Mae Sefydliad PRS, y brif elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n ariannu cerddoriaeth newydd a datblygu talent, wedi cyhoeddi y bydd 35 o artistiaid yn y Deyrnas Unedig yn cael eu cefnogi drwy’r Gronfa Arddangos Rhyngwladol i berfformio yng ngŵyl SXSW yn Austin, Texas, yn yr UDA o 12 Mawrth 2022.

Yr artistiaid o Gymru sydd wedi derbyn cefnogaeth gan y gronfa eleni yw Buzzard Buzzard Buzzard, Cara HammondMace the Great.

Am y cyhoeddiad, dwedodd yn o dderbynwyr y Gronfa Cara Hammond: "Rydw i mor ddiolchgar i fod wedi derbyn Cronfa Arddangos Ryngwladol Sefydliad PRS ar gyfer fy arddangosfeydd yn SXSW, UDA! SXSW fydd fy ymddangosiad rhyngwladol cyntaf, gyda sioeau arddangos yn Swan Dive ar 17/03 gyda Focus Wales, ac yn Stephen F’s Bar ar 18/03. Rwyf newydd orffen recordio cerddoriaeth newydd ac rwy’n gyffrous i’w harddangos yn yr ŵyl gan y bydd yn dod â chyfleoedd newydd anhygoel i mi a fy ngherddoriaeth. Diolch PRS!"

Buodd Focus Wales hefyd yn cyhoeddi rhestr gyffrous o artistiaid o Gymru a fydd yn arddangos yn yr ŵyl yn 2022, yn Swan Dive, Austin, ar Ddydd Iau 17 Mawrth. Yr artistiaid hynny yw:

Bandicoot
Buzzard Buzzard Buzzard
Cara Hammond
Mace the Great
The Royston Club
The School
 

Amserlen llawn yr artistiaid o Gymru:

Buzzard Buzzard Buzzard
Dydd Llun 14 Mawrth 1:00am
Llwyfan BME yn Cedar Street Courtyard

Dydd Iau 17 Mawrth 5:00pm
Brush Park

Dydd Gwener 18 Mawrth 3:50pm
Llwyfan BME yn Cedar Street Courtyard


Bandicoot
Dydd Mawrth 15 Mawrth 9:00pm
Cheer Up Charlie's (tu mewn)
 

Cara Hammond
Dydd Gwener 18 Mawrth 12:00am
Bar Stephen F


Mace the Great
Dydd Gwener 18 Mawrth 9:00pm
Llwyfan BME yn Cedar Street Courtyard


The Royston Club
Dydd Mercher 16 Mawrth 10:00pm
The Green Jay

 

 

Mae’r Gronfa Arddangos Rhyngwladol yn cael ei chynnal gan Sefydliad PRS mewn partneriaeth â’r Adran Masnach Ryngwladol, Arts Council England, British Underground, Undeb y Cerddorion, Creative Scotland, PPL, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council of Northern Ireland ac Invest Northern Ireland. Mae’n rhoi cefnogaeth hollbwysig ac amserol i artistiaid i gymryd eu camau cyntaf mewn gwledydd rhyngwladol drwy eu galluogi nhw i berfformio mewn gwyliau a chynadleddau arddangos o bwys fel Canadian Music Week, SXSW, Gŵyl Reeperbahn, Gŵyl Zandari, Womex, Eurosonic, Jazzahead a Mutek, a’r rheini’n denu miloedd o bobl o bob cwr o’r byd sy’n gweithio yn y diwydiant.