Bydd yr ŵyl ryngwladol fawr ei bri, Celtic Connections, yn goleuo llwyfannau, lleoliadau a nosweithiau gaeafol Glasgow rhwng 18 Ionawr a 4 Chwefror 2024. Yn ymuno â’r rhestr o berfformwyr rhyngwladol, bydd artistiaid eithriadol o Gymru, gan gynnwys Adwaith, Black Feathers, Lleuwen, No Good Boyo, Patrick Rimes yn Celtic Odyssée a Pedair.

Bydd arddangosfa Showcase Scotland yn cael ei chynnal fel rhan o Celtic Connections – digwyddiad pedwar diwrnod sy’n cyflwyno cerddorion o’r Alban a gwledydd sy’n bartner iddi i gynrychiolwyr rhyngwladol. Yr wythnos hon, bydd Cymru’n cwblhau partneriaeth dair blynedd yn hyn o beth. Ddydd Sadwrn 27 Ionawr, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyflwyniad i gloi’r bartneriaeth hon. Dyma’r trydydd cyflwyniad, a’r olaf, lle bydd 10 o artistiaid o Gymru yn arddangos eu gwaith i gynrychiolwyr rhyngwladol.  

Meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae’r gwaith rhyngwladol rydyn ni’n ei wneud drwy ein hasiantaeth, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ynghyd â thrwy ein partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn ein helpu i ddatblygu, cysylltu a hyrwyddo celfyddydau o’r radd flaenaf o Gymru. Rydyn ni’n gwybod bod gan y celfyddydau y grym i gysylltu pobl â’i gilydd, gan ein helpu i ddeall ein gilydd a’r byd o’n cwmpas. Mae’r artistiaid sy’n cymryd rhan yn nigwyddiad mawreddog Showcase Scotland a Celtic Connections yn Glasgow ymhlith talent fwyaf cyffrous ein gwlad.”

Lansiwyd y bartneriaeth yn 2022 gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford. Meddai:

“Mae cerddoriaeth yn ganolog i gymunedau Cymru ac i’n lles. Mae cerddoriaeth ryngwladol amrywiol wedi dylanwadu ar ein cerddoriaeth ni, ac yn y cyfnod anodd hwn, mae’n rhoi gobaith yma yng Nghymru ac yn ceisio cyrraedd y gynulleidfa ddiwylliannol Geltaidd sydd ar wasgar yn rhyngwladol, a honno’n gynulleidfa anferth sy’n newid.”    

Arddangosfa ddigidol oedd y gyntaf yn 2022, a hynny oherwydd pandemig Covid. Ymddangosodd Cynefin, Eve Goodman, N’famady Kouyaté, No Good Boyo, Pedair a The Trials of Cato. 

Yn 2023, rhannodd Cymru lwyfan â Llydaw, gan gyflwyno Cerys Hafana, Gwilym Bowen Rhys a’r triawd gwerin siambr, Vri. Mae’r artistiaid sydd wedi arddangos eu gwaith wedi teithio yn rhyngwladol ers hynny gan ymddangos gerbron cynulleidfaoedd o Ynysoedd Heledd i Wlad y Basg, o Dubai i’r Unol Daleithiau a Chanada.

Tra bo’r prif sylw yn 2024 ar Norwy, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cyflwyno’r artist Cymraeg a Llydaweg, Lleuwen, a’r pedwarawd gwerin, Pedair, a lwyddodd i ennyn cryn ddiddordeb yn arddangosfa ddigidol 2022.  Dyma’u hymddangosiad cyntaf yn Celtic Connections.

Mae Pedair, enillwyr Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2023, yn gyfuniad o ddoniau pedair o artistiaid gwerin amlycaf a mwyaf llwyddiannus Cymru: Gwennan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James. Maen nhw’n rhoi bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol, gyda threfniannau newydd ar y delyn, y gitâr, y piano a’r acordion. Byddan nhw hefyd yn perfformio ochr yn ochr â The Breath, y ddeuawd wych o Fanceinion sy’n canu a chyfansoddi, a hynny nos Sadwrn 27 Ionawr yn The Barnoy Hall.

Meddai Gwenan Gibbard, sy’n canu’r delyn ac yn gantores i Pedair:

“Dyma fydd y tro cyntaf i Pedair berfformio’n fyw fel rhan o Showcase Scotland yn Glasgow. Rydyn ni wedi perfformio fel artistiaid unigol yng ngŵyl Celtic Connections o’r blaen, ond yn edrych ymlaen yn arw at fod yno gyda’n gilydd eleni.Mae’n gyfle gwych i ddangos ein cerddoriaeth i gynrychiolwyr o bedwar ban byd, a bydd yn fraint cael bod yno’n perfformio cerddoriaeth Gymraeg.”

Bydd Lleuwen yn rhoi’r perfformiad cyntaf o’i gwaith newydd, Emynau Coll y Werin. Mae’r gwaith yn ffrwyth 10 mlynedd o ymchwil a chydweithio ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Bydd Lleuwen yn perfformio gyda recordiadau o’r archif ac yn cyfuno hen eiriau â cherddoriaeth newydd er mwyn mynegi neges oesol.

I gloi’r bartneriaeth dair blynedd, meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Hoffwn i ddiolch i Showcase Scotland a Celtic Connections am gyflwyno artistiaid anhygoel ac amrywiol o Gymru sydd wedi mynd â’n cerddoriaeth i bob cwr o’r byd ar ôl creu cysylltiadau.

Mae digwyddiadau fel Showcase Scotland a WOMEX yn gyfleoedd penigamp i artistiaid ddod o hyd i waith rhyngwladol, ac i gyflwyno diwylliant, iaith a doniau Cymru i’r byd. Does mo’r fath beth ag un hunaniaeth Geltaidd. Mae honno mor amrywiol â’n gwledydd ni. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ein cysylltiadau Celtaidd ledled y byd, o’r cysylltiadau hynafol â Llydaw i wyliau yn y pedwar ban sy’n cyflwyno ein cerddorion amrywiol i gynulleidfaoedd newydd.”

Y bartneriaeth arddangos nesaf sydd â galwad agored, a honno’n agor yr wythnos hon, yw llwyfan rhanbarthol Horizons yn WOMEX 24 ym Manceinion, a fydd yn cynnwys artistiaid o Gymru. I gael rhagor o fanylion ewch i: Y broses ymgeisio’n agor ar gyfer WOMEX 2024

Ychwanegodd Dafydd Rhys:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd a fydd yn helpu artistiaid sy’n gweithio mewn amryw o genres cerddorol i ddatblygu ac arddangos eu potensial creadigol, a hynny gartref ac yn rhyngwladol ill dau. Rydyn ni eisiau sicrhau bod cyfleoedd ar gael mor eang â phosibl gan gynnwys yng ngŵyl arddangos WOMEX. Bydd hynny’n galluogi artistiaid o Gymru i gymryd rhan yn y digwyddiad byd-eang pwysig hwn ym Manceinion eleni.”

Yn ogystal â’r sylw gan y diwydiant, bydd y perfformiadau cyhoeddus gan artistiaid o Gymru yn Celtic Connections eleni yn cynnwys:

  • Patrick Rimes a fydd yn rhan o’r Celtic Odyssée yn y Glasgow Royal Concert Hall, 25, Ionawr 7:30pm
  • The Black Feathers yn The Glad Café, 25 Ionawr 8:00pm
  • Adwaith yn CCA, 27 Ionawr 8:15pm
  • NoGood Boyo yn The Hug and Pint, 27 Ionawr 8:45pm

Mae tocynnau i Celtic Connections 2024 ar gael yn www.celticconnections.com