Mae pyped brethyn o Gymru, dwy droedfedd o uchder o’r enw Fred, sy'n ymladd yn erbyn rhagfarn bob dydd, wedi hwyluso partneriaeth hirdymor rhwng y celfyddydau perfformio yng Nghymru a Tsieina.
Mae sioe o fri Hijinx, Meet Fred, sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi bod ar daith eang yn y DU ac yn rhyngwladol yn dilyn rhediad llwyddiannus o berfformiadau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2016.
Cyn perfformiad cyntaf Meet Fred yn Shanghai heddiw (Mai 24ain) bydd Cyngor Celfyddydau Cymru ac AC Orange yn arwyddo cytundeb sy'n anelu at ddatblygu cyfnewidfa cydweithredu ym maes celfyddydau perfformio rhwng Cymru a Tsieina, a fydd yn arwain at nifer o gwmnïau o Gymru yn teithio i Tsieina dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt. Claire Williams o Hijinx sydd wedi sefydlu’r berthynas ag AC Orange.
Dywedodd Claire Williams, Prif Swyddog Gweithredol Hijinx:
"Er ein bod wedi perfformio Meet Fred mewn 16 o wledydd ledled y byd, rydym wrth ein bodd i berfformio yn Nhsieina am y tro cyntaf. Nid oes ots ble y perfformiwn, mae pob cynulleidfa’n uniaethu â llais o’r cyrion y mae Fred yn ei gynrychioli. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council Tsieina am gefnogi’r ymweliad cyntaf hwn ac i AC Orange am y gwahoddodd i berfformio yn Shanghai.
Mae Hijinx y credu fod gan bawb hawl fyw bywyd diwylliannol cyfoethog. Ein nod drwy ein cynyrchiadau yw dangos talentau gwych ein perfformwyr sydd ag anabledd dysgu. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gynnal gweithdai i bobl ag anabledd dysgu yno yn y gobaith y gallai Hijinx sefydlu hyfforddiant galwedigaethol i berfformwyr yn Tsieina yn y dyfodol."
Meddai Tina Shao, Dirprwy Lywydd AC Orange:
"Lansiodd AC Orange brosiect ‘Breuddwyd yr Artist’ y llynedd i gefnogi 100 o artistiaid a grwpiau o artistiaid i deithio 1000 o berfformiadau’n rhyngwladol. Taith Hijinx o Meet Fred o amgylch Tsieina yw un o perfformiadau’r prosiect. Rydym wrth ein bodd o wahodd Fred i gwrdd â chynulleidfaoedd o Tsieina. Mae Fred yn fwy na dim on cymeriad mewn sioe – mae’n symbol o bawb sydd ar gyrion cymdeithas. Mae Meet Fred yn herio sut yr ystyriwn y theatr a’n cymdeithas a gwerthfawrogwn a charwn yr herio hwnnw.
Mae’r cydweithio rhwng AC Orange a Hijinx yn agor y ffordd ar gyfer rhagor o gyfleoedd a phartneriaeth hefyd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Yn sgil y cytundeb bydd rhagor o gyfnewid rhwng Cymru a Tsieina ac rydym yn hapus i weld rhagor o gynyrchiadau o safon sy’n mynd o Gymru i Tsieina a’r ffordd arall hefyd."
Gwnaeth Hijinx gymryd rhan yn rhaglen ddiwylliant Taith Fasnach Llywodraeth Cymru i Tsieina ym mis Chwefror 2017, a drefnwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru mewn partneriaeth â British Arts Tsieina – a oedd yn hanfodol o ran sicrhau'r cytundeb ar gyfer y cwmni.
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Fel Cyngor Celfyddydau, rydym yn falch iawn o lwyddiannau Hijinx. Maen nhw'n gamau pwysig ac amserol o ran trywydd y celfyddydau cynhwysol a hefyd o ran y berthynas ddiwylliannol gynyddol rhwng Tsieina a Chymru.
"Rwy'n hynod falch mai'r cynhyrchiad sydd wedi ennill gwobrau, Meet Fred, sydd wedi galluogi'r cytundeb partneriaeth cyntaf ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru yn Tsieina. Bydd yn cael ei gyflawni gan ein harbenigwyr rhyngwladol yng Nghelfyddydau Rhyngwladol Cymru mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru a British Council Tsieina. Mae'n bwysig iawn i ni fod ein buddsoddiad yng nghwmni theatr gynhwysol Hijinx, yn eu galluogi i arwain y ffordd adref yng Nghymru, y DU ac o gwmpas y byd.
