I nodi Dydd Gŵyl Dewi 2023, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru – asiantaeth rhyngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru – wedi cyhoeddi enwau’r naw derbynnydd Rhaglen Gwrando. Mae’r rhaglen hon wedi cael ei greu er mwyn cefnogi artistiaid i wrando a dysgu gan y nifer o ieithoedd brodorol y byd sydd mewn perygl fel rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r Degawd, a buddsoddi mewn mentrau Cymraeg a dwyieithog, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Yr artistiaid/prosiectau a fydd yn derbyn cefnogaeth ar eu taith o wrando yw:

Siri Wigdel - 'Govledh’  
Veronica Calarco – ‘Gwrando Dwfn Molla Wariga’ 
Georgina Biggs – ‘Ways of Listening’
Gareth Bonello – ‘'Sai-thaiñ’
Iola Ynyr – ‘Coflaid’
Dylan Huw – ‘cyfiaith/queer’
Chembo Liandisha – ‘Namvwa’
Ailsa Mair Fox
Abby Sohn

Mae'r prosiectau'n archwilio sawl cyd-destun gwahanol ar draws ystod o gymunedau, gan gynnwys: dysgu rhagor am juoiggus sef traddodiad caneuon hynafol y Sámi; cysylltu â mamiaith trwy wrando ar y Gawa Undi a Henuriaid y Bobl Chewa; ymchwil theatr a pherfformiad i’r cydblethiad trawma, diwylliant, y ddaear a’r byd ysbrydol o fewn gymunedau brodorol yng Nghanada; gwrando ar leisiau hynafiaid a defod iachau traddodiadol pobl frodorol Muisca Colombia; gwrando a dwyochredd rhwng artistiaid yn Awstralia, Iwerddon a Chymru gan gynnwys arddangosfa o'r gweithiau a chrëwyd; parhau i archwilio'r cysylltiadau rhwng Cymry a phobl Khasi trwy farddoniaeth, cerddoriaeth a pherfformio; a chreu deialog ac archwiliad am greu iaith cwiar yn yr Wyddeleg a’r Gymraeg.

Mae Gwrando wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac mae’n gyfle i Gymru barhau i ddatblygu ei rôl o wrando ar ieithoedd eraill a dysgu oddi wrthynt. Rhannodd y bardd a’r academydd Mererid Hopwood ei syniadau ar y grefft o wrando yn y ffilm fer hon.

 

Meddai Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

"Bob pythefnos mae iaith frodorol arall yn marw. Mae'r ieithoedd hyn yn gyfryngau i filoedd o ddiwylliannau gwahanol a hefyd yn cysylltu pobl â'r tir lle maen nhw'n byw ac felly maent yn cynnig dull pwysig o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Fel rhan o'n cyfrifoldeb byd-eang i genedlaethau'r dyfodol, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi ceisio gwrando’n gyntaf ar rai o'r ieithoedd hyn a’u cefnogi. Y Gymraeg yw ein hiaith frodorol ni ac mae hi wedi goroesi diolch i raddau helaeth i’w barddoniaeth, ei chaneuon a’i mynegiadau diwylliannol eraill. Mae'r celfyddydau'n cynnig ffordd bwysig o wrando ar ieithoedd a diwylliant eraill yn ogystal â dull grymus o rannu profiadau gwahanol o fyw, ymwneud â natur a gwarchod y ddaear."

 

Meddai Dylan Huw, un o’r artistiaid sydd wedi’i wobrwyo gan raglen Gwrando i ddatblygu ei ymchwil a datblygiad:

“Dwi wrth fy modd i gael y cyfle i gychwyn proses ymchwil gydweithredol newydd yn rhan o raglen Gwrando, gan obeithio bydd yn gyfnod cyfoethog o ddeialog, arbrofi a dysgu, ochr-yn-ochr â chyfoedion creadigol o gyd-destunau ieithyddol amrywiol. Bydd y cyllid yn fy ngalluogi i ehangu ar ddiddordeb hir-dymor yn y berthynas rhwng cyfieithu, bodolaeth queer a dulliau archwiliol o gyd-weithio, a dwi'n gyffrous iawn i ddilyn datblygiadau'r prosiectau eraill ar y rhaglen.”

 

Darllenwch fwy am yr artistiaid a’u teithiau gwrando isod.

Siri Wigdel – ‘Govledh’
Yn dilyn cyfnod o waith diweddar gyda’r cwmni Norwyaidd/Sami GullBakken, gan ddysgu am draddodiad juoiggus hynafol De Sami, bydd Siri yn ymchwilio ymhellach i’r diwylliant cyfoethog ac eang sy’n amgylchynu’r traddodiad hwn, ac yn rhannu ei gwybodaeth newydd yn eang. Mae Govledh yn golygu “gwrando” yn iaith De Sami,
a chredir bod yr iaith yn cael ei siarad gan ryw 500-600 o bobl yn Sweden a Norwy.

