Mae saith sefydliad o Gymru sy'n gweithio'n rhyngwladol yn y sector lenyddol yn cydweithio i gynnal stondin a fydd yn arddangos y teitlau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn mathau amrywiol o lenyddiaeth oddi wrth 11 cyhoeddwr annibynnol o Gymru. 

Eu nod yw cydweithio i gefnogi awduron, cyfieithwyr, cyhoeddwyr a'r sector lenyddol yng Nghymru drwy weithgarwch rhyngwladol a gwella cyfleoedd ar gyfer masnacheiddio a chynaliadwyedd economaidd yn y sector drwy ymgysylltiad rhyngwladol. Credwn fod gan Gymru ddiwylliant llenyddol dwyieithog a chenedlaethol sy’n unigryw a nodedig a sector gyhoeddi annibynnol a ffyniannus sy'n cyfrannu at lesiant creadigol, economaidd a chymunedol Cymru sy’n fodd inni gysylltu â’r byd. 

Mae’n fenter beilot yn y gobaith o gynnal presenoldeb rheolaidd i Gymru yn y ffair hon ac mewn ffeiriau rhyngwladol allweddol eraill a digwyddiadau llenyddol sy'n canolbwyntio ar y diwydiant. 

Bydd y stondin yn gyfle i ymwelwyr a gweithwyr o’r diwydiant gwrdd â chyhoeddwyr a sefydliadau llenyddol blaenllaw Cymru a chymryd rhan mewn seminarau cipolwg sydd â ffocws ar Gymru, darganfod straeon newydd o Gymru a phori drwy'r llyfrau ar y stondin. Bydd hefyd yn ganolbwynt i lawer iawn o’r negodi am hawliau a thrafod prynu a gwerthu gan gymryd ysgrifennu Cymru i gynulleidfaoedd ehangach a dod â lleisiau llenyddol newydd i ddarllenwyr yma. 

Uchafbwyntiau’r rhaglen fydd dathlu ugain mlynedd o Gyfnewidfa Lên Cymru a dau ddigwyddiad ar thema Cymru yng nghyfres y seminarau cipolwg i’r diwydiant. Bydd y seminar cyntaf, Cymru a'r Alban – ieithoedd brodorol Prydain mewn llenyddiaeth gyfoes, yn archwilio'r her a'r cyfle mewn ysgrifennu a chyfieithu rhai o leisiau Prydain, gan gynnwys rhai yn y Gymraeg, yr Aeleg a’r Sgoteg. Bydd Ifor ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru) mewn trafodaeth gyda’r awduron o Gymru, Alys Conran a Siân Northey, ac o’r Alban, Angus Peter Campbell a James Robertson. 

Cymru a’r Realaeth Hudol Newydd ym maes Cyhoeddi i Blant fydd yr ail seminar gyda’r awduron canlynol o Gymru - Eloise Williams, Bethan Gwanas, Siwan Rosser a Catherine Fisher. Trafodant bwysigrwydd cynyddu lleisiau brodorol ym maes cyhoeddi i blant yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg, dan gadeiryddiaeth Penny Thomas o Wasg Firefly sy’n enwog am gyhoeddi yn y maes hwn.

Cymer nifer o gyhoeddwyr Cymru hefyd ran yn y digwyddiad, Ffocws ar y Farchnad, sydd eleni’n canolbwyntio ar lenyddiaeth a diwydiant cyhoeddi yn y Baltig.

Dylunnir ac adeiledir y stondin gan y cwmni ifanc a deinamig, Ctrl Alt Design, a’r dylunwyr Ongl. Rhoddwyd y gwaith i’r ddau gwmni yn sgil proses o dendro’n agored o ystyried eu ffordd ffres o ddylunio a’u harbenigedd o weithio ar sawl prosiect celfyddydol o safon.

Meddai’r Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Mae’n wirioneddol dda y caiff enghreifftiau o lenyddiaeth wych Cymru eu harddangos eleni yn Ffair Lyfrau Llundain, un o’r ffeiriau llyfrau uchaf ei bri yn y byd. Mae gan y sefydliadau sy’n cydweithio i wireddu hyn sgiliau rhif y gwlith a phrofiad hir a dwfn. Mae’n glir bod gan Gymru lawer iawn i’w ddathlu, i’w rannu a’i hyrwyddo yn ei dwy iaith. Cefnogwn i’r carn weld Cymru yn cael ei chynrychioli fwyfwy yn y dyfodol yn y ffair hon ac eraill o’u bath ar draws y byd ac mewn digwyddiadau llenyddol eraill sy’n apelio at y diwydiant llyfrau."