Cywaith rhwng yr artist Steffan Dafydd (Penglog) a'r llenor Dyfan Lewis (Gwasg Pelydr), sy'n dathlu creu a chydweithio rhwng gwahanol ddisgyblaethau celfyddydol. Ceir digwyddiadau byw lle y clywir cerddoriaeth fyrfyfyr yn cyfeilio artistiaid a llenorion. O safbwynt creadigol, mae’n arbrawf cyson, lle mae celf, cerddoriaeth a geiriau yn uno ac yn symud i gyfeiriadau annisgwyl a theimladwy. Gellir cael blas ar y math o beth sy’n cael ei gyflwyno yn y fideo byr isod gan Sam Stevens. 

Felly pam dewis y prosiect yma? Es i ddigwyddiad Creiriau yn gynharach eleni yng Nghaerdydd (gweler y poster isod) ac mi oedd yn brofiad arbennig iawn. Cyn i mi hyd yn oed ddechrau adlewyrchu ar yr ochr greadigol, y peth cyntaf a wnaeth fy nharo oedd yr elfen cryf o obaith oedd yn cael ei gyfleu. Digwyddiad ydoedd er mwyn codi arian tuag at Doctors Without Borders ac er y themau trist oedd yn cael eu trafod a’i cyflwyno yn y cerddi a’r darlleniadau, roedd yna hefyd elfenau hynnod gryf a difuant lle yr oedd y cysyniad o obaith yn cael ei drafod yn fanwl. Mewn ffordd, roedd yr elfen greadigol yn adlewyrchu hyn oll – hynny yw, fod y gerddoriaeth swynol ond di-strwythyr yn cynrychioli’r nod o geisio ffeindio cyfeiriad ac undod mewn sefyllfaoedd caled ac anisgwyl tra fod y geiriau yn cynrychioli’r gobaith a’r goleuni sy’n arwain y ffordd. 

Roedd yn bwysig iawn i mi allu dewis cymysg o weithiau a phrosiectau er mwyn gallu cyflwyno delwedd fwy cytbwys a chywir o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru o safbwynt creadigol - boed hyn o ran graddfa a’r gwaith ei hun, ond hefyd o safbwynt ariannu. Yn yr ystyr hyn, mae’n bwysig nodi felly fod Creiriau yn brosiect gwbl annibynnol sydd ddim wedi derbyn unrhyw nawdd na chefnogaeth ariannol gan Gyngor y Celfyddydau na Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.  

 

Gwefannau & Gwefannau Cymdeithasol  

Gwefan: www.creiriau.cymru   

Instagram: @penglogco @gwasgpelydr 

X: @PenglogCo @GwasgPelydr 

Credits 

Fideo: Sam Stevens 

Llun: Penglog 

 

Ani Glass yw ein curadur gwadd ar gyfer #PethauBychain 2024. Darllenwch mwy am y thema a'r prosiectau eraill a ddewiswyd yma: