Gwrando ar y Geiriau: y Gymraeg a ieithoedd brodorol y byd
13:00 BST | 01 Awst 2022
Pabell Llywodraeth Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Tregaron
Mae’n bleser gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru cyhoeddi digwyddiad arbennig ym mhabell Llywodraeth Cymru ar faes Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni, lle bydd Mererid Hopwood a Gareth Bonello yn trafod iaith a geiriau yng nghyd-destun Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig. Yn dilyn lansiad blwyddyn Gwrando yn 2022, sef thema Cymru ar gyfer blwyddyn gyntaf y Degawd, bydd ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru, yr Athro Mererid Hopwood, yn parhau â’r drafodaeth, gan sgwrsio y tro yma gyda’r artist ac aml-offerynnwr Dr. Gareth Bonello.
Ers 2016 mae Gareth wedi bod yn gweithio gyda beirdd a chantorion o’r gymuned Khasi yng Ngogledd Ddwyrain India. Bryniau Khasia a Jaiñtia oedd maes cenhadol cyntaf Cymdeithas Genhadol Dramor y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig a chafodd y Cymry ddylanwad sylweddol ar iaith lafar a llenyddiaeth Khasi. Ymchwiliodd Gareth i’r berthynas ar gyfer ei ddoethuriaeth gyda Phrifysgol De Cymru, gan ddefnyddio ymarfer creadigol i adeiladu deialog gydag artistiaid Khasi a ffurfio’r grŵp cerddorol y Khasi-Cymru Collective.
Fel rhan o’r sgwrs, bydd Mererid a Gareth yn darllen eu cerddi a rhannu caneuon, a gwahoddir y gynulleidfa i ymateb yn ystod y digwyddiad. Noder os gwelwch yn dda y bydd sain yn cael ei recordio drwy gydol y digwyddiad. Ceir cyfieithu ar y pryd Cymraeg-Saesneg yn ystod y digwyddiad.
Noder fod mynediad i'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, fodd bynnag, sicrhewch eich bod wedi prynu tocyn i'r Eisteddfod er mwyn cael mynediad i'r maes. Ceir mwy o wybodaeth ar docynnau i'r Eisteddfod yma.