Mae ‘Bydi Cymraeg’ yn gynllun gweithredu dwys newydd i gefnogi sefydliadau celfyddydol Cymru i osod y Gymraeg yng nghanol eu cynlluniau a gweithredoedd creadigol. Mae’n gynllun sydd wedi ei ddylunio gan Ysgogydd y Gymraeg, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r rhwydwaith gelfyddydol Creu Cymru a bydd ar gael i sefydliadau sy’n aelodau o Creu Cymru.
Bydd Bydi Cymraeg, sef unigolion gyda phrofiad helaeth o ddatblygu defnydd iaith trwy ddulliau creadigol, yn gweithio gyda’r sefydliadau llwyddiannus dros gyfnod o 6 mis ac yn rhoi gwerth 12 diwrnod o’u hamser yn rhad ac am ddim fel rhan o’r cynllun peilot. Mae croeso i sefydliad ychwanegu at y gyllideb sylfaenol sy’n rhan o’r pecyn er mwyn ymestyn neu gynyddu’r amser.
Bydd 2 sefydliad yn cael eu dewis yn y flwyddyn gyntaf. Y cyfan sydd rhaid gwneud yw datgan diddordeb i fod yn rhan o’r cynllun.
Rhaid ateb y cwestiynau isod i geisio:
Pam eich bod am gymryd y cynnig?
Beth fydd budd y cynnig i’ch sefydliad?
Sut y byddwch chi’n cefnogi’r cynllun ac yn profi ymrwymiad iddo?
Bydd y ffenest dangos diddordeb yn cau ar ddydd Gwener, 25ain o Orffennaf.
Ewch i https://creucymru.com/projects/bydi-cymraeg i wneud cais
Mae’r cynllun hwn yn ychwanegol i’r cynigion dysgu Cymraeg eraill sydd yn cael eu cynnig i sector y Celfyddydau trwy Cyngor Celfyddydau Cymru a’n partneriaid:
Cynnig Cymraeg (marc safon gan Comisiynydd y Gymraeg)
Byddai’n fuddiol os byddai’ch sefydliad eisioes yn cymryd mantais o’r cynlluniau yma.
Dywedodd Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr Creu Cymru
"Rydym yn gyffrous iawn i bartneru gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar y cynllun Bydi Cymraeg. Mae'n gyfle gwych i'n haelodau gael cefnogaeth ymarferol i roi'r Gymraeg wrth galon yr hyn maen nhw'n ei wneud. P'un a ydych chi newydd ddechrau neu'n edrych i adeiladu ar yr hyn sydd gennych eisoes ar waith, mae hon yn ffordd wych o archwilio syniadau newydd a chysylltu ar lefel dyfnach â chynulleidfaoedd sy'n siarad Cymraeg. Mae'n rhan o wneud Cymraeg yn elfen naturiol o'ch taith greadigol - ac rydyn ni yma i’ch helpu i wneud hynny’n bosib."