Rhan amser, 22.2 awr yr wythnos

Cyfnod penodol am 12 mis

Gradd B: Cyflog cychwynnol o £15,015 (£25,026 pro rata)

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Am y rôl

Mae’r Cydlynydd Rhyngwladol yn cefnogi gweithgareddau, prosiectau a gwasanaethau Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae hyn yn cynnwys datblygu gwasanaethau gwybodaeth rhyngwladol, cydlynu cyfathrebu, gohebiaeth ac apwyntiadau. Mae hefyd yn cynnwys cynllunio, trefnu a gweinyddu cyfarfodydd mewnol ac allanol, digwyddiadau a chynadleddau a chymryd rhan mewn cyflwyno gwaith cyswllt rheng flaen gyda sectorau yng Nghymru ac mewn cyd-destunau rhyngwladol.

Prif ffocws y rôl benodol hon yw darparu gwasanaeth gweinyddol a chymorth o ansawdd uchel i Wybodfan Celf y DU. Bydd yn gweithio wrth ochr Swyddog Gwybodfan Celf y DU, partneriaid Gwybodfan Celf y DU a thîm Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Menter beilot i gynorthwyo sector y celfyddydau a gwybodaeth am faterion ymarferol o ran symudedd yw Gwybodfan Celf y DU. Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth rhyngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd yn arwain cyfnod cyntaf y prosiect mewn partneriaeth a Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Lloegr, a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon.

Amdanoch chi

Bydd gennych sgiliau TG a gweinyddu tra datblygedig, sgiliau cyfathrebu da a phrofiad o gefnogi trefnu digwyddiadau ac ymdrin â phobl mewn digwyddiadau, cynadleddau a chyd-destunau grŵp eraill ar lefel sefydliadol.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                         12:00yp (canol dydd) Dydd Iau 27 Gorffennaf 2023

Cyfweliadau:                         Dydd Iau 3 Awst 2023

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.

Gweithio hyblyg

Mae’r rôl hon yn rôl rhan amser, ond wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd. Gellir gweithio oriau'r rôl hon dros 3,4, neu 5 diwrnod.

Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

 

Dogfen04.07.2023

Pecyn Swydd: Cydlynydd Rhyngwladol (Gwybodfan Celf y DU)