Hoffai Celfyddydau Rhyngwladol Cymru longyfarch yr artist Taloi Havini ar ennill Gwobr Ares Mundi 10, gan arddangos gwaith sy’n amlygu materion allweddol a wynebir gan gymunedau brodorol.

Ar ddechrau trydedd flwyddyn Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig (2022-2032), mae’n hollbwysig cydnabod y rhan sylweddol y mae artistiaid yn parhau i chwarae wrth sicrhau bod ymwybyddiaeth a phrofiadau brodorol yn cael ei rannu’n ehangach.

Mae Taloi Havini yn artist amlddisgyblaethol sy’n defnyddio ystod o gyfryngau gan gynnwys ffotograffiaeth, sain-fideo, cerflunwaith, gosodiadau trochi a phrint, i archwilio croestoriadau o hanes, hunaniaeth ac adeiladu cenedl o fewn strwythurau cymdeithasol ‘matrilineal’ ei man geni, Rhanbarth Ymreolaeth Bougainville.

Ym Mostyn, Llandudno, mae Havini yn cyflwyno gosodiad fideo trochi mawr, Habitat, Mae’r gwaith tair-sianel yn parhau a’i hymchwiliad parhaus i etifeddiaeth echdynnu adnoddau a pherthynas fregus Awstralia yn y Mor Tawel. Yma, mae Hafini hefyd yn cyflwyno gwaith newydd, Lle mae’r afonydd yn llifo, (Panguna, Jaba, Pangara, Konawiru), cyfres o 40 o brintiau a dynnwyd o archifau ffilm yr artist yn dilyn ei thair trwy ganol ynys drofannol Bougainville. Yn Chapter, Caerdydd, mae Hafini yn cyflwyno gwaith ffotograffig newydd arall yn cynnwys murlun a thri blwch golau, o’r enw Hyena (dydd a nos).

Dywedodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Hoffwn ymestyn ein llongyfarchiadau twymgalon i Taloi Havini ar ennill Artes Mundi, mae ei gwaith yn hynod bwerus a’r un mor berthnasol i ni yma yng Nghymru ac ydyw led led y byd. Mae’r ffordd mae hi’n ymdrin gyda’r camddefnydd o dir a’r byd naturiol yn ei mamwlad Papua New Guinea yn cynnig cyfle i ni adlewyrchu ar effaith datblygiadau economaidd ar gymunedau a diwylliannau brodorol. 

 Mae creithiau chwareli llechi Eryri yn gefnlen drawiadol i'r gwaith a arddangosir yn Oriel Mostyn ac yn ein herio ni i ystyried yr hyn yr ydym ni’n ei wneud i'n hamgylchedd ni yma yng Nghymru er lles yr economi ond ar draul yr amgylchedd. Mae’r gwaith yn fewnwelediad i ddiwylliant brodorol sydd wedi cael ei herlid o’r tir ac yn ein hatgoffa o’n cyfrifoldeb bydol sydd arnom ni yma i gefnogi diwylliannau ac ieithoedd brodorol.  Mae hwn yn faes yr ydym yn parhau i edrych arno trwy ein rhaglen Gwrando sydd wedi cefnogi artistiaid i wrando a dysgu gan y nifer o gymunedau ac ieithoedd brodorol sydd mewn perygl fel rhan o Ddegawd ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig.”

Mae Celfyddydau Ryngwladol Cymru yn croesawi 10 curiadur o Lydaw i ymweld ag aml safleoedd Artes Mundi ac orielau  ar hyd a lled Cymru ac yn edrych ymlaen i gael cyflwyno i westau rhyngwladol waith Taloi Havini ym Mostyn.

Ar gyfer y rhifyn 10 mlynedd (20 Hydref 2023 i 25 Chwefror 2024), mae Artes Mundi yn arddangos gwaith ar draws pum lleoliad mewn partneriaeth yng Nghymru am y tro cyntaf. Yr artistiaid ar y rhestr fer a lleoliadau arddangos AM10 yw: Mounira Al Solh, Rushdi Anwar ac Alia Farid yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (un o deulu amgueddfeydd Amgueddfa Cymru); Nguyn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd; Taloi Havini ym Mostyn, Llandudno a Chapter, Caerdydd; Carolina Caycedo yn Oriel Davies Gallery, Y Drenewydd a Chapter, Caerdydd; a Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, Caerdydd.

Ceir mwy o wybodaeth am yr artistiaid mae CRC wedi cefnogi trwy raglen Gwrando yma