Mae’r cynllun Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol (Llywodraeth Cymru) yn gyfle 8 wythnos i bobl yng Nghymru ddatblygu eu sgiliau arwain, a chyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r rhaglen ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr profiadol sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cydweithio â grŵp amrywiol o bartneriaid sefydledig yn Uganda, Namibia, Lesotho neu Somaliland.

Mae’r ystod o arbenigedd prosiect hefyd yn cynnwys cyfleoedd penodol yn Namibia i’r rhai sy’n gweithio ym myd celf a chrefft, pobl greadigol a newyddiadurwyr (ysgrifenedig), gyda photensial ar gyfer artistiaid preswyl, sy’n bodloni’r sgiliau canlynol:

  • y gallu i weithio gydag eraill
  • y gallu i reoli ac ysgogi grŵp o bobl amrywiol
  • sgiliau gwrando a chyfathrebu cryf 
  • y gallu i ddylanwadu ar bobl heb fod yn rheolwr llinell arnynt
  • y gallu i feddwl yn strategol
  • y gallu i ddatrys problemau