Mae’r rhaglen ariannu Cymru Ystwyth gan Lywodraeth Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau ar gyfer gweithgaredd y gellir ei gyflawni cyn diwedd mis Mawrth 2025. Mae'n ariannu gweithgarwch ar draws ffiniau a rhyngwladol i annog cydweithio economaidd.

Mae'n rhoi arian i hadu neu hwyluso gweithgarwch i fagu partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol. Mae'n cydnabod pwysigrwydd cydweithio diwylliannol a manteision cymdeithasol gweithio ar draws ffiniau. 

Mae arian Cymru Ystwyth yno i ariannu prosiectau ym meysydd diwylliant, treftadaeth a chwaraeon os bydd y gweithgarwch yn arwain at ragor o gydweithio parhaus a fydd o fudd i Gymru. Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ond nodwch nad yw Cymru Ystwyth yn debygol o gefnogi artistiaid neu berfformiadau unigol.

Mae rhagor o wybodaeth yma

 

Dyma ffocws y rownd yma:

 

Galw am gynigion: Môr Iwerddon 

Mae'r arian yn fenter i annog cydweithio ar draws ac o amgylch Môr Iwerddon yn rhan o Fframwaith Môr Iwerddon Llywodraeth Cymru. Un o'r tri maes cydweithio â blaenoriaeth yw Cymunedau a Diwylliant. 

Mae rhagor o wybodaeth yma ac yn Fframwaith Môr Iwerddon: canllawiau | LLYW.CYMRU 

 

Galw am gynigion: rhanbarthau o'r UE 

Mae'r fenter yma am gael ceisiadau gan sefydliadau sy'n gweithio yng Nghymru i gynyddu a chynnal cydweithio â rhanbarthau pwysig o’r UE gan gynnwys Llydaw, Gwlad y Basg/Euskadi, Baden Württemberg, Fflandrys a Silesia. 

Mae rhagor o wybodaeth yma 

 

Galw am gynigion: Cymru-Llydaw 

Menter i annog prosiectau rhwng Cymru a Llydaw. 

Llofnododd Cyngor Rhanbarthol Llydaw a Llywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a gafodd ei adnewyddu yn 2023. Roedd yn cyfeirio at nifer o feysydd cydweithio ond mae diwylliant â blaenoriaeth yn 2024 a 2025.

Mae rhagor o wybodaeth yma