Iola Ynyr – ‘Coflaid’
Cyfle i weithio gydag artistiaid benywaidd o fewn maes theatr neu berfformio o fewn cymunedau brodorol Canada, bydd Iola yn archwilio trawma, a’i gysylltiad â diwylliant, y ddaear a’r byd ysbrydol.

Dylan Huw – ‘cyfiaith / queer’
Bydd y prosiect hwn yn gyfnod o ddeialog ac ysgrifennu archwiliadol rhwng awduron/artistiaid Cymreig a Gwyddelig sy’n gweithio mewn Gaeilge a Chymraeg. Byddant yn archwilio'r syniad o greu iaith cwiar a phwysigrwydd gwrando ar ieithoedd sydd mewn perygl ac ieithoedd lleiafrifol, a chymunedau yn sgwrsio â synwyriadau cwiar ac ecolegol sy'n dod i'r amlwg. Bydd y prosiect yn cynnwys ymweliad ymchwil a chyhoeddiad pamffled amlieithog.

Georgina Biggs – ‘Ways of Listening’
Bydd Georgina yn dyfnhau ei harchwiliad diwylliannol a chreadigol o ffyrdd o wrando. Bydd hi’n gwrando ar leisiau hynafiaid Anthar Kharana ochr yn ochr â Javier Peralta (cerddor â nam ar ei olwg sydd wedi’i leoli yn Bogota), yn archwilio defod iachau traddodiadol pobl frodorol Muisca Colombia, ac ar ganeuon a straeon o’i hymarfer ei hun, wedi’u perfformio o fewn y dirwedd.

Veronica Calarco – ‘Gwrando Dwfn Molla Wariga’
Bydd y prosiect hwn yn datblygu gwrando dwfn a dwyochredd rhwng artistiaid yn Awstralia, Iwerddon a Chymru, gan greu gofod i’r artistiaid ail-fframio sut maent yn dysgu oddi wrth ei gilydd, a rhannu gwybodaeth am archwiliadau diwylliannol, ieithyddol a chreadigol ei gilydd. Bydd Stiwdio Maelor yn cynnal arddangosfa wedi’i churadu o’r gweithiau a grëwyd yn ystod y prosiect, gan arddangos llyfrau braslunio a darluniau’r artist yn ogystal â gweithiau gorffenedig.

Chembo Liandisha – ‘Namvwa’
Bydd Chembo, a gafodd ei magu yn ardal Wrecsam, yn ymchwilio ac yn gwrando ar ddiwylliant mamiaith ei mam yn Zambia gyda’r Gawa Undi a a Henuriaid y Bobl Chewa, gan wrando ar eu pryderon, eu meddyliau, eu gobeithion ar gyfer y presennol a’r dyfodol gydag amgylchedd sy’n newid yn gyflym. Gair Nsenga/Chewa yw Namvwa sy'n cyfieithu'n llac yn Saesneg fel "I have heard/Listened".

Gareth Bonello – ‘'Sai-thaiñ’
Bydd Gareth yn gweithio gyda Lapdiang Syiem, bardd, actifydd a pherfformiwr o gymuned Khasi frodorol Meghalaya, Gogledd-ddwyrain India. Gyda’i gilydd, byddant yn archwilio’r cysylltiadau cymhleth rhwng Cymry a’r bobl Khasi, a’r heriau sy’n wynebu’r ddwy gymdeithas. Bydd eu gwaith yn cyfuno barddoniaeth, perfformiadau, cerddoriaeth a deunydd clywedol/gweledol yn y Gymraeg a Khasi. Bydd hyn yn adeiladu ar eu cydweithrediad parhaus lle mae hunaniaeth ddiwylliannol, cyfiawnder cymdeithasol a materion amgylcheddol yn amlwg.

Ailsa Mair Fox
Mae’r cerddor Ailsa Mair Fox (Machynlleth) wedi derbyn gwobr gychwynnol i ddatblygu ei diddordeb mewn ieithoedd Perseg.

Abby Sohn
Yn artist a aned yn UDA sy’n byw yng Nghymru, mae Abby wedi derbyn gwobr gychwynnol i adeiladu ar ei hymchwil blaenorol, gan archwilio canfyddiadau o ffiniau mewn perthynas ag iaith a’r amgylchedd. Bydd yn edrych ar sut y gall ddatblygu ei pherthynas bresennol gyda phobl Cenhedloedd Cyntaf yn UDA ac artistiaid Cymreig.