Yn 2021, mae Cymru yn cynllunio blwyddyn o weithgareddau i arddangos y wledd o weithgaredd a'r cyfnewid sy'n digwydd rhwng Cymru a'r Almaen ym meysydd: masnach; gwyddoniaeth ac arloesi; diwylliant a'r celfyddydau; addysg; twristiaeth; a nodau datblygu cynaliadwy. Dyma neges gan Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru; Sarah Younan, Aelod Cyngor Celfyddydau Cymru ac Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Mewn rhaglen o weithgareddau dan arweiniad Llywodraeth Cymru, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o'r fenter rhwng ein dwy wlad, ac ar draws 2021 ein nôd yw meithrin ein cysylltiadau artistig presennol, yn ogystal â datblygu rhai newydd. Mae cefnogi ein hartistiaid i barhau i gydweithio a gweithio'n rhyngwladol yn bwysicach nac erioed, ac rydym yn falch o gyhoeddi y bydd ein Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol yn ailagor y mis hwn. Rydym yn arbennig o awyddus i annog ceisiadau gan artistiaid a chwmnïau o Gymru sy'n gweithio gyda phartneriaid yn yr Almaen. Cadwch lygad am fwy o gyhoeddiadau dros y diwrnodau a'r wythnosau nesaf ar ein cyfryngau cymdeithasol Twitter, Facebook, Instagram and AM - @WAICymruWales
Bydd uchafbwyntiau diwylliannol eraill trwy gydol y flwyddyn yn cynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar daith o amgylch yr Almaen; British Council a Llenyddiaeth Cymru yn partneru â Literaturhaus Stuttgart; Syr Bryn Terfel yn canu ‘The Flying Dutchman’ ym Munich a Kelly Lee Owens yn perfformio ei halbwm ‘Inner Song’ ym Merlin.
Mwy o wybodaeth ar: