Cafodd y rhaglen Gwrando ei greu yn rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig ac er mwyn cefnogi artistiaid i wrando a dysgu gan y nifer o ieithoedd brodorol y byd sydd mewn perygl. Dyma Veronica Calarco yn trafod ei phrosiect a’i thaith hyd yma.

 

Datblygodd gysylltiadau a gwrando dwfn rhwng artistiaid yng  Nghymru, Iwerddon ac Awstralia drwy greu lle i'r artistiaid ddysgu oddi wrth ein gilydd am archwilio’n ddiwylliannol, ieithyddol a chreadigol.  

  

Ar ba iaith/cymuned frodorol y buoch yn gwrando? 

Dwi wedi bod yn gwrando ar leisiau o wahanol wledydd.  

Awstralia:  

Ricky Emmerton, Calcatwngw (ardal Mynydd Isa, gogledd Queensland).  

Susan Nampitjin Peters, Walmajari (anialwch Tanami, de-ddwyrain Kimberleys, gorllewin Awstralia).   

Brooke Wandin, Wrwndjeri (ardal Melbourne, Victoria) 

Cymru: Angharad Jenkins 

Iwerddon: Eileen Keane a Fidelma Ní Ghallcobhair 

  

Gyda phwy ydych chi wedi bod yn cydweithio?   

Cydweithiais â saith artist o bum grŵp iaith gwahanol a thair gwlad. Roedd yr artistiaid a ddewiswyd ar gyfer y prosiect hwn i gyd wedi gwneud dewis bwriadol i ymgorffori eu hieithoedd yn eu bywydau, h.y. Saesneg yw’r iaith o’u cwmpas, ond fe wnaethant i gyd chwilio am gyfleoedd i wneud eu hiaith draddodiadol yn rhan o’u gwaith a’u bywydau, boed yn iaith enedigol neu wedi ei ddysgu / canfod fel oedolion.    
 
Mae’r artistiaid i gyd yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd i adnabod a dal gafael ar eu hiaith a chanfod ffyrdd o gael yr iaith allan yna. Rhoddodd y prosiect hwn amser iddynt ganolbwyntio ar eu hiaith ac archwilio eu hangerdd dros eu hiaith gyda phobl greadigol eraill. 

 

Beth hoffech chi ei rannu am eich taith? 

Drwy gael amser a lle i ddatblygu ffordd o weithio, mae modd imi ailadrodd y straeon a dangos pwysigrwydd y geiriau sy'n aros yng nghalon a genau'r bobl frodorol. 

   

Beth yw eich dyheadau ar gyfer Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig?  

2019 oedd blwyddyn yr ieithoedd brodorol. Ond nid oedd blwyddyn yn ddigon i neidio’r ‘gagendor’ (David Crystal, 2003) rhwng y wybodaeth academaidd a chyhoeddus am yr ieithoedd mewn perygl a dechrau gwrando arnynt. Ond mae’r Degawd yn wych ac yn fodd i sefydliadau weithio ar brosiectau a mentrau hirdymor i amddiffyn a thyfu ieithoedd brodorol.  

Hoffwn i'r Degawd fod yn gyfnod o gyd-greu gan artistiaid, awduron a phobl greadigol. Rhaid inni ddeall bod tirwedd (ein hamgylchedd, ein gwlad) yn agwedd bwysig ar iaith. Mae'r iaith yn dod o'r tir a chael ei ffurfio ganddo. Mae iaith wedyn yn ffurfio sut rydym yn gweld a defnyddio'r tir. Drwy atal colli iaith a deffro’r ieithoedd a’u tyfu eto, byddwn hefyd yn atal colli eu gwybodaeth am gadw a gwella’r tir sydd mewn perygl mor enbyd.  

  

Beth yw un wers ymarferol rydych chi wedi'i ddysgu ac eisiau ei rhannu ag artistiaid eraill am weithio gydag ieithoedd brodorol?  

Deall beth mae diwylliant ac iaith yn ei olygu i bobl, i'w goroesiad a'u hyder, hyd yn oed os yw'n iaith a diwylliant y maent wedi gweithio'n galed i ailddeffro. Fel artist, rhaid ichi ddatblygu eich sgiliau gwrando ar yr hyn y mae’r bobl yn ei ddweud a deall nad yw pawb yn cael eu hiaith a'u diwylliant ar adeg eu geni.