Darganfyddwch mwy am yr artistiaid sy’n rhan o Flwyddyn Cymru yn Ffrainc yng nghyd â’n rhaglen ddiwylliannol ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023 sy’n cael ei gynnal ar draws Ffrainc.

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, magwyd Adwaith ynghanol ttraddodiad cyfoethog o indie-roc Cymraeg, a sin glos o fandiau arbrofol ac artistig. Wedi’u hysbrydoli gan linach y bandiau arbrofol, beiddgar yr 80au yng Nghymru roedd Adwaith yr un mor ddigyfaddawd yn eu gweledigaeth.  Fe wnaeth eu halbwm cyntaf ‘Melyn’ sgiwio’n berffaith y pryder a theimlad anesmwyth o dyfu’n oedolyn mewn hinsawdd wleidyddol anodd, mewn rhanbarth sy’n cael ei gwthio i'r cyrion a’i hanwybyddu’n rhy aml gan San Steffan.

Aeth y record ymlaen i ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, gyda'r grŵp yn ennill cefnogaeth rhai fel BBC Radio 1, BBC 6 Music, KEXP, NPR a Huw Stephens a BBC Introducing. Yn 2022, llwyddodd Adwaith i fod y band cyntaf erioed i ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am yr ail waith, ac erbyn hyn mae’r band wedi cael tair taith fawr lwyddiannus, ac hefyd wedi perfformio set glodwiw yn Glastonbury, wedi cefnogi Manic Street Preachers ac hefyd IDLES. Efallai bod Adwaith yn fand gyda gwreiddiau cryf yng Nghymru – ond wrth edrych i'r dyfodol, maen nhw bellach yn canolbwyntio ar fynd a’r iaith yn fyd-eang.  

 

Sefydlwyd Aelwyd Hafodwennog yn 1979 ac mae’r Aelwyd yn parhau i gynnig profiadau celfyddydol i bobl ifanc Sir Gar. Gyda dros 80 o aelodau ar draw yr ystod oedran  14 – 25, hyfforddiant celfyddydol a chystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yw’r prif ffocws yr Aelwyd. Caiff yr aelwyd lwyddiant yn aml yng nghystadlaethau corawl, dawnsio gwerin a chlocsio. Mae 45 o aelodau’r Aelwyd  yn edrych ymlaen yn arw at ledu diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg i gynulleidfa rhyngwladol yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd. 

 

Mae Al Lewis yn ganwr/cyfansoddwr dwyieithog yn wreiddiol o Ogledd Cymru ac sydd bellach wedi’i leoli yng Nghaerdydd. 

Hyd yn hyn, mae Al wedi rhyddhau cyfanswm o 7 albwm. Cafodd ei albwm Saesneg cyntaf, ‘In the Wake’, ei enwebu ar gyfer y Wobr Cerddoriaeth Gymreig gyntaf, ac mae ei albymau Cymraeg i gyd wedi treulio nifer o wythnosau yn #1 ar Siartiau Iaith Gymraeg BBC Cymru. 

 

Mae AVANC yn fand o gerddorion ifanc talentog sy’n cynrychioli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid gwerin o Gymru. Maent yn arbenigo mewn datgelu perlau cerddorol anghofiedig o lawysgrifau hynafol a selerydd llyfrgelloedd llychlyd a’u hail-greu yn eu delwedd egnïol eu hunain. Mae’r grŵp pwerus yma o 10 unigolyn, ynghyd â thelynau, bagbibau a dawnswyr clocsiau, yn olygfa ac yn sŵn sy’n werth eu gweld! 

Dechreuodd y band fel Ensemble Gwerin Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Nod y prosiect gan Trac Cymru oedd rhoi hyfforddiant sgiliau perfformio i gerddorion ifanc 18-25 i’w helpu i ddilyn gyrfa fel cerddorion gwerin proffesiynol, yn ogystal â chynrychioli cerddoriaeth werin Gymreig ar lwyfannau mawr.

 

 

Mae Cerys Hafana yn gyfansoddwr sy’n chwarae nifer o offerynnau, ac mae’n darnio, yn newid ac yn trawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae hi’n archwilio posibiliadau creadigol a nodweddion unigryw’r delyn deires, ac mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn seiniau wedi’u canfod, deunyddiau archifol a phrosesu electronig. Mae’n dod o Fachynlleth, Cymru, lle mae afonydd a ffyrdd yn cyfarfod ar y ffordd i’r môr. 

Edyf yw ei hail albwm a ryddhawyd yn 2022, ac fe’i dewiswyd fel un o ddeg albwm gwerin Gorau The Guardian yn 2022. Ym mis Ionawr 2023, ymddangosodd Cerys hefyd ar sioe Blwyddyn Newydd Cerys Matthews ar BBC 6 Music ‘Highlights of 2022’.

 

Sefydlwyd Côr y Gleision yn 2006 i hyrwyddo canu ar derasau rygbi ar hyd a lled Cymru. Nid oedd llawer o’r aelodau wedi bod mewn cor o’r blaen, ond mae’r profiad wedi bod yn un cadarnhaol iawn iddynt. Mae gan y côr dros 120 o aelodau erbyn hyn. Mae’r côr yn mwynhau amryw o ddigwyddiadau gwahanol dros y flwyddyn o ganu mewn gemau rygbi rhanbarthol a rhyngwladol i berfformio a chystadlu mewn gwyliau corawl rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r côr hefyd yn teithio bob dwy flynedd ac wedi mwynhau nifer o berfformiadau cofiadwy yn Sbaen, Yr Alban a Gwlad Belg hyd yn hyn.  

 

Syniad Owen Shiers, brodor o Orllewin Cymru, yw Cynefin. O’i gartref ym mhentref, Capel Dewi yng Nghwm Cletwr, gan deithio’r dirwedd gerddorol leol, daeth Owen o hyd i hen ganeuon a straeon, rhai ohonynt erioed wedi cael eu cofnodi o’r blaen, gan anadlu bywyd newydd i’r presennol. 

 

Graddiodd y soprano o Gymru Jessica Robinson ​​​​​o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gan ennill rhagoriaeth mewn MA Perfformio Opera. Yn ystod ei chyfnod yn CBCDC enillodd Jessica radd israddedig dosbarth cyntaf ynghyd â gwobr goffa Aneurin Davies, gwobr Mansel Thomas, gwobr Margaret Tann, gwobr Elias Soprano a hi oedd Ysgolor Tywysog Cymru 2016. Fel unawdydd oratorio a chyngherddau, mae hi’n ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau ledled y DU fel artist gwadd gyda nifer o Gorau Meibion enwog.

Yn rhyngwladol mae Jessica wedi perfformio yn Efrog Newydd, Tsieina, y Swistir a’r Eidal. Ym mis Mehefin 2023 cynrychiolodd Jessica Gymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd, enillodd ei rownd ac o ganlyniad ennill ei lle yn y rownd derfynol.  Derbyniodd adolygiadau gwych am ei pherfformiad o Chacun le Sait gan ei gwneud yn lais newydd cyffrous i Gymru yn Ffranic 2023.  

 

Mae Jukebox Collective ​​​​​yn gydweithfa gymunedol sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc sy’n meithrin lleisiau creadigol yfory. Mae eu hasiantaeth greadigol yn arbenigo mewn rheoli artistiaid, castio a churadu ochr yn ochr â rhaglen celfyddydau amlddisgyblaethol sydd wedi’i llunio o amgylch datblygiad artistiaid. Fel sefydliad cyntaf Cymru dan arweiniad pobl ddu, mae gan Jukebox hanes o ddatblygu talent a chynhyrchu gwaith creadigol sydd ar flaen y gad yn niwylliant Cymru.

Mae eu portffolio eang wedi caniatáu iddynt sefydlu partneriaethau gyda nifer o gydweithfeydd ysbrydoledig o Jamaica i Orllewin Affrica. Wrth iddynt dyfu maent yn parhau i adeiladu rhwydwaith byd-eang trwy groestoriad o ddiwylliant ieuenctid, dawns, cerddoriaeth a mwy.  

 

Wedi’i eni a’i fagu yng Nghastell-nedd Port Talbot yn Ne Cymru, mae Luke RV yn rapiwr a chanwr-gyfansoddwr y mae ei waith yn dangos gallu i ymateb yn gyflym ac yn ysgafn a chyfnewidiadwy, ynghyd â’i ddiweddeb unigryw ac etheraidd wedi ei gario i flaen y gad mewn byd cerddorol sy’n ehangu’n gyflym yn Ne Cymru. Yn syth ar ôl tymor prysur ble berfformiodd Luke yng ngŵyl The Great Escape a gŵyl Nass i enwi dim ond rhai, mae Luke yn ôl gyda cherddoriaeth newydd yn dilyn llwyddiant ei brosiect diwethaf ‘WHAT’S THAT over there’ oedd yn cynnwys traciau megis ‘LONG TERM PARKING’ a gafodd ei enwi fel trac yr wythnos ar BBC 1Xtra gan Lady Leshurr.

Yn ogystal â derbyn dros 1.5miliwn o ffrydiau ar ei gan gyda’r artistiaid o Lundain KeepVibesNear a Harvey Whyte, mae Luke RV yn barod am ail hanner prysur yn 2023 wrth iddo geisio pontio’r bwlch rhwng Cymru a’r byd. 

 

Yn hanu o Gaerdydd, Cymru, mae Mace The Great yn rym arloesol ym myd Rap, Hip-Hop, a Grime sy’n swyno cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i sain ddeinamig. Gyda chefnogaeth gan sefydliadau uchel eu parch o fewn y diwydiant fel BBC Wales a 1Xtra, Wonderland, NME, a mwy, enillodd talent Mace sylfaen o gefnogwyr ymroddedig, sy’n symbol o dreftadaeth gerddorol gyfoethog Caerdydd.

Wedi’i gydnabod fel rhan o Mobo Unsung Class 2022 a gwobr ‘Power UP’ a ‘Momentum’ sefydliad PRS, mae cyflawiniadau Mace yn cadarnhau ei botensial eithriadol a’i weledigaeth greadigol. O SXSW i Glasonbury, mae perfformiadau gwefreiddiol Mace yn cadarnhau ei statws fel seren newydd. Yn ymroddedig i ddatblygiad ieuenctid, mae’n mentora ac yn ysbrydoli artistiaid ifanc, gan sicrhau bod etifeddiaeth artistig Cymru yn ffynnu y tu hwnt i genedlaethau.    

 

Mae Mari Mathias yn creu ymddygiad cyfriniol, wedi’i yrru gan natur, tirwedd a thraddodiad. Mae hi wedi ennill Gwobr Artist Gwerin Gorau’r BBC am y ‘Gân Draddodiadol Orau’ gyda ‘Ty bach twt / Milgi Milgi’, trac a ryddhaodd ar ei Halbwm cyntaf yn 2022. Mae’n canu yn y Gymraeg, sef ei hiaith gyntaf, ac yn rhoi ei stamp cyfoes ei hun ar alawon gwerin traddodiadol o orllewin Cymru a Sir Benfro.

Mae’n dod â thon o egni i’r llwyfan a seiniau hyfryd caneuon melodaidd ysgafn, gan gyfuno eiliadau tyner o adrodd straeon â synau gwerin cyffrous. Mae ei cherddoriaeth yn creu cam hyderus ymlaen dros yr olion traed ôl-fodern sy’n ymestyn drwy’r gorffennol a’r presennol, gan archwilio atgof o hunaniaeth wedi’i ail-ddelweddu. 

 

Mae Richard Sheppard, sy’n fwy adnabyddus fel Localyn MC o Gaerdydd. Mae’n ymddangos ar ddwy o gyfresi Jammers Lord of the Mic yn ogystal â chydweithrediadau diweddar gyda Skepta, Bad Boy Chiller Crew ac Ownboss. Ar hyn o bryd mae’n un o obeithion rap mawr y Deyrnas Unedig.

 

 

Mae Meinir Olwen yn delynores o Aberystwyth yng ngorllewin Cymru. Mae’n chwarae’r delyn deires, offeryn nodweddiadol Gymreig gyda thair rhes o dannau sy’n galluogi gweadau disglair a harmonïau cromatig. Mae hi wedi perfformio ledled Ewrop fel unawdydd a gyda nifer o grwpiau, gan gynnwys Avanc, band gwerin ieuenctid cenedlaethol Cymru. 

 

Ers ei ffurfio yn 2010 gan Tim Rhys-Evans (Cyfarwyddwr Cerdd), mae Only Boys Aloud wedi darparu cyfleoedd unigryw i gannoedd o fechgyn ifanc ledled Cymru. Mae Only Boys Aloud yn griw ifanc o artistiaid sydd wedi perfformio ar lwyfannau mawr a bach yn y DU, yn ogystal â nifer o ymddangosiadau ar y teledu. Wedi’i greu’n wreiddiol ar gyfer un cyngerdd yn 2010, enillodd Only Boys Aloud y 3ydd safle yn Britain’s Got Talent 2012 a buont yn perfformio ym Mhalas Buckingham yn 2013 ar gyfer dathliad trigain mlynedd y coroni.

Mae’r bobl ifanc sy’n cael eu dewis ar gyfer yr Academi bob blwyddyn yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant eithriadol, gan gynnwys cyrsiau a roddir gan gyn-aelodau. Maen nhw’n dysgu repertoire o gerddoriaeth gynnar, yn amrywio o gerddoriaeth glasurol i sioeau cerdd diweddaraf Broadway. 

 

Yn un o brif nodweddion Rhaglen Ddiwylliant Cymru yn Ffrainc, mae QWERIN sydd wedi’i ysbrydoli gan batrymau dawnsio gwerin traddodiadol Cymru, sy’n llifo a gwau drwy’i gilydd, wedi’u cyfuno ag egni chwilboeth bywyd nos Cwiar. 

Mae Osian Meilir yn berfformiwr, yn wneuthurwr dawns ac yn artist symudiadau o Gymru. Mae’n brif siaradwr yn Fresh, arddangosfa Ryngwladol o Syrcas Gyfoes a Chelfyddydau Awyr Agored ym Mharis, sy’n nodi 20 mlynedd ers sefydlu Rhwydwaith Circostrada.  

