Cymru yw’r partner rhyngwladol a fydd yn cael sylw yn Showcase Scotland ym mis Ionawr 2022. Gwahoddir ceisiadau gan berfformwyr yng Nghymru sy’n barod i arddangos eu cerddoriaeth a datblygu cynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae Showcase Scotland, mewn partneriaeth â Gŵyl Celtic Connections yn Glasgow, yn gyfle unigryw i roi llwyfan i ddiwylliant cerddorol amrywiol Cymru. Mae’n gyfle hefyd i gerddorion a’u timau rheoli rwydweithio â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol a cherddorion o bob cwr o’r byd.
Cymru yw’r partner rhyngwladol a fydd yn cael sylw yn Showcase Scotland ym mis Ionawr 2022. Gwahoddir ceisiadau gan berfformwyr yng Nghymru sy’n barod i arddangos eu cerddoriaeth a datblygu cynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae Showcase Scotland, mewn partneriaeth â Gŵyl Celtic Connections yn Glasgow, yn gyfle unigryw i roi llwyfan i ddiwylliant cerddorol amrywiol Cymru. Mae’n gyfle hefyd i gerddorion a’u timau rheoli rwydweithio â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol a cherddorion o bob cwr o’r byd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai 2021
Beth yw Showcase Scotland?
Arddangosfa a digwyddiad i’r diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol yw Showcase Scotland. Mae’n cael ei gynnal dros bum niwrnod ac yn gyfle i arddangos talent o’r Alban ac un partner rhyngwladol bob blwyddyn. Showcase Scotland yw digwyddiad rhyngwladol mwyaf y diwydiant cerddoriaeth yn yr Alban ac mae’n denu trefnwyr, hyrwyddwyr gwyliau, trefnwyr digwyddiadau, asiantau a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth yn y pedwar ban. Mae Showcase Scotland yn cael ei gynnal bob blwyddyn yn ystod Gŵyl Celtic Connections.
Gŵyl flynyddol fawr yw Celtic Connections sy’n llwyfannu cerddoriaeth werin, cerddoriaeth wreiddiau a cherddoriaeth y byd. Mae’n dathlu cerddoriaeth Geltaidd a’i chysylltiad â diwylliannau o amgylch y byd, ac yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ledled Glasgow yn ystod mis Ionawr.
Mae’r rheini sy’n rhan o Showcase Scotland yn gallu mynd i holl berfformiadau a derbyniadau’r Showcase, ynghyd ag i’r ffair fasnach. Mae’r cyfan yn rhoi cyfleoedd i gysylltu ag artistiaid a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth yn rhyngwladol.
Mae perfformiadau Showcase Scotland hefyd yn rhan o Ŵyl Celtic Connections ac oherwydd hynny, maen nhw’n cael eu rhaglennu gan Gyfarwyddwr Artistig Celtic Connections.
A fyddai Showcase Scotland yn addas i mi/i fy mand i?
Dyma gyfle gwerthfawr i roi llwyfan i’ch cerddoriaeth gerbron gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, gan gynnwys trefnwyr gwyliau, cynrychiolwyr lleoliadau ac asiantau o bob rhan o’r byd. Bydd gan y bobl hyn ddiddordeb mewn cerddoriaeth werin, cerddoriaeth wreiddiau a cherddoriaeth sy’n dathlu ei dylanwadau Celtaidd ac sy’n cysylltu â diwylliannau yn y pedwar ban. Er bod pwyslais Celtic Connections a Showcase Scotland ar genres cerddoriaeth werin a cherddoriaeth draddodiadol gyfoes, rydyn ni’n awyddus i glywed gan ystod eang o artistiaid a thraddodiadau byw, yn enwedig:
- Artistiaid o gefndiroedd pobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig
- artistiaid anabl neu artistiaid sydd â salwch (meddyliol neu gorfforol)
- artistiaid o gymunedau difreintiedig
- artistiaid sy’n gweithio yn y Gymraeg
Mae gennyn ni ddiddordeb hefyd mewn pobl sy’n cydweithio’n arloesol gan gyfuno genres.
Beth yw’r broses ddethol?
Bydd ceisiadau a ddaw i law erbyn y dyddiad cau yn cael eu hystyried gan banel o weithwyr proffesiynol a chynghorwyr o’r diwydiant, a’r rheini’n dod o ystod eang o gymunedau a chefndiroedd proffesiynol. Bydd enwau aelodau’r panel yn cael eu cyhoeddi pan fyddan nhw wedi’u cadarnhau. Bydd y panel yn asesu pob cais ar sail y meini prawf ac yn creu rhestr fer derfynol o tua 12 o berfformwyr. Bydd y rhestr fer yn cael ei chyflwyno i Gyfarwyddwr Artistig Celtic Connections a fydd wedyn yn dewis nifer o berfformwyr (tua 6, gyda rhywfaint o hyblygrwydd) i ymddangos yn rhan o’r Showcase.
Beth fydd yr artistiaid llwyddiannus yn ei gael?
Bydd yr artistiaid llwyddiannus yn perfformio am dâl yn Celtic Connections a byddan nhw hefyd yn perfformio mewn digwyddiad sy’n llwyfannu perfformwyr o Gymru, a hynny’n benodol ar gyfer cynrychiolwyr o’r diwydiant cerddoriaeth sy’n rhan o Showcase Scotland.
Ar y diwrnodau pan gynhelir y Showcase, bydd nifer o gyfleoedd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant ac artistiaid eraill.
Bydd costau teithio, llety a per diems yn cael eu darparu. Byddwn hefyd yn ystyried costau mynediad a chostau gofal plant os yw hynny’n rhwystro’r artistiaid sy’n cael eu dewis rhag cymryd rhan.
Mae’r sector cerddoriaeth yng Nghymru yn cydweithio i greu rhaglen ddatblygu i’r artistiaid a fydd ar y rhestr fer, felly hyd yn oed os na chewch chi’ch dewis ar gyfer y Showcase ei hun, efallai y bydd nifer o gyfleoedd hyfforddi a mentora eraill ar gael ichi ddatblygu. Bydd y rhain yn cael eu darparu ar y cyd â’n partneriaid.
Eich cais
- Rhaid bod gennych chi brif gyfeiriad yng Nghymru.
- Dylai’ch cerddoriaeth ddangos cysylltiad â Chymru.
- Bydd angen ichi ddweud wrthyn ni pam eich bod chi’n credu bod eich cerddoriaeth yn addas i raglen artistig Celtic Connections.
- Dylech roi rhesymeg glir dros wneud cais a dangos sut mae’r cais yn berthnasol i ddatblygiad eich gyrfa.
- Bydd angen ichi ddangos hanes o lwyddo, a dangos bod gennych chi gynulleidfa eisoes i’ch cerddoriaeth drwy recordiadau, perfformiadau, y cyfryngau cymdeithasol, cerddoriaeth wedi’i lawrlwytho, adolygiadau o waith wedi’i recordio a pherfformiadau, lluniau fideo ac ati.
- Dylech ddangos sut y byddwch chi’n manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd mae Showcase Scotland yn eu cynnig, er enghraifft, drwy eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, cynnyrch hyrwyddo ar gyfer y digwyddiad, Pecyn Electronig i’r Wasg (EPK), neu luniau fideo byw.
- Efallai y bydd disgwyl ichi gymryd rhan mewn cyfweliadau a sesiynau tynnu lluniau yn ôl y galw ar gyfer prosiect Cymru yn Showcase Scotland.
- Rhaid ichi roi mynediad i’ch traciau presennol ar-lein, er enghraifft ar Spotify, itunes, Bandcamp ac ati.
- Byddai’n fanteisiol pe bai gennych chi dystiolaeth o ddiddordeb neu gefnogaeth gan y diwydiant cerddoriaeth eisoes.
- Byddai'n fanteisiol pe bai gennych chi dystiolaeth a manylion cynrychiolwyr proffesiynol, rheolwyr, asiantau neu hyrwyddwr sydd eisoes yn eich cefnogi.
- Rhaid ichi fod ar gael i berfformio yn Glasgow yn ystod dyddiadau gŵyl Showcase Scotland 2022. Mae’n debygol mai rhwng 26 a 30 Ionawr 2022 fydd hyn, ond oherwydd y pandemig gallai’r dyddiadau newid.
Eich cais
Gallwch wneud cais drwy anfon e-bost ysgrifenedig neu drwy ddull gwahanol fel cais fideo neu gais sain wedi’i recordio.
GWAITH ARTISTIG
Disgrifiwch eich gwaith ac i ba raddau rydych chi’n ystyried eich gwaith yn addas ar gyfer Showcase Scotland a Celtic Connections. (Dim mwy na 150 gair)
EICH HANES
Rhowch wybodaeth am eich gwaith mwyaf diweddar.
Rhowch fanylion perfformiadau diweddar, yn y Deyrnas Unedig ac/neu’n rhyngwladol, a rhowch ddolenni i unrhyw adolygiadau yn y wasg. Rydyn ni’n deall yn llwyr bod y pandemig presennol wedi rhoi stop ar bethau yn 2020/21, felly mae gennyn ni ddiddordeb mewn gwaith wnaethoch chi yn 2019/20, ynghyd â’ch potensial at y dyfodol.
HYRWYDDO
Rhowch ddolenni i’ch gwefan a/neu’ch platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook, instagram). Darparwch Becyn Electronig i’w Wasg os oes gennych chi un, neu luniau ac unrhyw luniau fideo byw o’ch gwaith.
Anfonwch eich cais drwy e-bost i info@wai.org.uk – gan roi ‘Showcase Scotland 2022’ yn y pwnc, erbyn 5.00pm ar 31 Mai 2021. Byddwn yn anfon neges i gydnabod bod eich cais wedi cyrraedd.
Os hoffech chi wneud cais am y cyfle hwn, ond eich bod yn ansicr a fyddai’n addas i chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â Judith Musker Turner Judith.muskerturner@wai.org.uk i gael sgwrs anffurfiol.