Mae Ghazalaw yn ganlyniad tair blynedd o gydweithio ac arbrofi trwy gyfrwng y Gymraeg a Wrdw rhwng meistr ghazal o Mumbai, Tauseef Akhtar, a'r cerddor a'r awdur gwerin Cymreig, Gwyneth Glyn. Cychwynnwyd a datblygwyd y prosiect gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru gyda chymorth arian loteri Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Yn dilyn recordio albwm yn 2014, daeth Mwldan ymlaen i reoli'r cywaith hwn ac, yn 2015, lansiodd Ghazalaw ei albwm ar label record newydd Cerys Mathews.

Cyrhaeddodd rhif un yn y siartiau Cerddoriaeth Byd ac mae wedi parhau i fod yn y 10 uchaf ers 2016. Mae hefyd wedi cael proffil sylweddol yn y DU, gyda adolygiadau cryf gan y cyfrynghau gerddoriaeth ryngwladol a prif ffrwd; sesiynau byw ar Radio 2 a 3 a rhaglen ddogfen ar Radio 4; ar restr fer Gwobrau Gwerin Radio 2 a Gwobr Cerddoriaeth Songlines; a perfformio yn WOMEX, arddangosfa a ffair fasnach fwyaf cerddoriaeth byd.

Cynhaliwyd taith yng Nghymru a'r DU gyda'r band llawn yn 2016, gan gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol mewn theatrau, gwyliau a neuaddau cymunedol.

Fel newyddiadurwr blaenllaw, dywedodd Andy Morgan:

 'Mae Ghazalaw yn unigryw. Araith aneglur y galon yw hon, wedi'i lleisio ar draws diwylliannau, cyfandiroedd ac oedrannau. Mae'n record o'r gorffennol, i'r dyfodol’.