Yn dilyn cyfnod o ymgynghori eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau eu Strategaeth Rynglwadol Drafft i Gymru ar gyfer sylwadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y canlynol:

  • Cyfeiriad a ffocws strategol ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol; 
  • nodau strategol a meysydd o arbenigedd i hyrwyddo enw da Cymru a chodi ei phroffil;
  • a phartneriaid rhanbarthol allweddol.

Roedd yr holiadur gwreiddiol yn ceisio barn ar sut y dylai Cymru gyflwyno ei hun yn rhyngwladol. Cafodd yr holiadur ei ddefnyddio i ddatblygu’r strategaeth ryngwladol newydd i Gymru.

Yn wreiddiol, bwriad Llywodraeth Cymru oedd cyhoeddi dogfen strategaeth derfynol yr haf hwn. Fodd bynnag, gyda phenderfyniad y Llywodraeth DU i ohirio Brexit tan 31 Hydref, a’r diffyg eglurder ynghylch natur perthynas dyfodol rhwng y DU ac UE, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu defnyddio’r adborth o’r chwe mis diwethaf i gynhyrchu strategaeth ddrafft  i ennyn sylwadau yn lle.

Y themâu hyd yn hyn

Bu Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gweithio’n agos â’r sector gelfyddydol i gydlynu ymateb ar gyfer yr ymgynghoriad gwreiddiol. Roedd yn gyfle i gynnig trosolwg o’r themâu a'r materion oedd wedi dod i'r amlwg yn sgil y trafodaethau hynny, a thynnu sylw at destunau y gellid eu cynnwys yn y strategaeth.

Roedd hi hefyd yn gyfle i gyfathrebu ffyrdd y gallai’r strategaeth ehangu dull o weithio ac uchelgais newydd, gan sicrhau bod diwylliant Cymru'n cyrraedd ei botensial rhyngwladol.

Eisiau gwybod mwy am y themâu daeth i’r brig? Darllenwch  ymateb Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yma:

Mynegi eich barn

Mae Ymgynghoriad Strategaeth Ryngwladol Drafft i Gymru yn fyw ar-lein, ynghyd a’r holl wybodaeth am sut i ymateb drwy ffurflen ddigidol, drwy ebost neu drwy’r post. Mae hwn yn gyfle defnyddiol i gael mynegi eich barn ar y Strategaeth Ryngwladol, ac rydym yn annog sefydliadau ac unigolion o’r sector i gyfrannu i’r ymgynghoriad.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 23 Hydref 2019.