Cafodd Danielle ei gwahodd i The House of Songs yn Austin, Texas, er mwyn cydweithio a datblygu caneuon newydd gyda grŵp o gerddorion rhyngwladol am wythnos ym mis Chwefror 2018. Roedd artistiaid lleol yno o Austin, yn ogystal ag artistiaid o Sweden ac Awstralia. 

Daeth yr wythnos i ben gyda pherfformiad o'u caneuon newydd sbon, a oedd wedi cael eu hysgrifennu ar y cyd, yn y bar enwog Cactus Cafe yn Austin.

Gwnaeth Danielle flogio am ei phrofiad yn The House of Songs: http://www.daniellelewis.co.uk/newsand-blog/usa-austin/

 

Yn dilyn ei hwythnos yn Texas, teithiodd Danielle i Kansas City, Missouri, er mwyn cymryd rhan yn Folk Alliance International, lle roedd ganddi wahoddiad i gymryd rhan fel artist arddangos. Cymrodd ran mewn perfformiadau arddangos a gynhaliwyd gan British Underground ochr yn ochr ag artistiaid eraill o'r DU, ac mewn perfformiadau arddangos a drefnwyd gan The House of Songs, lle perfformiodd setiau unigol a setiau lle rhannodd y llwyfan gydag artist arall, gan gymryd eu tro i berfformio caneuon.

Gweler blog Danielle am Folk Alliance International: http://www.daniellelewis.co.uk/newsand-blog/usa-kansas-city/

Llwyddodd Danielle i gael gafael ar lwyth o gysylltiadau, gan ddatblygu ei rhwydwaith yn sylweddol, gan gynnwys ag artistiaid eraill ac â hyrwyddwyr ac asiantau rhyngwladol. Bellach, mae ganddi hyd yn oed fwy o gyfleoedd i berfformio ei cherddoriaeth o flaen cynulleidfaoedd newydd.