Gyda dim ond wythnos i fynd cyn i ni gyrraedd Tsieina, mae’r paratoadau terfynol yn cael eu trefnu yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn ymweld â mamwlad ein Prif Arweinydd Gwadd Xian Zhang, lle bydd hi'n arwain pum cyngerdd rhwng 15 a 21 Rhagfyr mewn pedair dinas fawr: Beijing, Changsha, Wuhan a Shenzhen.
Yr ymweliad hwn fydd y tro cyntaf i Zhang gynnal taith o amgylch ei gwlad enedigol gyda cherddorfa symffoni o Ewrop, a gan ei bod wedi ymgymryd â'i hastudiaethau cerddorol yn Tsieina, mae hi'n awyddus i ddod â cherddorion o'r ddwy wlad at ei gilydd yn sgil y perfformiadau hyn. Bydd Shimeng Sun, y delynores o Tsieina a raddiodd o'r Royal Northern College of Music yn 2018, a Phrif Ffliwtydd BBC NOW, Matthew Featherstone, yn ymuno â'r gerddorfa i berfformio Concerto i'r Ffliwt a'r Delyn gan Mozart. Bydd y gerddorfa'n croesawu unawdydd gwadd arall o Tsieina, sef y chwaraewr soddgrwth, Jiapeng Nie, i berfformio Amrywiadau Rococo gan Tchaikovsky yn yr ail cyngerdd yn Beijing.
Mae'r daith wedi deillio o'r ymweliad cyntaf â Tsieina i genhadu diwylliant Cymru ddechrau 2017. Mae'n cael ei chefnogi gan y Cyngor Prydeinig yn Tsieina, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Yn ystod y daith, bydd y gerddorfa hefyd yn perfformio ar y cyd â Cherddorfa Symffoni Shenzhen, a bydd cerddorion o BBC NOW yn darparu gwersi cerdd i ddisgyblion yn sefydliad Sufei Art Education yn Shenzhen. Mae'r gweithgaredd hwn yn rhan o femorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n bodoli rhwng Cymru a Tsieina, sy'n canolbwyntio ar Gydweithio Diwylliannol, Cyfnewid Arfer Gorau a Datblygu Doniau. Y daith yw rhan olaf prosiect Inspiring Women in the Arts y Cyngor Prydeinig, sef ymgyrch blwyddyn o hyd sy'n dangos gwaith artistiaid benywaidd i ysbrydoli cenedlaethau ifanc Tsieina.
Gallwch wrando ar ein perfformiad cyntaf yn Beijing yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio 3 ddydd Mercher 19 Rhagfyr yma a gallwch weld sut bydd pethau’n mynd i ni drwy diwnio i mewn i Arts Show ar BBC Radio Wales ar 21 Rhagfyr yma.
Peidiwch ag anghofio - gallwch hefyd weld Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio yng nghyngerdd BBC Cymru: Carolau’r Wŷl yn Neuadd Dewi Sant ar 16 Rhagfyr, sydd hefyd yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Wales Noswyl Nadolig am 11pm a thrannoeth am 2pm.
"Mae’r Gerddorfa’n llysgennad gwych i Gymru, ac mae’n bartner allweddol yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud i gynnal ac ymestyn ein hymgysylltiad diwylliannol dramor. Bydd eu taith yn gwneud llawer iawn i gynyddu ymwybyddiaeth o Gymru, ac rydw i’n dymuno’n dda iddyn nhw."
Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.