Mae ‘Diwylliant yn Datgan Argyfwng’ yn fudiad cynyddol o bobl yn y celfyddydau a diwylliant sy’n datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Mae ei haelodau yn addo dweud y gwir, gweithredu a cheisio cyfiawnder. Mae gan DDA nifer o ganolfannau rhanbarthol, ar draws y DU a'r byd. Yn y sesiwn hon bydd gennym drosolwg o DDA, a byddwn yn dechrau archwilio beth allai ei olygu i sefydlu canolbwynt yma yng Nghymru.

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i wneud yn bosibl gan Gynghrair Diwylliant Cymru, Yr Ystafell Argyfwng a Celf ar y Blaen, gyda chefnogaeth o’r Cyngor Celfyddydau Cymru.

Ymunwch â ni am 2:00 dydd Mercher 31 Mai. I archebu eich lle, cwblhewch y ffurflen archebu hon:

https://forms.gle/6592o2bByrvyNhVa8