Mae gwaith diweddaraf Osian Meilir ‘Yn y Diwedd’ yn rhan o gydweithrediad digidol sy'n pontio'r ffurfiau celfyddydol rhwng Cwmni Dawns Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru, sef 'Plethu/Weave'. Cydweithrediad gyda'r awdur Iestyn Tyne yw 'Yn y Diwedd', ac mae'n ffilm sy'n ymateb i deimladau o bryder a galar y byddwn efallai'n profi o achos yr argyfwng hinsawdd.
"Roeddwn i'n ddigon ffodus i weithio'n agos gyda'r dawnsiwr ifanc Cymreig Osian Meilir ar ei gomisiwn celfyddydau awyr agored 'Qwerin', lle roeddwn i'n fentor a bydwraig. Mae 'Qwerin' yn berfformiad dawns gyfoes sy'n croesi ffiniau dawns draddodiadol gwerin Gymreig. Gan gymryd ysbrydoliaeth o ddiwylliant clybiau Cwiar a'r patrymau cywrain o ddawns gwerin sy'n plethu a llifo, mae 'Qwerin' yn ddawns werin gyda rhywbeth gwahanol, cyfuniad llawen o Vivian Westwood a 'voguing', wedi'i lapio mewn arlliw buddugol." - Marc Rees
Wedi'i guradu gan Marc Rees ar gyfer #PethauBychain