Dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru - asiantaeth oddi mewn i Gyngor y Celfyddydau - mae’r Strategaeth yn disgrifio dyheadau’r sefydliad i ailddiffinio perthynas ddiwylliannol y wlad â gweddill Ewrop, creu cysylltiadau led-led y byd a dathlu celf ac artistiaid Cymru ar lwyfannau rhyngwladol. Mae’r Strategaeth hefyd yn rhoi blaenoriaeth newydd i botensial y celfyddydau i ysbrydoli, annog goddefgarwch a galluogi'r rheiny sy’n cymryd rhan i ddod o hyd i’w llais fel dinasyddion y byd.

Fe gyflwynodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru'r Strategaeth mewn digwyddiad yn Sain Ffagan i greu partneriaeth yng Nghymru yn rhan o Flwyddyn Ieithoedd Cynhenid, UNESCO:

"Wrth i berthynas Cymru â’r byd newid ar ras, ‘dyw ymrwymiad Cyngor y Celfyddydau i weithio’n rhyngwladol erioed wedi bod mor bwysig. Gyda’r holl heriau sy’n wynebu gwahanol rannau o’r byd, mae hwylio ar foroedd tymhestlog wedi dod yn beth arferol.

"Ar adegau fel hyn mae pwysigrwydd y celfyddydau yn amlwg, yn taflu golau ar ein byd. A dyma pam mae gweithio’n rhyngwladol mor hanfodol wrth ddatblygu gwlad groesawgar, egnïol sydd â’r celfyddydau wrth galon popeth." 

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Wrth ail-ddiffinio’n perthynas ag Ewrop, mae sefydlu perthynas gynhyrchiol, flaengar yn hollbwysig."

"Mae cyfnewid syniadau’n rhyngwladol yn ehangu ein dealltwriaeth o bobloedd a chymunedau. Ond mae artistiaid Cymru’n chwilio hefyd am gyfleoedd a marchnadoedd newydd. Mae hyn yn golygu fod rhaid i’r Cyngor gydweithio’n agos a phartneriaid oddi mewn i’r sector diwylliannol yn ogystal â gwneud mwy o waith gyda’r British Council a gwahanol adrannau llywodraethau’r DU sy’n gyfrifol am ddiwylliant, polisi tramor, masnach a diwydiant."

Mae cynlluniau ar gyfer gweithio gydag Ewrop, Tsieina ac India o fewn y Strategaeth ond mae Canada’n cael ei chydnabod yn arbennig fel ardal flaenoriaeth. Gwelir ffocws amlwg hefyd ar weithio gyda’r cenhedloedd a’r ardaloedd sydd â chysylltiadau diwylliannol ac ieithyddol ers tro byd â Chymru.

Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

"Ein celf, diwylliant a’n hieithoedd sy’n rhoi inni ein personoliaeth unigryw fel gwlad, ond mae gennym nodweddion hefyd sy’n gyfarwydd i nifer o ddiwylliannau lleiafrifol y byd.

"Wrth inni ail-ddychmygu ein lle, ein llais a’n brand o fewn byd sy’n newid, mae gan y celfyddydau gyfraniad sylweddol i’w wneud.

"Er mwyn goresgyn heriau Brexit, rydym yn annog y sector ddiwylliannol i gydweithio ac i wneud mwy i gysylltu ar lefel Ewropeaidd ac ymhellach."

Cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru Nodyn Briffio ar Brexit ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru yn Rhagfyr 2018. Mae’n nhw’n cwrdd yn rheolaidd â Chyngor Celfyddydau Lloegr, Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Iwerddon, Culture Ireland a British Council i baratoi ar gyfer byd wedi Brexit.