Mae gan Lorient, dinas arfordirol yn Llydaw, gysylltiadau Celtaidd sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Drwy’r Festival InterCeltique de Lorient, a sefydlwyd yn 1971, mae’n dathlu cerddoriaeth, dawns a thraddodiadau’r gwledydd Celtaidd ledled y byd. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn denu miloedd o ymwelwyr, gan ddangos perthynas barhaus Lorient â threftadaeth Geltaidd a’i hymroddiad i warchod y diwylliant hynafol hwn.  

 

Cymru yng Ngŵyl Lorient InterCeltique, Llydaw 5-12 Awst 2023 

Roedd gan Gymru bresenoldeb cryf yn yr ŵyl eleni fel rhan o weithgareddau Cymru yn Ffrainc ar gyfer 2023.  

Roedd y brif ŵyl yn cynnwys perfformiadau gan VRï, The Trials of Cato, Only Boys Aloud, a Meinir Olwen. Bu arddangosfa ffotograffau hefyd o’r enw ‘Y Carneddau’ gan Scott Taylor o Wrecsam. Ddydd Llun, Awst 7fed, perfformiodd y cynhyrchiad dawns ‘Qwerin’ gan Osian Meilir yn y Théâtre de Lorient. Roedd rhaglen Cymru yn Ffrainc, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cynnwys perfformiadau ar lwyfan y Place des Pays Celtes yn Lorient.  

Perfformiodd band Mari Mathias ac AVANC dair gwaith dros y penwythnos agoriadol, gyda’r Prif Weinidog yn bresennol ddydd Gwener, Awst 4ydd. Roedd y Prif Weinidog hefyd yn bresennol ar gyfer agoriad yr arddangosfa ar ddydd Sadwrn, Awst 5ed.   

Drwy gydol yr wythnos, bu perfformiadau gan Only Boys Aloud, Meinir Olwen, Owen Shiers, The Trials of Cato a Cerys Hafana yn Place des Pays Celtes. Ddydd Sadwrn, Awst 12fed, cynhaliwyd cyngerdd arbennig Cymru yn Ffrainc yn Places des Pays Celtes yn cynnwys Owen Shiers, Cerys Hafana, a VRï .  

Roedd man hyrwyddo Cymru yn Ffrainc yn rhan o’r Place des Pays Celtes, wedi’i ddylunio a’i ddarparu gan Orchard Media and Events, gan ddarparu gwybodaeth am Croeso Cymru, diwylliant Cymru a’r iaith Gymaeg. Y nod oedd arddangos y cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw, gan gynnwys gefeillio trefi a phentrefi, a’r dreftadaeth ddiwylliannol a rennir, yn enwedig y Gymraeg a’r Llydaweg.  

 

Gallwch ddarganfod mwy am Raglen Ddiwylliant Cymru yn Ffrainc 2023 yma: