Rebecca Wyn Kelly: Llonydd

Fel rhan o brosiect cymunedol, mae Rebecca yn gofyn beth sydd ei hangen yn yr amseroedd heriol yma, gan gydweithio gyda menywod trwy gynnig cefnogaeth, cyngor, a chyfeillgarwch.

 

Anthony Matsena: Beached

Mae'r darn yma, gan Anthony, yn archwilio deuoliaeth teimlad a thensiwn ysgafn rhwng ei dref enedigol a'i famwlad, ac yn ymateb corfforol i'r lleoliad presennol ac absenoldeb un arall.

 

Cheryl Beer: Bardd Dan y Rhisgl

Yn 'Bardd Dan y Rhisgl' mae Cheryl Beer yn creu deialog gymharol rhwng y disgwrs ar yr argyfwng hinsawdd a sefyllfa pobl anabl, yn sector y celfyddydau ac yn y gymdeithas ehangach.

Wedi’i guradu gan Marc Rees ar gyfer #PethauBychain