"Mae cytundeb Cyngor Celfyddydau Cymru gydag AC Orange yn dilyn perthynas arbennig y mae Claire Williams, tîm Hijinx yng Nghymru, wedi'i sefydlu gydag AC Orange, gyda chymorth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru. Ein gobaith yw y bydd cwmnïau ac ymarferwyr celfyddydol yn y ddwy wlad yn elwa ar y mynediad at farchnadoedd newydd, yn ogystal â rhannu a chyfnewid sgiliau ac arferion ar draws y diwylliannau, a fydd yn deillio o'r cytundeb hwn. Rwy'n sicr y bydd yr effaith a'r gwerth ychwanegol i'r celfyddydau yng Nghymru yn sylweddol yn nhermau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd.
Gwnaeth Hijinx, sy’n gleient portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru, arwyddo cytundeb gydag AC Orange ym mis Rhagfyr 2017. AC Orange yw'r cwmni preifat mwyaf ym maes celfyddydau perfformio, a'r ail gadwyn fwyaf o ran rheoli theatrau yn Tsieina – maen nhw'n gweithredu fel cynhyrchwyr, cyflwynwyr, gwerthwyr tocynnau a buddsoddwyr.
Mae'r cytundeb gydag AC Orange yn golygu bod cynhyrchiad 'Meet Fred' y cwmni, sydd wedi ennill gwobrau, yn mynd ar daith yn Shanghai yr wythnos hon. Nod cam nesaf y prosiect yw datblygu patrwm theatr gynhwysol newydd yn Tsieina, a chyd-fuddsoddi yng nghynhyrchiad 2019 Hijinx, ac yn y pendraw, datblygu model Academi Hijinx ar y cyd yn Tsieina.
Arwyddwyd y cytundeb yn ffurfiol yn uwchgynhadledd UK-China High Level People to People yn Lancaster House, ac roedd Dr Liu Yandong, Dirprwy-bennaeth Gweriniaeth Pobl Tsieina a Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant yn dystion. Daw'r cytundeb o ganlyniad uniongyrchol i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth Diwylliannol rhwng Llywodraeth Cymru a Gweinyddiaeth Ddiwylliannol Tsieina yn 2015.
Dywedodd Andrew Miller, Hyrwyddwr Anabledd cyntaf Llywodraeth y DU ar gyfer y Sector Celfyddydau a Diwylliannol ac aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr:
"Mae agweddau tuag at anableddau'n trawsnewid ar draws y sector diwylliannol. Rydym yng nghanol cyfnod blaenllaw lle mae sefydliadau celfyddydol anabl fel Hijinx yn torri tir newydd, yn y DU yn ogystal ag yn rhyngwladol.
"Hoffwn longyfarch Hijinx ar eu gwaith yng Nghymru ac yn Tsieina. Roeddwn ar ben fy nigon o glywed eu bod wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar i ehangu eu gwaith hyfforddi i'r maes teledu a ffilm.
Fel aelod o’u Cyngor, rwy'n falch bod cyfranogiad a chynulleidfaoedd anabl Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed, diolch i gerdyn mynediad Hynt, sy'n ei gwneud yn haws i'r 11,000 o bobl anabl yng Nghymru archebu tocynnau theatr."
"Mae'n anhygoel bod y profiad trawsnewidiol y mae Hijinx wedi'i gynnig i gynulleidfaoedd a phobl anabl yng Nghymru bellach yn cael ei rannu yn Tsieina ac yn rhyngwladol, ac y bydd pobl yn Tsieina yn cael y cyfle i gwrddâ'r enwog Fred o Gymru."
A beth am Fred ei hun? Ers y bygythiad o golli ei LBB (Lwfans Byw i Bypedau), mae ei fywyd wedi mynd ar gyfeiliorn.
Ychwanegodd:
"Dwi jyst eisiau bod yn foi arferol, yn rhan o'r byd go iawn – cael job a chyfarfod merch."
Ond mae o hefyd yn helpu cynulleidfaoedd ledled y byd i ddeall yn well sut beth yw bod yn 'wahanol' o fewn cymdeithas.