A ninnau’n dynesu at ddiwedd blwyddyn ryfedd iawn wrth wneud gwaith rhyngwladol yn y celfyddydau, rydyn ni’n ddiolchgar ein bod wedi gallu cadw mewn cysylltiad rhithiol â’n partneriaid rhyngwladol. Rydyn ni’n gobeithio ac yn edrych ymlaen at gyfnod yn 2021 pan fydd modd inni gysylltu a chyfarfod wyneb yn wyneb, go iawn.

Fodd bynnag, rydyn ni’n llwyr werthfawrogi y bydd 2021 hefyd yn rhoi cyfres newydd o heriau i’r bobl sy’n gweithio yn rhyngwladol, gan fod 31 Rhagfyr 2020 yn dynodi diwedd y cyfnod pontio â’r UE. Ar Ddydd Calan, byddwn ni’n dechrau ar gyfnod o weithio mewn ffordd newydd a thra gwahanol â’n cymdogion Ewropeaidd.Isod mae cyfres o gwestiynau cyffredin am beth rydyn ni’n ei wneud i baratoi.

Ers pleidlais y refferendwm yn 2016, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi gweithio i sicrhau bod llais y sector celfyddydau yng Nghymru yn cael ei glywed yn yr ymgynghoriadau a’r trafodaethau niferus am effaith Brexit. Rydyn ni wedi ymgyrchu dros anghenion y sector, yn enwedig o ran rhyddid artistiaid i symud ac i gyfrannu at raglenni cyllido o bwys fel Ewrop Greadigol.

Heb olynydd i raglen Ewrop Greadigol yr UE eto, byddwn yn dal i ddwyn pwysau er mwyn ceisio sicrhau bod Cymru yn aelod trydydd gwlad o’r rhaglen honno, a hynny fel rhan o’n cynllunio ariannol presennol ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit.

Wrth lunio’r ddogfen hon, mae’r trafodaethau am gytundeb masnach rhwng yr UE a’r DU yn dal i fynd rhagddyn nhw. Rydyn ni’n deall y pryderon sydd ynghlwm wrth yr ansicrwydd hwn, ynghyd â’r angen i baratoi at ffordd newydd o weithio. Rydyn ni am eich sicrhau ein bod ni yma i gefnogi’r sector yng Nghymru gyda’i waith rhyngwladol yn y dyfodol, ac y byddwn ni’n parhau i eirioli dros anghenion y sector celfyddydau mewn unrhyw drefniadau a wneir yn y dyfodol gyda’n cymdogion agosaf.  

Rydyn ni’n dal i ymgyrchu dros gael cytundeb ynghylch atebion ymarferol i broblemau posibl sy’n ymwneud â Brexit. Problemau yw’r rhain a allai effeithio ar y rhyddid i symud, ffiniau ‘dirwystr’, fisas i weithwyr creadigol proffesiynol sy’n dod i mewn i’r DU, hawliau digidol, a chamau i ddiogelu eiddo deallusol.

Yn y flwyddyn newydd byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n chwaer-asiantaethau yn y DU er mwyn rhannu gwybodaeth. Byddwn hefyd yn lansio Gwybodfan Celf y DU i gefnogi’r sector, gan roi gwybodaeth ymarferol ar gyfer gweithio yn rhyngwladol.  Fe allwch hefyd ganfod mwy am sut y mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn ehangach yn ymateb i her Brexit ym mhapur diweddar y Cyngor Celfyddydau, “Ailosod y Llwyfan”. Cysylltwch â ni yn Celfyddydau Rhyngwladol Cymru os bydd gennych chi unrhyw bryderon penodol yr hoffech chi eu rhannu â ni.

I gloi, rydyn ni wedi cael ein calonogi gan y negeseuon cadarnhaol niferus rydyn ni wedi parhau i’w derbyn dros y flwyddyn ddiwethaf gan bartneriaid o bob rhan o’r UE sydd wedi ailadrodd eu dyhead i barhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd i weithio gyda Chymru a gwledydd eraill y DU.

Dymunwn wyliau braf i bawb dros yr ŵyl, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi oll yn y flwyddyn newydd.

Zélie Flach, Swyddog Ewropeaidd – Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

 

-------------------------------------------------

O ran y camau ymarferol y gallai fod angen ichi ystyried eu cymryd er mwyn paratoi at ddiwedd cyfnod pontio’r UE, mae nifer o feysydd y gallwch edrych arnyn nhw, ac mae rhywfaint o adnoddau defnyddiol ar gael ar-lein.  Mae tudalennau’r DCMS ar wefan Llywodraeth y DU i’w gweld fan hyn ac mae llawer o ddolenni i’r tudalennau hyn yn y canllawiau rydyn ni wedi’u crybwyll isod.

Bydd angen ichi gadw golwg am unrhyw newidiadau perthnasol yn y meysydd canlynol:

  • Eich gweithwyr – os ydych chi’n cyflogi neu’n contractio dinasyddion yr UE
  • Symud pobl – os ydych chi’n teithio neu’n gweithio yn yr UE
  • Cyllid yr UE – os byddwch chi’n cydweithio neu’n cyd-gynhyrchu â phartneriaid Ewropeaidd
  • Symud nwyddau – os byddwch chi’n allforio neu’n mewnforio nwyddau, gwasanaethau neu wrthrychau i mewn i’r DU neu allan o’r DU
  • Eich data – diogelu data i’r UE ac o’r UE, eiddo deallusol a hawlfraint

Rydyn ni’n argymell yn gryf bod sefydliadau’n cadw cofrestr risg ar gyfer y meysydd gwaith y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw. Dylai’r gofrestr gynnwys gwybodaeth am yr effaith ar gyllidebau.