 

Mae Sage Todz yn rapiwr o Ogledd Cymru ac yn gerddor R&B sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei gerddoriaeth yn ymestyn o draciau dril trawiadol a phwnio (pounding) 808au i R&B llyfn a mewnwladol wedi’i ysbrydoli gan trapsoul. Mae ei gatalog yn adlewyrchu ei brofiadau bywyd i raddau helaeth ac yn mynegi meddyliau mewnol am dreftadaeth, magwraeth a thrawma plentyndod. Wedi’i eni’n Essex a’i fagu yng nghymoedd Gogledd Cymru, mae Sage yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn naturiol yn ymgorffori’r iaith yn ei gerddoriaeth yn yr un modd a’i sgyrsiau dyddiol. Bu 2022 yn flwyddyn fawr i Sage wrth iddo gydweithio a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), cyn buddugoliaeth hanesyddol Cymru yn erbyn yr Wcrain yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd, i ryddhau “O Hyd”, sy’n deyrnged i gan brotest enwog Dafydd Iwan, ‘Yma O Hyd’.

Arweiniodd hyn at  dros 170,000 o ffrydiau ar Spotify a chefnogi’r arwr grime DDouble E, ymddangos ym mhapur newydd The Times ac ennill Gwobr Cerddoriaeth Gymreig: Gwobr Triskel.  

 

Mae Scott Taylor yn ffotograffydd o Wrecsam yng ngogledd Cymru. Yn 29 oed, penderfynodd Scott ddilyn breuddwyd a chwblhau gradd mewn Ffotograffiaeth a Ffilm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, gan raddio yn 2021 ac yna gwneud MA yn yr un brifysgol. 

Mae ei arddangosfa, ‘Y Carneddau’, yn canolbwyntio ar y grŵp o fynyddoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng ngogledd Cymru. Ar hyd ffordd yr A5 ar y ffin ddeheuol, efallai y bydd Y Carneddau yn ymddangos fel achos colledig i lawer o ffotograffwyr, o ystyried eu lleoliad anghysbell. Tynnir y llygaid yn syth i’r mynydd adnabyddus, Tryfan, ar ochr arall y ffordd, un o’r copaon mwyaf adnabyddus ym Mhrydain. O ganlyniad, mae’r Carneddau yn aml yn cael eu colli ac yn cael fawr o sylw. Er gwaethaf hyn, mae’r mynyddoedd ar raddfa fawr, gyda Charnedd Llywelyn yn cyrraedd 1064m o uchder. Mae’n ardal y mae angen ei harchwilio er mwyn datgelu ei chyfrinachau. 

 

​​Tri gŵr ifanc o berfeddion Cymru, gyda’i hanes hirfaith o fynd i'r capel yw VRï ​​​​, sydd wedi mynd ati i gloddio yng nghynnwrf diwylliannol y canrifoedd diwethaf ac wedi cael eu hysbrydoli gan stori anhygoel cyfnod pan gafodd cerddoriaeth a dawns draddodiadol Cymru eu hatal gan gapeli’r Methodistiaid, a chyn hynny, ei hiaith, gan y Ddeddf Uno. Fel archaeolegwyr sain, mae VRï wedi darganfod perlau coll sy’n taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog sy’n harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, harddwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn dafarn.

Mae eu caneuon, sy’n cael eu canu gyda harmonïau lleisiol pwerus, yn adrodd straeon am y bobl a oedd yn wynebu trafferthion 200 mlynedd yn ôl, yn union fel y mae llawer yn ei chael hi’n anodd heddiw. Mae’n seinwedd wych ac unigryw sy’n cysylltu ar draws y canrifoedd i roi ymdeimlad o berthyn i ni, o gymuned, ac ymdeimlad hudolus o ysgafnder a rhyddid sy’n codi calon. 

 

Wedi’i ffurfio yn Beirut, dychwelodd The Trials of Cato i’r DU yn 2016 a dechrau teithio ar draws y wlad, gan arwain Mark Radcliffe o BBC Radio 2 i’w galw’n “un o ddarganfyddiadau gwirioneddol y byd gwerin yn ddiweddar”. Cafodd eu halbwm cyntaf, Hide and Hair, dderbyniad da iawn, gan y cyhoedd a’r cyfryngau.

Ar ôl blwyddyn o deithio ledled y DU, Ewrop a Gogledd America yn 2019, daeth y momentwm hwnnw i ben yn sydyn oherwydd y pandemig byd-eang. Maen nhw wedi dod yn ôl ac wedi’u gweddnewid; mae’r offerynnydd a’r gantores aml-dalentog, Polly Bolton, wedi ymuno â’r band. 

 

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn: