“Erbyn hyn, mae Seachtain na Gaeilge - wythnos Gwyddeleg yn llythrennol - wedi tyfu i ŵyl 3 wythnos ym mis Mawrth, sy’n dathlu’r iaith Gwyddeleg ar draws y byd ac yn annog pobl i’w siarad. Roedd tyfu fyny gyda’r iaith wedi helpu i mi ddeall mwy am Gymru pan gyrhaeddais i weithio yno, ac felly roeddwn i am rannu’r gwaith ffilm yma gan yr artist Ríonach Ní Néill. Mae’n gofyn y cwestiwn: Beth fyddai'n eich gorfodi i fynd yn groes i'r status quo a magu’ch teulu yn siaradwyr Wyddeleg yn Iwerddon Saesneg ei hiaith o'r 1950au i'r 1980au?

Yn I Modh Rúin (yn gyfrinachol), mae Ríonach yn cyfuno ffilm, dawns, cyfweliadau a cherddoriaeth i adrodd stori pump menyw a wnaeth yr union beth.

Yn ystod wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae’r dathliad yma yn enwedig o undod benywaidd rhwng cenedlaethau yn teimlo’n addas.” - Fearghus Ó Conchúir

Wedi'i guradu gan Fearghus Ó Conchúir ar gyfer #PethauBychain