Adnoddau Ychwanegol:

 

Cwestiynau cyffredin am sut y mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn paratoi at y cyfnod ar ôl i’r DU adael yr UE

1. Pa gamau ymarferol y mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn eu cymryd i baratoi at y cyfnod ar ôl i’r DU adael yr UE yn dilyn diwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020?

Mae gennyn ni gofrestr risg sy’n cynnwys y materion a fydd yn effeithio ar ein gwaith ni ac ar waith Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae hon yn eitem reolaidd ar agenda’r Cyngor (ee rheolau fisas a mewnfudo, eiddo deallusol a hawlfraint, anwadaliadau yn y gyfradd gyfnewid).  

Rydyn ni’n fwy gweithgar nag erioed yn ein rhwydweithiau Ewropeaidd fel IETM ac On the Move a byddwn yn parhau i gefnogi pobl eraill yn y byd celfyddydau yng Nghymru i ymuno â’r rhwydweithiau iawn iddyn nhw, fel rydyn ni wedi’i wneud yn 2020 drwy ein cyllid Cysylltu.

Rydyn ni’n cyfarfod yn rheolaidd â Chynghorau Celfyddydau eraill y DU ac â’r Llywodraethau datganoledig.

Rydyn ni’n edrych ar sut y gall artistiaid a chwmnïau celfyddydol yng Nghymru barhau i weithio gyda’r rhaglen Ewrop Greadigol.

Mae ein gwaith yn y tymor byr yn canolbwyntio ar yr Almaen ac Iwerddon.  Rydyn ni’n cefnogi artistiaid o Gymru i ymwneud â’r celfyddydau drwy’r UE gyfan drwy ein Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol a fydd yn ailagor yn gynnar yn 2021.

 

2. Beth mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ei wneud i annog pobl i ailddechrau gweithio yn rhyngwladol yn y celfyddydau ar ôl Covid a Brexit?

Gyda’n chwaer-asiantaethau ledled y DU, rydyn wrthi’n sefydlu Gwybodfan Celf y DU, sef gwefan i helpu sefydliadau celfyddydol i barhau i drefnu ymweliadau gan artistiaid rhyngwladol a chanfod rhwystrau a phroblemau sy’n deillio o adael yr UE.  

Rydyn ni’n dal i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i godi proffil Cymru mewn marchnadoedd rhyngwladol drwy eu Memoranda Cyd-ddealltwriaeth a rhwydweithiau rhanbarthol o bwys.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar ffyrdd newydd o werthuso sut y mae ein gwaith yn cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rydyn ni’n cefnogi llawer mwy o waith digidol o Gymru, yn enwedig ar ein Sianel AM.

Rydyn ni’n paratoi ymgyrchoedd newydd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2021 a bydden ni wrth ein boddau’n clywed am unrhyw ymgyrchoedd sydd gennych chi ar y gweill.

 

3. Pa mor anodd fydd hi i Celfyddydau Rhyngwladol Cymru gefnogi artistiaid o Gymru i weithio yn rhyngwladol?

Bydd rhai pethau’n newid, yn enwedig pa mor rhwydd yw teithio yn yr UE. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i annog y sector i ganfod a goresgyn y rhwystrau hynny.

Mae gennyn ni rai rhesymau dros fod yn obeithiol, gyda mwy o ddiddordeb yn ein gwaith rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf a chynnydd yn nifer yr artistiaid o Gymru sy’n ymwneud â rhwydweithiau rhyngwladol.

Bydd y dulliau digidol newydd o weithio yn parhau, ac er y credwn y bydd pawb yn teithio llai, bydd teithio rhyngwladol yn dal i ddigwydd, ond bydd angen bod yn fwy doeth wrth wneud hynny. Gallwn ddisgwyl clywed llawer mwy am hyn cyn cyfarfod COP26 yn Glasgow yn Hydref 2021.

Rydyn ni’n blaenoriaethu gwneud gwaith rhyngwladol yn fwy hygyrch i artistiaid o gefndiroedd amrywiol, a byddwn yn cyhoeddi ein gwaith ar ailddychmygu ein gwaith rhyngwladol ym mis Mawrth 2021.

Mae sgyrsiau am ddad-drefedigaethu wedi dod yn sgyrsiau byd-eang, ac er eu bod yn anghyfforddus i lawer o bobl, credwn fod gan Gymru safbwynt unigryw i’w gynnig, gan fod ganddi ddiwylliant sydd wedi’i drefedigaethu ei hun, a hithau hefyd wedi bod yn rhan o Ymerodraeth a aeth ati i drefedigaethu. Disgwyliwn lawer mwy o drafodaethau am hyn yn 2021 wrth i’r DU adael yr UE.

 

4. Beth yw cyngor Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i artistiaid a chwmnïau wrth iddyn nhw baratoi:

Ymunwch â rhwydweithiau Ewropeaidd a fyddai’n ddefnyddiol i’ch gwaith, ac ewch ati i ymwneud â nhw.

Cadwch olwg ar y wybodaeth y bydd sefydliadau allweddol a chyrff y sector yn ei rhannu.

Byddwch yn barod i dalu costau llawer uwch wrth deithio yn rhyngwladol.

Datblygwch ddull cyfunol o wneud gwaith rhyngwladol, gan flaenoriaethu gwaith digidol.

Meddyliwch am yr amgylchedd ac am sut y gallwch helpu i gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru, sydd wedi’u gosod gan dîm Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n arloesi yn y maes hwn yn fyd-eang.