Wrth i ni ddisgwyl yn eiddgar am ddechrau Cwpan Rygbi'r Byd ar 20 Medi, bydd llawer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal ar hyd a lled Japan. Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi bod yn gweithi mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen o weithgareddau diwylliannol, a fydd yn cynnig cyfle i Siapan ddarganfod Cymru a’i diwylliant. Bydd ffocws cryf ar lais a cherddoriaeth, gan adlewyrchu diwylliant Cymru sydd wedi'i feithrin yn ein cymunedau a'i ymwreiddio yn ein gwerthoedd cymunedol.

I gefnogi tîm rygbi Cenedlaethol Cymru, bydd ymgyrch #calonlan yn uno lleisiau o bob cwr o Gymru a'r byd i ganu'r anthem answyddogol fel trac karaoke. Bydd yn cael ei lansio'n swyddogol yn Dôm Cymru yn Tokyo, ac mae cyfle i berfformio #calonlan gydag is-deitlau Japaneeg yn Katakana.

Bydd amrywiaeth eang o gynigion diwylliannol ar gael, o ganu i brofi bwyd, a hyd yn oed cyfle i ddysgu Cymraeg gyda Takeshi Koike o Brifysgol Daito Bunka Tokyo yn Dôm Cymru, Shinjuku.Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio Rygbi: annwyl i mi/Dear to me mewn dinasoedd yn gynnwys Oita ac Yokohama. Os nad oedd hynny'n ddigon, bydd modd profi gwaith llawer o artistiaid o Gymru sydd wedi cysylltu â chefnogwyr yn Japan, gan gynnwys Cian Ciaran o'r Super Furry Animals, Gruff Rhys, HMS Morris a mwy. 

Gan weithio mewn partneriaeth â'r British Council, bydd arbenigwyr o'r ddwy genedl yn cwrdd yng Nghaerdydd ar 16 Medi ac yn Tokyo ar 1 Hydref i rannu dysgu, cyfnewid syniadau ac edrych ar feysydd lle gellir cydweithio yn y dyfodol o fewn maes y celfyddydau ac iechyd.

Bydd arddangosfa gan 12 o artistiaid gwydr a ceramig o Gymru, sy'n dathlu dyluniadau o Gymru a’r cyfeillgarwch sy’n tyfu rhwng Cymru ac Oita, yn cael ei chynnal yn yr oriel gelf gyfoes fawr a thrawiadol newydd yn Oita, yr OPAM.

Yn ôl yng Nghymru, bydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn cyflwyno gwaith yr artist maes glo, Sakubei Yamamoto yn Safle Treftadaeth y Byd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru. Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn parhau â'i phartneriaeth ag Amgueddfa Celf Fodern Japan a ddechreuodd gyda'r arddangosfa boblogaidd tu hwnt, Kisuna, yn 2018.

Mae'r genhadaeth ddiwylliannol yn cefnogi ac yn cyd-fynd â Chenhadaeth Fasnach Llywodraeth Cymru i Tokyo. Mae'r holl artistiaid/cwmnïau sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, yn ogystal â'r rhai hynny sydd wedi cofrestru ar y genhadaeth, yn Japan i dyfu eu busnes, i feithrin cydberthnasau ac i greu cydweithrediadau artistig.

 

日本へのウェールズ文化派遣団

 

 920日のラグビーワールドカップの開幕を待ち望む中、日本各地で様々な関連行事が催されます。ウェールズ政府の協力のもと、ウェールズ・アーツ・インターナショナルは、日本にウェールズを紹介する文化プログラムを提供すべく準備してきました。共同体の価値に根ざし地域で育まれてきたウェールズ文化を反映し、歌と音楽に焦点を当てます。

  #calonlan キャンペーンは、ウェールズ・ラグビーチームを応援するために、ウェールズや世界中の人達にウェールズラグビー非公式国歌である「カロン・ラン」をカラオケ版で歌ってもらい、その歌声を一つに集めますwww.calonlan2019.com 。東京に設置したウェールズ・ドームで#calonlan サービス提供を開始し、カタカナ字幕で歌える場を提供します。

 新宿ウェールズ・ドームでは歌から試食会まで様々な催しが行われますが、大東文化大学の小池剛史先生によるウェールズ語レッスンもあります。ナショナル・ダンス・カンパニー・ウェールズは、大分や横浜などで「ラグビー、私にとって大切なもの https://ndcwales.co.uk/rygbi-annwyl-i-midear-me  のパフォーマンスを行い ます。さらに、スーパー・ファーリー・アニマルズのキアン・キアラン、グリフ・リースやHMSモリスなど、日本でもお馴染みのアーティスト達の演奏を体験できます。

 「アートと健康」について、9月16日にカーディフで、10月1日には東京で、両国専門家による実践紹介と意見交換、今後の国際コラボレーションの可能性を模索する場をブリティッシュカウンシルと共同主催します。

 ウェールズと大分の友好交流を記念し、ウェールズを拠点に活躍するガラス工芸家やセラミック・アーティスト12名の作品を紹介するデザイン展が、大分県立美術館(OPAM)で開催されます。https://www.opam.jp/en/exhibitions/detail/564

 一方ウェールズでは、ウェールズ国立美術館・博物館主催で、「ユネスコ世界記憶遺産」に登録された山本作兵衛氏の炭坑画展をビックピット国立石炭博物館で開催します。また2018年に開催され大好評を収めた「絆」展に引き続き、ウェールズ国立美術館・博物館と日本の国立近代美術館とのパートナーシップが継続しています。

 今回の東京への文化派遣団は、ウェールズ政府のトレードミッションに沿って、それを支援するものです。参加団体やアーティストを含め、本プログラムに参画している関係者一同、日本においてビジネスを展開させ、相互交流を深め、芸術分野におけるコラボレーションを促進するために努力しています。