Dyma gyfres o englynion gan y bardd Mererid Hopwood i ddymuno'n dda i'n harwyr glew yn eu gem yng Nghwpan Rygbi'r Byd y dynion yn erbyn Georgia yn Nantes, ar ddydd Sadwrn, 7 Hydref 2023.

Awn i Nantes, i dre’r Nentydd – tua Breizh,

tua bro llawenydd,

yn griw dewr i gario’r dydd:

y Gallois gyda’n gilydd.

 

Ah! Mon Dieu! C’est le mondial;– et les Rouges

sont la rêve ddihafal,

les acrobates diatal:

sont garçons du Pays de Galles.

 

Allez! Allez! Mae Calon Lân – ar waith,

mae les Rouges ymhobman!

Ni piau’r coupe a’r Cwpan,

le rugby, Gymru, yw’r gân!

 

Ein Carfan, awn amdani’n ... ffor’ ma dweud? ...

‘Formidable!’ a sgori; 

ac ar ras mynnwn groesi

y llinell wen yn un lli.

 

Fel pob gwlad wâr dod i chwarae – wnawn ni

Hyd y Nos, heb arfau,

a’n cais siŵr heb un casáu:

tegwch yw’n holl dactegau.

 

A thân ein cân yn ein cynnal – o bàs

i bàs drwy bob cymal;

un enw fydd ar ana’l

y byd i gyd: Pays de Galles!

 

Dewi, bydd melodïau – y cewri’n

ein cario, a dreigiau

coch Hen Wlad fy Nhadau

fel un côr yn concro’r cae.

 

                                          Mererid Hopwood.

Gofynwyd i Mererid Hopwood ysgrifennu'r gerdd hon gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar gyfer dathliadau Blwyddyn Cymru yn Ffrainc 2023. Darllenwyd y gerdd am y tro cyntaf gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford mewn digwyddiad gyda'r Foheddig Menna Rawlings, llysghennad benywaidd cynfaf Prydain i Ffrainc.