Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi 2023 yn Flwyddyn Cymru yn Ffrainc, i ddathlu a chryfhau’r cysylltiadau ar draws pob sector rhwng ein gwledydd. Ar ben hynny, cynhelir Cwpan Rygbi’r Byd ledled Ffrainc yn ystod hydref 2023 ac mae’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ym Mharis yn 2024 yn cynnig cyfnodau allweddol i weithio fel tîm Cymru i godi proffil Cymru yn Ffrainc a thu hwnt. Bydd y gweithgareddau’n pontio gyda’r rhaglen - UK France Spotlight on Culture “Together We Imaginate”, a fydd hefyd yn cynnwys artistiaid o Gymru. 

Mae Rhaglen Ddiwylliant Cymru yn Ffrainc 2023 yn dathlu’r celfyddydau, ieithoedd, chwaraeon a chanu. Bydd yn arddangos ymrwymiad cynyddol Cymru i les cenedlaethau'r dyfodol a chyfrifoldeb byd-eang, a bydd yn meithrin perthnasoedd sy'n canolbwyntio ar werthoedd craidd Cymru o ran cyfiawnder hinsawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, dwyieithrwydd, ac amlieithrwydd yn y celfyddydau. 

Mae Cymru a Ffrainc yn rhannu cysylltiad hanesyddol a diwylliannol diddorol sy’n dyddio’n ôl ganrifoedd. Yn y cyfnod canoloesol, cymerodd milwyr a marchogion o Gymru ran mewn ymgyrchoedd milwrol amrywiol yn Ffrainc. Yn ystod y cyfnod hwn cododd ffigurau chwedlonol fel Owain Glyndŵr, a ffurfiodd gynghreiriau diplomyddol gyda’r Ffrancwyr. Mae Cymru a Llydaw yn Ffrainc yn rhannu cariad at eu hanes, eu traddodiadau a’u diwylliant Celtaidd. Mae Cymru a Ffrainc yn parhau â chynghrair gref, gan weithio gyda’i gilydd ar brosiectau diwylliannol, addysgol, artistig a chwaraeon. Mae’r cyfan yn ymwneud â dathlu’r cyfeillgarwch rhwng y ddwy wlad.  

 

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru: 

"Mae perthynas Cymru a Ffrainc yn ganrifoedd oed, ac mae'r cysylltiadau diwylliannol hyn yn rhan bwysig o ail-greu'r berthynas honno yn y byd cyfoes a'n helpu i weithio gyda'n gilydd ar yr heriau y mae ein dwy boblogaeth yn eu rhannu." 

 

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: 

“Mae Blwyddyn Cymru yn Ffrainc, Cwpan Rygbi’r Byd, Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Paris yn cynnig cyfle i godi proffil Cymru yn rhyngwladol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i artistiaid o Gymru weithio gyda phartneriaid yn Ffrainc i gyflwyno rhaglen ddiwylliannol gyffrous a fydd yn cychwyn yr haf yma."

 

Dysgwch fwy am Gymru gyda'n ffilm 'Gwlad, Gwlad'.

Dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Prydeinig, bydd yn canolbwyntio ar 6 phrif leoliad:  

Darganfod mwy am yr artistiaid o Gymru:

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn: