"Coreograffydd ac artist dawns wedi'i seilio yn Belfast yw Oona Doherty. Mae Oona wedi derbyn cydnabyddiaeth nodedig a haeddiannol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r perfformiad unigol yma o'i gwaith 'Hope Hunt' bellach yn rhan o'i gwaith ehangach 'Hard to Be Soft', ac yn ein dychwelyd i hanfod sgil Oona. Mae'r unawd yn deyrnged i ddynion a menywod canol dinas Belfast sydd wedi atseinio ar draws dinasoedd y byd. Mae'n talu teyrnged i fregusrwydd a dynoliaeth machismo ac ymddygiad ymosodol ar yr wyneb, ac yn dangos sut gall dawns, a chorff unigol, trawsnewid i ddal bywydau a phrofiadau llawer o bobl. Pan wahoddais Oona i dreulio amser gyda Chwmni Dawns Genedlaethol Cymru yn 2018, roedd hynny oherwydd fy mod yn teimlo bod ei gwaith yn atseinio'n arbennig yng Nghymru. Rwy'n credu bod e'n atseinio o hyd." - Fearghus Ó Conchúir

Wedi'i guradu gan Fearghus Ó Conchúir ar gyfer #PethauBychain