Crone Cast: Hagira
Mae Hagira yn alldaith i ymyl y tir. Mae'n rhan o waith gan gasgliad o artistiaid sy'n arbrofi gydag amodau'r pandemig, yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, cwymp cymdeithasol ac eco-system, o'r enw Crone Cast.
Rebecca Wyn Kelly: Llonydd
Fel rhan o brosiect cymunedol, mae Rebecca yn gofyn beth sydd ei hangen yn yr amseroedd heriol yma, gan gydweithio gyda menywod trwy gynnig cefnogaeth, cyngor, a chyfeillgarwch.
Anthony Matsena: Beached
Mae'r darn yma, gan Anthony, yn archwilio deuoliaeth teimlad a thensiwn ysgafn rhwng ei dref enedigol a'i famwlad, ac yn ymateb corfforol i'r lleoliad presennol ac absenoldeb un arall.
Wedi’i guradu gan Marc Rees ar gyfer #PethauBychain