 29 mlynedd. Yn y degawd diwethaf, mae D6 wedi gweithio ar draws 57 gwlad, arwain dros 50 o breswyliadau celfyddydol rhyngwladol, mentora a hyfforddi dros 7000 o bobl a chyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol a rhanbarthol amrywiol o fwy na 142,000.

Mae Clymene Christoforou yn un o sylfaenwyr D6: Culture in Transit a hi yw’r Cyfarwyddwr Gweithredol lle mae hi’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu’r celfyddydau a rhaglenni, gyda ffocws ar gydweithredu rhyngwladol a datblygu llwyfan rhyngwladol cadarn ar gyfer ymgysylltiad lleol. Eistedda Clymene ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Res Artis hefyd, sefydliad sy’n pontio 70 gwlad ac sy’n ymroddedig i werth rhaglenni celfyddydol preswyl. Mae hi hefyd yn aelod gweithgar o Culture Action Europe. Yn ogystal, hi yw cadeirydd International Newcastle, Cwmni Budd Cymunedol a sefydlwyd yn 2012, sy’n ymroddedig i gefnogi rhyngwladoldeb yn y ddinas.

www.d6culture.org

Rhaglen €1.46 biliwn gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y sectorau diwylliannol a chreadigol ydy Ewrop Greadigol. Ei nod yw helpu’r sectorau diwylliannol a chreadigol i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgîl yr oes ddigidol a globaleiddio; galluogi’r sectorau i gyflawni eu potensial economaidd, cyfrannu at dwf a swyddi cynaliadwy, a chydlyniant cymdeithasol; galluogi sectorau diwylliannol a’r cyfryngau yn Ewrop i fanteisio ar farchnadoedd, cynulleidfaoedd a chyfleoedd rhyngwladol newydd.