Mae'r weithred ddifrïol ond hardd a pherthnasol hon a ddaliwyd mewn ffilm yn siarad drosti'i hun a'r hyn y mae angen i ni i gyd wneud mwy ohono yn yr amseroedd heriol hyn.

Cefais wahoddiad i weithio ar y prosiect cymunedol ‘Blaguro’ yn Yr Egin yn Sir Gaerfyrddin. Cefais fy mharu gyda'r grŵp Gwneud Bywyd Yn Haws. Mae'r grŵp yn cynnwys menywod  sy'n cynnig cefnogaeth, cyngor a chyfeillgarwch. Gwahoddais yr aelodau i eistedd mewn distawrwydd am gyfnod penodol o amser ac yna myfyrio ar y profiad. Roedd yr ymatebion yn bersonol ac emosiynol iawn ac fe wnaethant dynnu sylw at ba mor bwerus y gall cysylltu â ni'n hunain trwy dawelwch fod. Fe wnaethon ni ddarganfod ei bod hi'n anodd bod yn dawel mewn byd o anhrefn. Mae cymaint o wrthdyniadau ac esgusodion, bod ni’n anghofio bod yn llonydd. Mewn llonyddwch a distawrwydd, rydyn ni'n gadael lle ar gyfer sgyrsiau mewnol ystyrlon. Heb unrhyw ymyrraeth o'r byd y tu allan, gallwn arsylwi a chydnabod  gwir ein hunain.

- Rebecca Wyn Kelly

Wedi'i guradu gan Marc Rees ar gyfer #PethauBychain