Mae Cymru yn cychwyn ar daith o wrando ar ieithoedd eraill.

Yn y sgwrs agoriadol fer hon, mae’r bardd Mererid Hopwood yn galw arnom i wrando ar dirwedd ieithyddol y byd ac yn gwneud cysylltiad bwriadol rhwng iaith a’r amgylchedd. Yr awgrym yw ei bod hi’n bryd gwrando ar yr amrywiaeth o ieithoedd er mwyn cael yr un manteision ag yr ydym yn awr yn dechrau eu gwerthfawrogi wrth werthfawrogi amrywiaeth rhywogaethau ein byd naturiol.