Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Cytundeb cyfnod penodol 12 mis
Gradd B: Cyflog cychwynnol o £27,591
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y rôl
Mae gan y Cydlynwyr Tîm bortffolio cymysg o gyfrifoldebau unigol a phrosiectau corfforaethol. Mae’r Cydlynwyr Tîm yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i gynnal a chydlynu’r gweithgarwch yma.
Mae’r Cydlynwyr Tîm yn sicrhau bod gweithgareddau’r Cyngor yn cael eu cyflawni’n effeithiol trwy ddarparu gwasanaeth gweinyddol o safon uchel. Mae hyn yn cynnwys cydlynu cyfathrebu, gohebiaeth ac apwyntiadau. Mae hefyd yn cynnwys cynllunio, trefnu a gweinyddu cyfarfodydd Tîm.
Amdanoch chi
Os ydych chi'n rhywun sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu da, gallai'r rôl hon fod ar eich cyfer chi. Bydd gennych chi brofiad perthnasol a phrofadwy o ddarparu gwasanaethau gweinyddol o ansawdd uchel mewn amgylchedd cyflym a sgiliau TG datblygedig iawn. Bydd gennych chi hefyd y gallu i flaenoriaethu a chynllunio eich gwaith eich hun gan ganiatáu i chi weithio ar eich menter eich hun a gweithio'n effeithiol o dan bwysau. Byddwch chi'n gallu cyfathrebu'n glir ag amrywiaeth o randdeiliaid gyda doethineb a diplomyddiaeth.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Saesneg a Chymraeg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (ysgrifenedig a llafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Fodd bynnag, ar ôl eich penodi, disgwylir i chi ymrwymo i ddysgu Cymraeg. Gallwn eich cefnogi i ddysgu, datblygu a gwella eich sgiliau iaith ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Amrywiaeth a chynhwysiant
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.
Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 5yh, Dydd Gwener 6 Mehefin 2025
Cyfweliadau: Wythnos 16eg - 20fed Mehefin 2025
Gweithio hyblyg
Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.
Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.