Mae Edeifion yn fenter sy'n canolbwyntio ar artistiaid a chrefftwyr benywaidd, ar rannu eu teithiau personol a'u huchelgeisiau creadigol. Mae'n ymchwiliad rhwng artistiaid o Gymru a chrefftwyr o Kachchh, o arferion creadigol a lleoedd ei gilydd. Maent wedi rhannu amser yn y stiwdio a theithiau maes, traddodiadau cymunedol a phrofiadau personol. 

Gyda llygaid a meddyliau agored, mae'r artistiaid a chrefftwyr a oedd yn gysylltiedig ag Edeifionwedi cyfnewid straeon a sgiliau, gorwelion a hanesion. Ac er i Edeifionddechrau fel prosiect tecstilau â diddordeb mewn rolau menywod yn ecolegau ac economïau crefft India a Chymru, mae wedi tyfu'n llawer mwy na hynny.

Ym mis Tachwedd 2017, teithiodd artistiaid tecstilau o Gymru i Kachchh yn Gujarat er mwyn treulio tair wythnos gyda chrefftwyr unigol a'u cymunedau. Wedi'u croesawu gan  Khamir, sefydliad datblygu crefft y tu allan i Bhuj, rhannodd yr artistiaid a'r crefftwyr amser dwys yn y stiwdio ac allan yn y maes. 

Ymwelodd rhai o'r crefftwyr â Chymru yn nhymor hydref 2018 ar gyfer cyfnewidfa breswyl, a dilynwyd hon gan arddangosfa o waith gan yr artistiaid a'r crefftwyr a oedd yn rhan o’r gyfnewidfa yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Cynhyrchwyd cyhoeddiad i ddogfennu'r prosiect cyfnewid i gyd-fynd â'r arddangosfa. 

Cafodd gwaith newydd gan Julia Griffiths Jones, Eleri Mills, Champa Siju, Laura Thomas, Louise Tucker a Rajiben M. Vankar ei arddangos yn yr arddangosfa. 

Cafodd Edeifion ei gychwyn a'i reoli gan Fieldwork, law yn llaw â Khamir, Canolfan Grefft Rhuthun ac Ysgol Gelf Caerfyrddin. 

Tyfodd Edeifion mewn ymateb i raglen Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r British Council i ddynodi 70ain pen-blwydd annibyniaeth India a rhaniad India. Wedi'i gynllunio i annog a chryfhau perthnasau diwylliannol sydd eisoes yn bodoli ac i greu cysylltiadau newydd, mae'r rhaglen wedi cefnogi amrediad eang o brosiectau ar draws ffurfiau celf gwahanol yn y DU ac India. 

Mae Cronfa India–Cymru yn gronfa ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r British Council. 

'Beth sy'n gwneud gwlad? Beth am India a beth am Gymru? Gallwn ddewis nodweddion cymdeithasol neu dirweddau adnabyddus neu ddiwydiannau y gellir eu hallforio. Mae pobl o'r ddwy wlad yn rhannu cysylltiadau agos â'r tir, ceir cydblethu cymhleth o hanesion, mae tecstilau wedi ffurfio cymunedau priodol. Mae agweddau sy'n cysylltu ac yn gwahaniaethu yn ddi-rif. Gall dod o hyd i brofiadau yr ydym yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol fel unigolion fod yn atgofus ac yn ysbrydoledig a'r edeifion hyn roeddem am eu harchwilio gyda'r prosiect hwn. Mae'r artistiaid a'r crefftwyr sy'n gysylltiedig wedi rhannu amser yn y stiwdio a theithiau maes yng ngwledydd ei gilydd ac maent wedi rhannu straeon personol a sgiliau yng nghwmni ei gilydd. Maent wedi gweld tirweddau cyfarwydd â llygaid newydd ac maent wedi'u cyflwyno i syniadau newydd sydd wedi'u magu gan hen brofiad. Mae ganddynt arferion creadigol amlwg iawn, y mae pob un ohonynt yn perthyn i wybodaeth am le neu ohono. Yn reddfol neu wedi'i dysgu, rydym ni'n cludo ein gwybodaeth am le lle bynnag yr awn.'

Ceri Jones

Fieldwork