Bydd trydedd rownd o breswylfeydd rhyngwladol yn y celfyddydau gweledol i Fluxus Magnetig yn Ffrainc a’r DU yn agor i gais ar 21 Mai tan 15 Gorffennaf 2024.
Mae’r rhaglen eisoes wedi cefnogi 8 partner rhyngwladol ac 17 artist. Nawr mae’r rhaglen yn ehangu ei rhwydwaith i 2 breswylfa arall ym Mharis a Llundain.
MAGNETIG
Mae’n rhaglen ar y cyd rhwng y DU a Ffrainc dan ymbarél Prosiectau Celf Fluxus. Mae’n dod â 10 sefydliad at ei gilydd i greu rhwydwaith o breswylfeydd i artistiaid yn rhanbarthau Ffrainc a chenhedloedd y DU.
Mae pob preswylfa’n bartneriaeth rhwng rhanbarth Ffrainc a chenedl yn y DU:
- Frac Bretagne, Roazhon/Rennes, Llydaw i ymgeiswyr Cymru
- Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth i ymgeiswyr Llydaw
- Frac Grand Large, Dunkerque, Hauts-de-France i ymgeiswyr Gogledd Iwerddon
- Stiwdios Celf Flax, Belffast/Béal Feirste, Gogledd Iwerddon i ymgeiswyr Hauts-de-France
- Villa Arson, Nice, Provence-Alpes-Côte d'Azur i ymgeiswyr yr Alban
- Parc Cove, Helensburgh, yr Alban i ymgeiswyr Provence-Alpes-Côte d'Azur
- CAPC, Bordeaux, Nouvelle-Aquitaine i ymgeiswyr Lloegr
- Canolfan Gelfyddydol Wysing, Caergrawnt, Lloegr i ymgeiswyr Nouvelle-Aquitaine
- Bétonsalon, Paris i ymgeiswyr Lloegr
- Gasworks, Llundain i ymgeiswyr rhanbarth Île-de-France
Rydym yn gwahodd artistiaid Ffrainc i ymgeisio am breswylfa yn y wlad gysylltiedig yn y DU a rhai’r DU i ymgeisio am y rhanbarth cysylltiedig yn Ffrainc.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar wefan Fluxus.
Materion cymdeithasol ac amgylcheddol sydd wrth wraidd y rhaglen. Mae'r preswylfeydd wedi'u teilwra i bob sefydliad a'i ardal leol. Bydd gwahoddiad i’r artistiaid ymateb i gyd-destunau daearyddol, hanesyddol, cymdeithasol neu artistig penodol.
Mae Magnetig 3 yn cynnig:
- preswylfa 2 fis wedi'i theilwra mewn trafodaeth â thîm curadu’r sefydliad
- ffi fisol o £2,100 neu 2500 €
- llety a lle i weithio
- mentora curadurol
- cyfleoedd rhwydweithio rhyngwladol
Rydym yn edrych ymlaen at gael eich cais
Amserlen
- 21 Mai–15 Gorffennaf: cyfnod ymgeisio
- Ail hanner Medi: pwyllgorau dewis a chyfweld â’r artistiaid a gafodd eu dewis ymlaen llaw
- Dechrau mis Hydref: cyhoeddi’r enillwyr
- Tachwedd: preswylfeydd yn dechrau
Os ydych am ymgeisio, rhaid cyflwyno cynnig artistig sy'n amlinellu arbenigedd eich ymarfer a’ch diddordebau ymchwil a pham eu bod yn berthnasol yng nghyd-destun y sefydliad yr ydych yn ymgeisio amdano. Hefyd darn byr sy'n disgrifio eich cymhelliant dros ymgeisio am breswylfa ryngwladol ar yr adeg yma yn eich gyrfa a manteision hynny.
Pwysig
- Dim ond artistiaid gweledol cyfoes sy’n gallu ymgeisio
- Nid yw myfyrwyr yn gallu ymgeisio
- Rydych yn gysylltiedig â gwlad/rhanbarth os oes gyda chi gyfeiriad preswyl yno
- Bydd ymgeiswyr Lloegr yn gallu ymgeisio i un o ddau le: CAPC, Bordeaux neu Bétonsalon, Paris
- Rhaid i bob cais fod yn Saesneg ond bydd ymgeiswyr Cymru yn gallu ymgeisio yn y Gymraeg neu’r Saesneg
- Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar y cyd (gan ddau neu ragor o bobl)
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau gan y rhai o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – o ran hil, ethnigrwydd, rhywedd, cefndiroedd incwm isel ac ymgeiswyr sy'n F/fyddar, anabl neu niwroamrywiol.
Mae gwahanol sefyllfaoedd hygyrchedd gan bob sefydliad sy’n cynnig preswylfa. Edrychwch ar ein gwefan i’w gweld.
Rydym yn barod i drafod unrhyw ofynion penodol. Os oes arnoch angen cymorth hygyrchedd ar unrhyw gam wrth ymgeisio, rhowch wybod inni.
Cyswllt:
https://fluxusartprojects.com/magnetic-residencies
Y canlynol sy’n cefnogi Magnetig:
Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Yr Alban Greadigol
Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon
Cyngor Celfyddydau Lloegr
Y Cyngor Prydeinig
Institut français du Royaume-Uni
Institut français
Gweinyddiaeth Ffrainc dros Ddiwylliant
Gweinyddiaeth Ffrainc dros Ewrop a Materion Tramor