Ydych chi’n artist neu yn gweithio yn y sector greadigol a diwylliannol, yn preswylio yn Iwerddon (Gweriniaeth Iwerddon) neu yn y DU (Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban neu Gymru)? Yna cliciwch yma i gymryd rhan yn arolwg 10 munud Cysylltu Drwy Ddiwylliant British Council i artistiaid/gweithwyr creadigol sy’n byw yn y DU ac Iwerddon. 

Mae'r arolwg yn rhan o brosiect ymchwil a gomisiynwyd gan British Council Iwerddon ym mis Awst 2024. Mae'n cael ei gynnal gan y cwmni ymgynghori o Belffast, Starling Start. Mae'r ymchwil yn cyfuno ymatebion i'r arolwg, cyfweliadau, adolygiad desg o weithiau ysgrifenedig am bolisi, a mapio data sydd ar gael yn barod am gysylltiadau diweddar rhwng y D.U. ac Iwerddon ym meysydd y celfyddydau a diwylliant. Dyddiad lansio disgwyliedig yr ymchwil yw Chwefror/Mawrth 2025.
 

Y nod cyffredinol yw deall sut i feithrin mwy o gysylltiadau, cyd-ddealltwriaeth, a pherthnasoedd cryfach yn y celfyddydau a diwylliant rhwng y DU ac Iwerddon. Rydym yn casglu mewnwelediadau gan ymarferwyr unigol a chynrychiolwyr sefydliadol ar draws llenyddiaeth, cerddoriaeth, theatr, dawns, celfyddydau gweledol, pensaernïaeth, ffilm ac arfer amlddisgyblaethol. Trwy astudiaeth ymchwil dulliau cymysg, bydd yr ymchwil yn cynhyrchu gwybodaeth a mewnwelediad newydd ar symudedd diwylliannol a chysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan British Council yma.